Coleg y Cymoedd yn dewis technoleg ‘dashboard’ gan gwmni Dynistics
Mehefin XX 2016: Mae Coleg y Cymoedd, y coleg addysg bellach o Dde Cymru, newydd osod offer ‘Active Dashboards’ gan gwmni Dynistics, i wella’i ddarpariaeth o offer rheoli gwybodaeth ar draws holl sefydliadau’r coleg. Mae gan y coleg, sydd ymhlith y darparwyr addysg bellach mwyaf yn Nghymru, gampysau wedi eu lleoli yn Aberdâr, Nantgarw, Rhondda ac Ystrad Mynach, ac mae ganddo 12,000 o ddysgwyr a thros 800 o staff.
Bydd yr offer, Active Dashboards gan Dynistics, yn caniatáu i’r coleg gyplysu gwybodaaeth o bob safle i gynhyrchu adroddiadau manwl a gweladwy mewn meysydd perfformiad allweddol.
Yn ôl Paulo Batista, Cyfarwyddwr, Cynllunio ac Ariannu, Coleg y Cymoedd, roedd perthnasedd nodedig Dynistics yn y diwydiant wedi dylanwadu ar y penderfyniad i ddefnyddio’r offer ‘Active Dashboards’. “Gyda’u llwyddiant profedig o weithredu’n gyflym ym maes ‘dashboards’ mewn colegau AB, yn arbennig felly yng Nghymru, roedd Dynistics wedi creu argraff arnon ni o’r dechrau. Roedd hynny, ynghyd â’r ffaith fod yr offer mor syml i’w ddefnyddio a’i ffurfweddu i gwrdd â’n hanghenion penodol ni, yn ddigon i’n darbwyllo. Rydyn ni’n sicr y byddwn yn cael gwir werth yn fuan o’r byrddau gweledol, gan wella ein rheolaeth o wybodaeth a’n modd o wneud penderfyniadau.â€
“Rydyn ni’n falch iawn fod Coleg y Cymoedd wedi dewis ein hoffer Active Dashboards,†oedd sylw Jacob Kemp, Pennaeth Gwerthiant Uniongyrchol cwmni Dynistics. “Mae data yn chwarae rhan gynyddol yng ngweithrediadau rheoli unrhyw goleg, ac wrth fod pedwar campws mewn gwahanol leoliadau, mae Coleg y Cymoedd eisoes yn cael budd o allu cael golwg unedig ar y data. Er hynny, drwy ddefnyddio’r offer Active Dashboards gall y coleg dreiddio i fanylion campws unigol tra hefyd edrych ar y sefyllfa’n gyffredinol ar y cyfan o’r campysau. Bydd y mewnwelediad hwn yn help i arbed amser a gwella atebolrwydd drwy adrodd yn ôl yn rhwydd ar draws pob adran, a bydd yn gryn gymorth i gynllunio a rhagfynegi.â€