Anogir ymholiadau cynnar, gan fod llefydd yn cael eu llenwi’n gyflym iawn bob blwyddyn.
Gellir gwneud ymholiadau cychwynnol drwy gysylltu â Rheolwr y Feithrinfa, Gail Harris, ar 01443 814237. Bydd Gail yn eich cynghori ar y dull presennol o gofrestru eich plentyn yn y feithrinfa.
Cymorth Cronfa Ariannol Wrth Gefn
Cymorth ariannol i ddysgwyr sy’n cael anawsterau o ganlyniad i incwm isel yw’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn. Drwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, gall y Coleg gefnogi dysgwyr cymwys gyda ffioedd gofal plant, hyd at uchafswm o £48 y dydd.
Cymorth i ddysgwyr 16+ oed ar gwrs Addysg Bellach llawn amser yw’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn – mae’r gronfa’n cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru i golegau i gefnogi dysgwyr. Mae’r gronfa’n gyfyngedig ac yn amodol ar newid ac yn amrywio o dymor i dymor ar sail lefel y cyllid mae’r Coleg yn ei dderbyn bob blwyddyn.
Nid yw Dysgwyr Addysg Uwch yn gymwys ar gyfer y gronfa yma.
Bydd ffurflenni cais ar gael drwy eich Cyfrif Prospect. Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth gan eich tîm Gwasanaethau Campws, sydd wedi’i leoli yn Nerbynfa eich Campws.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn e-bost cymeradwyo gan y Swyddog Grantiau, yn cadarnhau’r math o gefnogaeth a chyfarwyddiadau am beth i’w wneud nesaf.