Mae arbenigwyr addysg o goleg addysg bellach yng nghymoedd De Cymru wedi teithio tua 5000 milltir i helpu i wella ansawdd addysgu a dysgu i addysgwyr a chynyddu symudoledd sgiliau myfyrwyr yn India.
Mae Coleg y Cymoedd wedi partneru â thri choleg yn India i rannu arferion gorau addysgu a datrys rhai o’r heriau allweddol mae’r addysgwyr yn India’n delio â nhw’n ddyddiol. Ffurfiwyd y bartneriaeth drwy’r corff ‘UK-India Education and Research Initiative’ (UKIERI), a Choleg y Cymoedd ydy’r unig goleg o Gymru i fod yn rhan ohono.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae hyn wedi golygu i’r bartneriaeth anfon pedwar aelod o uwch reolwyr Coleg y Cymoedd i golegau ardal arfordirol Andra Pradesh a rhan ddeheuol Tamil Nadu i gwrdd â staff y colegau, gan gynnwys Penaethiaid a darlithwyr, er mwyn fynd i’r afael â meysydd gwelliannau a chydweithio.
Bu’r daith gyntaf i India’n fodd i dîm Coleg y Cymoedd ganfod y bylchau mewn sgiliau o fewn y tri choleg partner yn ogystal ag isadeileddau TG gwael. Dros gyfnod y prosiect, bu’r tîm yn canolbwyntio ar weithio gyda chynrychiolwyr o’r India i ffurfio cynllun gweithredu strwythuredig, a rhannu offer ac adnoddau i’w helpu i gyflwyno gwelliannau fyddai’n gwella’r addysg yn sylweddol.
Gallodd y staff cyfatebol o’r India hefyd deithio i’r DU i fod yn rhan o wythnos o hyfforddiant dwys, gan gynnwys treulio deuddydd ar gampws Nantgarw, ymhlith colegau eraill led-led y DU. Bu’r ymwelwyr yn cysgodi swyddi ac arsylwi ar wersi, gan ddysgu dulliau newydd o addysgu. Â
Mae dau o’n staff newydd ddychwelyd wedi ymweliad â’r India i werthuso a mesur effeithiau, sef, Mark Thomas, Cyfarwyddwr Campws, a John Phelps, Is-Bennaeth yng Ngholeg y Cymoedd, ac fe gawson nhw weld drostyn eu hunain sut bu i’r bartneriaeth fod o fudd i’r tri choleg draw yno.
Wrth drafod y cysylltiadau oedd wedi eu ffurfio, meddai Mr Phelps: “Mae hon wedi bod yn rhaglen ddwy flynedd wirioneddol effeithiol ac rydyn ni wedi gweld gwelliannau mawr yn adnoddau’r colegau y cawson ni ein cysylltu â hwy. Rydyn ni wedi llwyddo i drosglwyddo rhai cynghorion am arferion addysgu seiliedig ar dystiolaeth a hefyd brosesau ansawdd y mae’r colegau bellach yn eu hailadrodd yn llwyddiannus.â€
Ond ychwanegodd Mr Phelps mai nad y colegau yn India oedd yr unig rai i gael manteision o’r bartneriaeth: “Fe wnaethon ninnau ganfod ambell ddull o fynd ati oedd gan y colegau yn India, rhai nad oedden ni wedi eu hystyried o’r blaen yng Ngholeg y Cymoedd. Fe wnaeth eu dull o gofnodi rhai agweddau o ganlyniadau’r myfyrwyr a’r colegau yn India gryn argraff arnon ni ac, o ganlyniad, bydd hyn yn rhywbeth byddwn ni’n ystyried ei gyflwyno yma. Drwy’r cyfan, roedd yn brofiad hynod o fuddiol i bawb gymrodd ran.â€Â
“