Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Llais y Dysgwyr Coleg y Cymoedd yn ddiweddar ar gampws Nantgarw i drafod ystod o faterion sy’n berthnasol i’r dysgwyr.
Ymunodd y staff â dros 40 o gynrychiolwyr o Gynghorau Llais y Dysgwyr y pedwar campws;
Roedd Gweithredwyr y Dysgwyr yn ymwneud â gosod y rhaglen ar gyfer y digwyddiad; gan gynnwys cwis torri’r iâ a ddarparwyd gan Gyfeillion y Ddaear, gweithdai rhyngweithiol, amrywiaeth o gyflwyniadau a digon o gyfle i gael trafodaeth fywiog.
Â
Roedd pynciau’r Gynhadledd eleni fel a ganlyn:
Campws Aberdâr
Teitl pwnc: Arolwg Llythrennedd Digidol
Campws Nantgarw
Teitl pwnc: Iechyd Meddwl
Campws y Rhondda
Teitl pwnc: Profiad Gwaith
Campws Ystrad Mynach
Teitl pwnc: Cyffuriau
Croesawodd Kian Griffiths, Cadeirydd y Gynhadledd, y rhai oedd yn bresennol ac eglurodd fformat y diwrnod, gan gynnwys yr egwyl ginio; pan fyddai amrywiaeth o luniaeth gan gynnwys pizza yn cael ei weini. Yna cyflwynodd Liam Francois Lansiad Menter Ailgylchu Walkers Crisps i amlygu pwysigrwydd cymryd perchnogaeth dros ofal ein planed.
Wrth gloi’r digwyddiad, dywedodd y Pennaeth Karen Phillips “Mae’r coleg bob amser yn awyddus i glywed barn ein dysgwyr ac rydym yn gwerthfawrogi’r amser a dreulir yn gwrando ar eu barn. Hoffwn ddiolch i UCM sy’n cefnogi’r Gynhadledd, a hefyd i’n staff am yr arweiniad a’r anogaeth y maent yn eu rhoi i’n dysgwyr. Yn sicr, Cynhadledd y Dysgwyr oedd uchafbwynt fy wythnos – roedd y dysgwyr yn wychâ€.
“