Coleg y Cymoedd ar y trywydd iawn i greu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr rheilffyrdd diolch i bartneriaeth gyda Protech Rail Engineering a Ganymede

Mae un o’r colegau addysg bellach mwyaf yn Ne Cymru wedi ymuno ag enwau blaenllaw’r diwydiant rheilffyrdd i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr rheilffyrdd medrus a chreu cannoedd o brentisiaethau.

Mae Coleg y Cymoedd wedi uno â Protech Rail Engineering – cwmni o Drefforest sy’n darparu arbenigedd peirianneg ac adeiladu i ddiwydiant y DU – i greu ‘Academi Hyfforddiant Protech’. Cynlluniwyd y rhaglen i arfogi gweithlu’r wlad â’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i ateb y galw yn y dyfodol.

Yn sgil y cydweithio, bydd Protech Training Academy yn ymuno â phartner y diwydiant Ganymede, cyflenwr personél cenedlaethol y diwydiant rheilffyrdd, sef y cyflogwr cyntaf i ymgysylltu â’r bartneriaeth, gan ddarparu prentisiaethau i ddysgwyr ar y rhaglen. Mae’r cwmni wedi recriwtio 11 prentis cychwynnol ac yn disgwyl cyflogi hyd at 100 dros y ddwy flynedd nesaf gyda chyfleoedd am gyflogaeth lawn amser yn dilyn eu prentisiaethau.

Disgwylir i’r galw am weithwyr medrus yn y diwydiant rheilffyrdd gynyddu yn dilyn y cyhoeddiad am nifer o brosiectau isadeiledd rheilffyrdd mawr ledled y DU, yn ogystal â phryderon ynghylch colli’r sgiliau a wynebir gan y diwydiant dros yr ychydig flynyddoedd nesaf wrth i’r gweithlu heneiddio. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod 28% o weithwyr cyfredol y diwydiant rheilffyrdd dros 50 oed ac mae City & Guilds yn rhagweld y bydd angen 120,000 o bobl ychwanegol yn y sector dros y pump i ddeng mlynedd nesaf i gyflawni gofynion cynlluniau sydd ar y gweill.

Yng Nghymru yn unig, mae Trafnidiaeth i Gymru wedi cyhoeddi rhaglen o ddeng mlynedd o fuddsoddi mawr i wella rhwydwaith trafnidiaeth y wlad gan gynnwys tri chwarter biliwn o bunnoedd i drydaneiddio prif linellau’r cymoedd fel rhan o brosiect metro De Cymru; £800m i ddatblygu trenau newydd cyflymach a gwyrddach yn ogystal â £194m i wella gorsafoedd presennol a chreu pum gorsaf newydd sbon.

Bydd Academi Hyfforddiant Protech yn darparu hyfforddiant a mentoriaeth o safon diwydiant i ddysgwyr yng nghyfleuster peirianneg rheilffyrdd arbenigol gwerth £3m Coleg y Cymoedd yn Nantgarw. Mae’r cyfleuster yn cynnwys canolfan dysgu dan do o’r radd flaenaf, trac rheilffordd awyr agored ar raddfa lawn a chyfleusterau hyfforddiant ar gyfer peirianneg trydaneiddio llinellau uwchben.

Ochr yn ochr â’u hyfforddiant, bydd dysgwyr yn cwblhau profiad ymarferol drwy brentisiaethau gyda Ganymede. Mae’r academi yn edrych ymlaen at gefnogi rhagor o ddarparwyr llafur a chwmnïau rheilffyrdd â’u hanghenion recriwtio a hyfforddi yn y dyfodol.

Mae’r rhaglen wedi’i datblygu i sicrhau bod dysgwyr yn gadael Academi Hyfforddiant Protech yn barod ar gyfer diwydiant gyda’r holl sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen arnynt i ddechrau eu gyrfaoedd yn y sector.

Dywedodd Daniel Rivers, Rheolwr Gyfarwyddwr Protech Rail Engineering ac Academi Hyfforddiant Protech, “Gyda buddsoddiadau mawr yn y diwydiant rheilffyrdd yn digwydd ledled y wlad, gan gynnwys prosiect blaenllaw HS2; adnewyddu signalau a thrraciau niferus; yn ogystal â thrawsnewid llinell y cymoedd yma yng Nghymru; mae’r sector yn cyflwyno cyfleoedd enfawr am swyddi yn y dyfodol.

“Rydym ni am chwarae rôl wrth hyfforddi a chefnogi talent yn y dyfodol a chan ein bod wedi ein lleoli yn Ne Cymru, rydym ni’n awyddus i roi yn ôl i’r gymuned a throsglwyddo ein profiad i bobl ifanc y rhanbarth. Bydd creu Academi Hyfforddiant Protech yn ein galluogi i gyflawni’r uchelgeisiau hyn.

“Bydd ein partneriaeth yn galluogi pobl ifanc yn Ne Cymru i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen yn fawr mewn sector sy’n tyfu, gan eu helpu i wella eu rhagolygon swydd. Hefyd, bydd yn helpu i hwyluso ein twf ein hunain fel busnes wrth inni geisio rhoi hwb i’n recriwtio mewnol a’n tîm gyda phrentisiaid yn y blynyddoedd i ddod.

Ar ôl cwblhau eu hyfforddiant a’u prentisiaethau, bydd dysgwyr ar y cynllun yn gallu dechrau gweithio mewn swyddi lefel mynediad fel gweithredwyr trac gyda’r cyfle i weithio eu ffordd i fyny i lu o rolau gan gynnwys rheolwyr safle, peirianwyr, goruchwylwyr a swyddogion iechyd a diogelwch.

Dywedodd Stuart Fraser, Cyfarwyddwr Cyfrifon Ganymede: “Rhan o’n strategaeth fel busnes yw creu cadwyn gyflenwi gynaliadwy a gweithio gyda busnesau a sefydliadau lleol. Rydym yn angerddol am gefnogi’r gymuned o’n cwmpas ac rydym ni am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl ifanc yn Ne Cymru i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus.

“Mae diwydiant rheilffyrdd y DU yn parhau i dyfu, ac rydym yn gweld galw cynyddol am lafur medrus yn y sector, felly mae’n cynnig llwybr gyrfa addawol. Rydym ni’n edrych ymlaen at chwarae rôl wrth ddarparu cyfleoedd cyflogaeth i’r genhedlaeth nesaf drwy ein cynllun prentisiaeth gydag Academi Hyfforddiant Protech a Choleg y Cymoedd. “

Mae partneriaeth ag Academi Hyfforddiant Protech wedi galluogi Coleg y Cymoedd i ehangu’r cymwysterau y gall eu darparu er mwyn cynnig Lefel 2 a Lefel 3 mewn Peirianneg Rheilffyrdd a Chynnal a Chadw Trac, rhywbeth nad oedd yn gallu ei gyflawni o’r blaen. Bydd yn galluogi dysgwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant rheilffyrdd i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.

Matthew Tucker, Pennaeth Cynorthwyol

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau