Mae Coleg y Cymoedd wedi cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid darpariaeth addysg chwaraeon i ddysgwyr yn Rhondda Cynon Taf, gyda datblygiad cyfleuster hyfforddi ac addysgu chwaraeon newydd sbon gwerth miliynau o bunnoedd yn Nantgarw.
Bydd Canolfan Rhagoriaeth Chwaraeon newydd gwerth £5.1m y coleg, a ariennir yn gyfan gwbl gan Goleg y Cymoedd, yn cynnwys adeilad deulawr gyda neuadd chwaraeon, campfa â chyfarpar llawn a chyfleusterau addysgu ystafell ddosbarth.
Mae buddsoddiad Coleg y Cymoedd ar gampws Nantgarw yn angenrheidiol oherwydd y galw cynyddol o flwyddyn i flwyddyn gan unigolion sydd am gofrestru ar gyrsiau a gynigir gan ei adran chwaraeon uchel ei pharch. Bydd yn sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at offer a chyfleoedd hyfforddi o’r safon uchaf.
Er bod yr ystafell ddosbarth a’r adnoddau addysgu newydd wedi’u bwriadu’n bennaf ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn cyrsiau chwaraeon a gwasanaethau cyhoeddus, bydd y cyfleusterau estynedig yn cynnig lleoedd addysgu ychwanegol ar gyfer ystod o feysydd pwnc.
Mae’r Ysgol Chwaraeon, a sefydlwyd yn 2012, yn brif ddarparwyr addysg chwaraeon yn Ne Cymru. Mae nifer o academïau uchel eu parch yn cael eu cynnal o gampws Nantgarw gan gynnwys ei academi Rygbi’r Undeb flaenllaw, a gynhelir ar y cyd â Gleision Caerdydd, sydd wedi cynhyrchu chwaraewyr rhyngwladol o Gymru fel Dillon Lewis, Seb Davies, Shane Lewis-Hughes ac yn fwyaf diweddar, Beth Huntely, sydd newydd gael ei dewis ar gyfer carfan chwe gwlad 2021. Mae timau pêl-droed dynion a phêl-rwyd menywod llwyddiannus hefyd yn cael eu cynnal yn yr ysgol.
Tra bod dysgwyr chwaraeon ac aelodau’r academi yn astudio elfennau academaidd eu cyrsiau ar y campws, mae gweithgarwch ymarferol yn cael ei gynnal oddi ar y safle ar hyn o bryd, gyda dysgwyr yn gorfod teithio i sefydliadau partner a chyfleusterau a reolir gan y cyngor fel parc chwaraeon Prifysgol De Cymru a Chlwb Rygbi Pontypridd.
Bydd y cyfleuster newydd, a gynlluniwyd i wella gallu dysgwyr mewn amrywiaeth o chwaraeon, yn cynnig cyfleusterau hyfforddi perfformiad ac addysgu academaidd o’r radd flaenaf i gyd ar un safle.
Defnyddir y Ganolfan yn bennaf i gartrefu dysgwyr Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghyd ag academïau chwaraeon perfformiad uchel y coleg. Bydd dysgwyr sy’n dilyn cymwysterau hyfforddwr ffitrwydd a hyfforddwr personol hefyd yn elwa o’r cyfleusterau.
Yn ogystal â hyn, bydd y cyfleusterau hefyd ar gael i gyrsiau eraill ar ddydd Mercher fel rhan o raglen Hwb y coleg, sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr ymgymryd â gweithgareddau allgyrsiol ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Hefyd, mae’r coleg yn gobeithio ehangu’r defnydd o’r cyfleusterau i gynnig cyrsiau lles fel dosbarthiadau ioga a dosbarthiadau ffitrwydd i ddysgwyr ar draws y campws a fydd o fudd i’w hiechyd corfforol a meddyliol.
Dyluniwyd y ganolfan gan y penseiri Austin Smith Lord i fod yn dirnod wrth y fynedfa i Barc Nantgarw. Bydd y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon yn cael ei hadeiladu ar ddarn o dir nad yw’n cael ei ddefnyddio a’i gynnal ar hyn o bryd ac sydd gyferbyn â champws presennol Coleg y Cymoedd ar ochr ystâd Ddiwydiannol Trefforest.
Dywedodd Karen Phillips, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Bydd ein cyfleuster chwaraeon newydd yn cynnig cyfleuster addysg o ansawdd uchel ar gyfer y campws a phobl ifanc y rhanbarth, gan ganiatáu inni ddarparu’n fwy helaeth i’n dysgwyr chwaraeon.
“Hefyd, bydd y datblygiad yn gwneud defnydd da o safle a fyddai fel arall yn wag ac yn ddiffaith. Wrth wneud hynny, bydd yr ailddatblygu hwn yn gwneud gwelliannau sylweddol i dirwedd ac ymddangosiad gweledol yr ardal, gan wella gwerth y safle drwy ddod â buddion i’r gymuned a’r economi leol. â€
Yn ogystal â bod o fudd i ddysgwyr, bydd y cyfleuster hefyd yn helpu i leihau ôl troed carbon y coleg a gwella ei gynaliadwyedd oherwydd, gyda chyfleusterau ar y safle, bydd yn dileu’r angen i ddysgwyr chwaraeon gael eu cludo i leoliadau eraill ar gyfer eu gweithgareddau bob dydd.
Bydd paneli solar a gerddi glaw yn cael eu cynnwys yn y datblygiad i ddarparu egni a draeniad , tra bydd dalwyr gwynt yn cael eu hymgorffori yn y dyluniad i hyrwyddo awyru naturiol. Bydd pwyntiau gwefru cerbydau trydan hefyd yn cael eu cynnwys fel rhan o ymrwymiad y coleg i wella ei ôl troed carbon.
Disgwylir i’r gwaith adeiladu ar y safle, dan arweiniad WRW Construction, dorri tir ym mis Mawrth, ac mae disgwyl i’r datblygiad gael ei gwblhau ym mis Mehefin 2022.