Chwaraewyr rygbi’n cael cychwyn da yng Ngholeg y Cymoedd

Mae grŵp o chwaraewyr rygbi talentog o Goleg y Cymoedd wedi cael eu dewis i ymuno â thîm rhanbarthol Dan 18 Gleision Caerdydd, ar ôl i’w talentau gael eu gweld gan hyfforddwyr yr academi.

Ar ôl eu llwyddiant yn academi rygbi nodedig Coleg y Cymoedd, bydd 21 o chwaraewyr yn ymuno â thîm rhanbarthol o dan 18 Gleision Caerdydd, yn dilyn ôl troed cyn ddysgwyr a chwaraewyr hŷn cyfredol y Gleision fel Jarrod Evans, Aled Summerhill a Dillon Lewis, i enwi ond tri.

Ar ben hynny, dewiswyd 18 o chwaraewyr Coleg y Cymoedd i gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol, gyda deg o’r chwaraewyr cyfredol yn cael eu dewis ar gyfer y sgwad o dan 18 oed. Mae’r wyth arall o’r coleg a chyn-fyfyrwyr wedi cael eu dewis i fod yn rhan o dîm Cymru o dan 20 oed cyn twrnameint y Chwe Gwlad.

Mae Shane Lewis-Hughes, un o’r chwaraewyr a ddewiswyd i chwarae i’r Gleision o dan 18 ac i dîm cenedlaethol Cymru o dan 20, ar hyn o bryd yn astudio yng Ngholeg y Cymoedd ar gampws Nantgarw. O fynychu academi rygbi Coleg y Cymoedd, mae Shane wedi datblygu sgiliau rygbi o dan hyfforddwyr arbenigol.

Dywedodd Shane sy’n 18 oed ac yn dod o bentre Glynrhedynog (Ferndale), “Ron i ar ben fy nigon i gael fy newis! Roedd yn sioc i gael fy newis ar gyfer tîm Cymru o dan 20 oed gan fod hyn yn golygu mod i’n esgyn i lefel uwch a finnau ddim ond yn 18 oed, ond mae’n gyfle anferth a dwi’n mynd i wneud fy ngorau glas.

“Bydd y rhaglen hyfforddi yn mynd yn fwy dwys nawr wrth i ni agosau at y Chwe Gwlad, ond mae’n anhygoel i fod mewn amgylchedd mor broffesiynol. Fy mreuddwyd ydy chwarae dros fy ngwlad a’r Llewod felly dw i’n mynd i gario ymlaen i weithio’n galed a manteisio i’r eithaf ar y cyfle unigryw hwn.”

Dechreuodd Shane ddangos ddiddordeb mewn rygbi pan oedd yn chwe mlwydd oed gan chwarae dros dimoedd iau yng Nghlwb Rygbi Ferndale ac Ystrad Rhondda. Mae ei gwrs BTEC mewn Chwaraeon yng Ngholeg y Cymoedd wedi cynorthwyo a datblygu dawn a gallu’r blaenasgellwr ifanc ar y maes.

Nod Academi rygbi’r coleg ydy sicrhau bod y dysgwyr yn cael eu paratoi’n academaidd petai eu gyrfa rygbi ddim yn cael ei gwireddu. Caiff y dysgwyr eu hannog i ddatblygu sgiliau gwaith tîm a’r penderfyniad a fydd yn eu cynorthwyo i lwyddo mewn unrhyw gyflogaeth yn y dyfodol, ym maes rygbi proffesiynol neu mewn prifysgol.

Dywedodd Lee Davies, tiwtor Shane: “Rydyn ni fel tîm hyfforddi a rheoli, wrth ein bodd bod myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr yn cael eu dewis i’r gwahanol lefelau. Mae’r bechgyn wedi gweithio’n galed iawn i ennill yr anrhydeddau hyn, yn rhoi llawer o amser ac ymdrech i gyflawni eu targedau. Maen nhw’n haeddu pob llwyddiant a dymunwn yn dda iddyn nhw yn y dyfodol.”

Bydd y chwaraewyr a ddewiswyd ar gyfer timoedd Cymru o dan 18 ac o dan 20 oed nawr yn cymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddiant dwys yn arwain at dwrnameint y Chwe Gwlad, gyda’r gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon Ddydd Gwener, Chwefror 5ed.

Y chwaraewyr o Goleg y Cymoedd a ddewiswyd ar gyfer y Gleision o dan 18 ydy Connor Lewis (Tonypandy), Tom Mably (Cyncoed), Corrie Tarrant (Tonypandy), Iestyn Harris (Porth), Ben Warren (Merthyr Tudful), Callum Bradbury (capten) (Pontypridd), Ben Sier (Merthyr Tudful), Caleb Docking (Caerdydd), Alun Lawrence (Pontyclun), Sion Edwards (Porth), Sion Jones (Y Barri), Dane Blacker (Pontypridd), Ben Jones (Treharris), Cameron Lewis (Porth), Declan Thomas (Tonyrefail), Thomas Sheppard (Ferndale), Conor Jones (Llandaf), Aron Clarke (Ton Pentre), Garyn Payne (Aberdâr), Adam Ashford (Pontypridd), Shane Lewis-Hughes (Ferndale).

Y chwaraewyr a ddewiswyd ar gyfer Cymru o dan 18 ydy Connor Lewis (Tonypandy), Corrie Tarrant (Tonypandy), Caleb Docking (Caerdydd), Callum Bradbury (Pontypridd), Shane Lewis Hughes (Ferndale), Alan Lawrence (Pontyclun), Dane Blacker (Pontypridd), Ben Jones (Treharris), Declan Williams (Tonyrefail), Cameron Lewis (Porth).

Yr wyth chwaraewr ychwanegol a fydd yn ymuno â thîm Cymru o dan 20 oed ydy Kieron Assiratti (Porth), Dillon Lewis (Pontypridd), Shane Lewis-Hughes (Ferndale), Morgan Sieniawski (Pontypridd), Jarrod Evans (Pontypridd), Harri Millard (Aberpennar), Elis-Wyn Benham (Caerdydd), Rob Jones.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau