Coleg yn Ne Cymru’n lansio rhaglen i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ddarlithwyr

Mae coleg yng nghymoedd De Cymru wedi lansio menter newydd i hyfforddi prentisiaid presennol i fod y genhedlaeth nesaf o ddarlithwyr ar ei gampysau.

Mae Coleg y Cymoedd wedi cyhoeddi ei ‘gynllun Prentis Ddarlithydd’ – rhaglen wyth mlynedd a fydd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar brentisiaid peirianneg a gweithgynhyrchu yn y coleg i ddod yn staff darlithio yn y dyfodol o fewn yr adrannau hynny.

Mae’r dysgwyr yn astudio, peirianneg neu raglenni gweithgynhyrchu, a bydd y rhaglen yn trefnu bod pob un o’r prentisiaid yn treulio amser yn cysgodi tiwtoriaid, yn cael eu mentora, yn cymryd rhan mewn lleoliadau diwydiant ac yn cwblhau amrywiaeth o gymwysterau addysgu.

Wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy’r rhaglen, bydd y dysgwyr yn gweithio fel technegwyr gweithdai yng Ngholeg y Cymoedd ac yn dechrau traddodi eu darlithoedd eu hunain yn eu trydedd flwyddyn, gan gynyddu’n raddol nifer yr oriau y maen nhw’n dreulio yn addysgu i gynyddu eu profiad.

Un dysgwr sy’n cymryd rhan yn y cynllun ydy Richard Jones, 29 oed, o Bontypridd, sydd wedi dewis i ymuno â’r rhaglen ar ôl cwblhau cymhwyster mewn peirianneg fecanyddol.

Dywed Richard: “Ychydig dros dair blynedd yn ôl penderfynais wneud newid fy ngyrfa’n llwyr, gan adael fy swydd ym myd manwerthu i ddilyn NVQ mewn peirianneg fecanyddol. Ar y pryd, feddyliais i ddim erioed y byddwn wedi cofrestru ar raglen i ddod yn ddarlithydd yn y pwnc erbyn diwedd fy nghyfnod yn cymhwyso.

“Doedd addysgu ddim yn rhywbeth roeddwn i wedi’i ystyried o’r blaen nes i fy nhiwtor ddweud wrtha i am y cynllun prentisiaeth darlithwyr ac awgrymu i mi roi cynnig arni. Dwi mor falch mod i wedi gwneud gan fy mod i wrth fy modd bod ar y rhaglen. Rwy’n dod ymlaen yn dda gyda fy holl ddysgwyr ac yn mwynhau eu helpu a’u gwylio’n gwella. Mae wedi rhoi ymdeimlad mod i’n cael fy ngwobrwyo, teimlad na chefais i erioed o’r blaen gyda swyddi eraill. Rydw i’n gwybod yn bendant nawr mai darlithio ydy’r hyn rydw i am ei wneud fel gyrfa.

“Rydw i ar hyn o bryd yn helpu darlithwyr gyda’u haddysgu a’r cam nesaf i mi fydd cwblhau fy nyfarniad fel aseswr o athro a fydd yn caniatáu i mi ymarfer a datblygu fy sgiliau addysgu a chymhwyso. Rydw i’n gobeithio, unwaith y bydda i wedi cymhwyso, y bydda i’n gallu sicrhau swydd amser llawn yng Ngholeg y Cymoedd.”

Syniad Gavin Davies, Pennaeth Cynorthwyol Gwella Ansawdd yng Ngholeg y Cymoedd, oedd y fenter, ac roedd e am ddatblygu ffordd o gadw talent a denu staff medrus iawn i’r swyddi darlithio, yn dilyn ymddeoliad tri darlithydd o’r coleg a oedd, rhyngddyn nhw, â phrofiad o 96 mlynedd yn y maes.

Yn ôl Gavin: “Mae colli sgiliau a thalent drwy ymddeoliad yn bryder i bob sefydliad, felly mae’n bwysig cael strategaeth ar waith i sicrhau bod y sgiliau’n aros pan fo staff profiadol yn gadael. Bydd y rhaglen newydd hon yn sicrhau cyflenwad parhaus o dalent darlithio yn y coleg.

“Bydd y fenter yn galluogi ton newydd o beirianwyr sy’n gweithio’n galed a gyda’r gallu digidol i ddysgu oddi wrth staff profiadol, a fydd yna’n trosglwyddo eu sgiliau eu hunain tra hefyd yn dod â syniadau a safbwyntiau newydd i’r coleg.”

Cyflwynwyd y rhaglen gyntaf yn y flwyddyn 2019, gyda’r rownd gyntaf o ddysgwyr ar y cynllun bellach ar fin dechrau ar yr elfen addysgu o’u hyfforddiant. Maen nhw bellach yn gweithio tuag at eu Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Llwyddiannau Galwedigaethol a dyfarniadau fel Aseswyr, a fydd yn caniatáu iddyn nhw asesu gwaith ymarferol a gwblhawyd yn y gweithdai.

Yn dilyn llwyddiant y rhaglen beilot wreiddiol, mae Coleg y Cymoedd yn gobeithio ehangu’r rhaglen prentis-ddarlithwyr i gynnwys adrannau eraill o fewn y coleg.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau