Cogydd teledu yn dychwelyd i Goleg y Cymoedd i ysbrydoli talent coginio’r dyfodol

Mae cogydd crwst llwyddiannus o Gymru a welodd ei greadigaethau yn ymddangos ar deledu cenedlaethol wedi dychwelyd i’r coleg yn ne Cymru lle bu’n astudio i rannu ei gyngor a’i brofiadau gyda chogyddion ifanc uchelgeisiol sy’n gobeithio ymuno â’r diwydiant.

Ymwelodd Michael Coggan, a ymddangosodd ar ‘Bake Off: The Professionals’ Channel 4, â dysgwyr coginio yng Ngholeg y Cymoedd i roi dosbarth meistr coginio unigryw iddynt ac i ateb unrhyw gwestiynau llosg a oedd ganddynt am weithio yn y sector.

Roedd y pâtissier talentog, sy’n gweithio fel Prif Gogydd Crwst yng ngwesty moethus pum seren Vocoâ„¢ St David’s yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, am roi yn ôl i’r coleg a helpodd gychwyn ei yrfa.

Yn ystod ei ymweliad, treuliodd Michael y prynhawn yn dysgu dysgwyr y cwrs Lefel 3 Patisserie sut i feistroli sgiliau pwdin hanfodol fel tymheru siocled a chreu garneisiau. Hefyd rhoes gipolwg iddynt ar fyd entremets – seigiau Ffrengig melys bach a weinir yn draddodiadol rhwng cyrsiau sawrus – a dangosodd iddynt sut i greu addurn siocled i arddangos y creadigaethau cain hyn.

Gyda CV coginio syfrdanol, astudiodd Michael Goginio Proffesiynol yn wreiddiol ar gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd, cyn sicrhau ei rôl broffesiynol gyntaf yng ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd, yn dilyn profiad gwaith gyda’r gadwyn o westai. Yna bu’n gweithio fel cogydd crwst yn ystâd wledig foethus, The Gleneagles Hotel yn yr Alban, cyn sicrhau ei rôl bresennol ac ymddangos ar y gyfres Channel 4, lle cyrhaeddodd y drydedd rownd gyda’i bartner patisserie, Rebekah Clash.

Yn dilyn gyrfa lwyddiannus, roedd Michael eisiau rhannu ei lwyddiant a’i wybodaeth gyda’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr patisserie. Meddai: “Er bod fy swydd wedi mynd â mi ledled y DU, roeddwn bob amser yn gwybod fy mod eisiau dychwelyd i’r coleg ryw ddydd i hyfforddi er mwyn diolch i diwtoriaid am y gefnogaeth a gefais pan oeddwn yn ddysgwr fy hun.

“Mae wedi bod yn hyfryd dychwelyd i’r man lle datblygais fy nghariad at patisserie yn y lle cyntaf. Heb y gefnogaeth a’r cyfleoedd a gefais yma, ni fyddwn le’r ydw i nawr, felly roeddwn am roi rhywbeth yn ôl. Gall dilyn gyrfa yn y diwydiant hwn fod yn anodd felly gobeithio fy mod wedi helpu ysbrydoli dysgwyr i ddal ati a gweithio ar ddatblygu eu sgiliau crwst.”

Yn ogystal â helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ymarferol, rhannodd Michael ei gyngor arbenigol gyda nhw hefyd, gan drafod eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol a chynnig cyfle iddynt gymryd eu camau cyntaf i’r byd crwst proffesiynol gyda lleoliad profiad gwaith yng Ngwesty Voco â„¢ St David’s.

Mae Jess Sullivan, 20 o Abertyswg, yn gynrychiolydd dosbarth ar gyfer y cwrs Lefel 3 Patisserie a mynychodd ymweliad Michael. Meddai: “Roedd hi mor ysbrydoledig cael cipolwg ar sut beth allai bywyd fod ar ôl coleg os byddwn yn gweithio’n galed. Dysgodd Michael gymaint o sgiliau inni, fel sut i ddefnyddio gwahanol offer a gwneud y gorau o’r cynhwysion, a fydd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer cystadlaethau a swyddi yn y dyfodol.

“Fy mreuddwyd yw cael fy musnes fy hun ac agor becws ar ôl gweithio yn y diwydiant patisserie am gyfnod, a rhoes Michael lawer o awgrymiadau a chyngor imi ar sut i gyflawni hyn.”

Gyda dros 160 o ddysgwyr yn astudio cyrsiau coginio, gan gynnwys Patisserie Lefel 3, mae’r coleg wedi datblygu ei gyfleusterau o’r radd flaenaf gyda chyfarpar hyfforddi arbenigol, sy’n gosod y coleg ar y map yn lleol ac yn genedlaethol fel cyfleuster hyfforddi coginio.

Hefyd, mae’r coleg yn rhedeg pedwar bwyty ar draws ei gampysau yn Aberdâr, Nantgarw, Ystrad Mynach a’r Rhondda, gyda dysgwyr yn creu ac yn paratoi seigiau i’r cyhoedd sydd wedi derbyn adolygiadau gwych ar Trip Advisor.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau