Mae 30 o fyfyrwyr o Goleg y Cymoedd yn elwa o raglen gymorth ar-lein newydd sydd wedi’i gynllunio i gryfhau eu ceisiadau am swyddi ac i brifysgolion Cymru.
Mae dysgwyr Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol o gampysau Aberdâr, Nantgarw, ac Ystrad Mynach yn cymryd rhan yn y Prosiect Ymestyn yn Ehangach blwyddyn o hyd, lle maent yn derbyn mentora ar-lein 1:1 gan israddedigion sy’n astudio yng Nghymru.
Sefydlwyd y prosiect yn dilyn argymhelliad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) y llynedd, a’i nod yw ‘ehangu gorwelion, a magu hyder, sgiliau a dyheadau’ dysgwyr mewn sefydliadau AB yng Nghymru, y canfuwyd eu bod cael eu tangynrychioli ymhlith ymgeiswyr prifysgol.
Yn y pen draw, mae’r prosiect yn gobeithio cyflwyno cyfleoedd cyfartal i ddysgwyr 16-19 oed sy’n byw ac yn astudio mewn cymunedau a nodwyd fel blaenoriaeth gan CCAUC.
Nod chwe maes ffocws y Prosiect yw:
Trwy Lwyfan Mentora Ar-lein Brightside a gaiff ei fonitro’n ddiogel, dewisodd y dysgwyr eu mentoriaid o blith rhestr o wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n cymryd rhan yn y cynllun mentora drwy eu prifysgol.
Eglurodd Izzy Reynolds, Swyddog Prosiect ar gyfer Partneriaeth Ymestyn Ehangach Gogledd a Chanolbarth Cymru: “Mae’r prosiect yn gyfle gwych i ddysgwyr gael cymorth 1:1 gan fentoriaid israddedig sydd hefyd yn astudio mewn sefydliadau yng Nghymru. Mae’r mentoriaid wedi gallu arwain dysgwyr drwy’r broses o benderfynu beth yw eu hopsiynau, a sut i fynd ati i wireddu eu nodau.”
Mae dysgwyr Coleg y Cymoedd eisoes yn teimlo manteision y prosiect, sy’n paratoi i wneud ceisiadau am gyflogaeth neu i astudio graddau prifysgol fis Medi nesaf.
Wrth sôn am y profiad hyd yn hyn, dywedodd dysgwraig Ystrad Mynach, Kayleigh-Marie Phillips: “Rydw i wedi mwynhau gallu gofyn cwestiynau i rywun sydd wedi cael profiad uniongyrchol o’r brifysgol a’r broses ymgeisio.”
“Mae eu hatebion bob amser yn llawn gwybodaeth, gan gynnwys barn ar wahanol brifysgolion a chyngor ar y ffordd orau o gydbwyso eich gwaith a’ch bywyd personol.”
Ychwanegodd dysgwr o Nantgarw: “Rydw i wedi gweld fy mod bob amser yn cael ymateb cyflym gan fy mentor. Mae hi’n anfon negeseuon yn rheolaidd i weld sut ydw i. Rydym wedi trafod opsiynau ar gyfer y brifysgol ac mae hi wedi anfon dolenni at gymorth gyda gorbryder a deall system pwyntiau UCAS. Mae hi wedi fy nghyfeirio at y cymorth ar gyfer lleoliadau gwaith ac wedi rhannu hanesion gonest iawn o’i phrofiadau hi hefyd.”
Bydd y sesiynau mentora yn rhedeg hyd at 5 Mehefin 2023, pan fydd y cynllun yn cael ei adolygu a’i gyflwyno i’r set nesaf o fyfyrwyr ym mis Medi.
Mae Cydlynydd Gweinyddol Cymorth Gyrfaoedd Coleg y Cymoedd, Samantha Hobby, yn gobeithio y gall mwy o ddysgwyr elwa o’r cynllun yn y blynyddoedd i ddod: “Mae’r rhaglen wych hon wir wedi codi dyheadau ein myfyrwyr sy’n dymuno gwneud cais ar gyfer y brifysgol. Weithiau nhw yw’r cyntaf yn eu teulu i wneud cais, a gall y broses ymgeisio fod yn frawychus iawn.”
“Rydyn ni wir yn gobeithio y bydd yn cael ei ymestyn fel y gall mwy o fyfyrwyr brofi hyn. Rydym wedi canfod eu bod yn gwerthfawrogi’r cyfle i gael trafodaethau agored gyda’u cyfoedion a chael gwybodaeth am fywyd prifysgol. Gan fod y mentoriaid yn dal i fod yn israddedigion, maen nhw’n gallu cofio’n hawdd yr hyn y byddent wedi dymuno ei wybod wrth wneud cais am le yn y brifysgol, ac maen nhw’n gallu rhannu hyn gyda set newydd o ymgeiswyr er mwyn iddyn nhw gael y wybodaeth o flaen llaw.”
I ddysgu rhagor am ddarpariaeth Dyfodol Coleg y Cymoedd, ewch i: Tîm y Dyfodol – Coleg y Cymoedd