Cofrestrwch eich Plentyn yn y Feithrinfa

Anogir ymholiadau cynnar, gan fod llefydd yn cael eu llenwi’n gyflym iawn bob blwyddyn.

Gellir gwneud ymholiadau cychwynnol drwy gysylltu â Rheolwr y Feithrinfa, Gail Harris, ar 01443 814237. Bydd Gail yn eich cynghori ar y dull presennol o gofrestru eich plentyn yn y feithrinfa.

Cymorth Cronfa Ariannol Wrth Gefn

Cymorth ariannol i ddysgwyr sy’n cael anawsterau o ganlyniad i incwm isel yw’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn. Drwy’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, gall y Coleg gefnogi dysgwyr cymwys gyda ffioedd gofal plant, hyd at uchafswm o £48 y dydd.

Ynglŷn â’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn

Cymorth i ddysgwyr 16+ oed ar gwrs Addysg Bellach llawn amser yw’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn – mae’r gronfa’n cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru i golegau i gefnogi dysgwyr. Mae’r gronfa’n gyfyngedig ac yn amodol ar newid ac yn amrywio o dymor i dymor ar sail lefel y cyllid mae’r Coleg yn ei dderbyn bob blwyddyn.

Nid yw Dysgwyr Addysg Uwch yn gymwys ar gyfer y gronfa yma.

Gwybodaeth ychwanegol am y Gronfa Ariannol Wrth Gefn

  • Mae’r gyllideb ar gyfer Cymorth Gofal Plant yn gyfyngedig ac yn cael ei dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
  • Dim ond pan nodir bod y myfyriwr yn mynychu’r Coleg ar y gofrestr y bydd y Coleg yn talu am ffioedd.
  • Mater i’r dysgwr yw gwneud yn siŵr eu bod yn fodlon ar y darparwr gofal plant cyn ymrwymo i gytundeb cyfreithiol priodol gyda’r darparwr gofal plant.

Ceisiadau i’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn

Bydd ffurflenni cais ar gael drwy eich Cyfrif Prospect. Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth gan eich tîm Gwasanaethau Campws, sydd wedi’i leoli yn Nerbynfa eich Campws.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn e-bost cymeradwyo gan y Swyddog Grantiau, yn cadarnhau’r math o gefnogaeth a chyfarwyddiadau am beth i’w wneud nesaf.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau