Mae cyfle i ferched lleol rhwng 14 ac 16 oed fanteisio ar y gorau sydd gan chwaraeon benywaidd i’w gynnig, diolch i weithdai newydd sy’n cael eu cynnal gan Goleg y Cymoedd.
Y Gwanwyn hwn, mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, mae Coleg y Cymoedd yn cynnal pum gweithdy hanner diwrnod pêl-rwyd a rygbi am ddim, wedi’u hanelu at gyfranogwyr o bob safon, o ddechreuwyr i rai profiadol. Mae hyn yn estyniad o Academi Merched y Cymoedd, a bydd y sesiynau’n rhoi cipolwg ar strategaethau hyfforddi penodol i ferched, ac yn rhoi profiad ‘blasu’ o’r hyn sy’n wych o blith darpariaethau’r coleg.
Yn wahanol i sefydliadau eraill, bydd hyn yn golygu bod y Cymoedd ar y blaen oherwydd fod yr Academi Merched yn cynnig rhaglen hyfforddi bwrpasol sy’n cyd-fynd â’r cylch mislif benywaidd, gyda mynediad i’r Cynllun Ysgoloriaethau Athletwyr Dawnus (TASS), hyfforddwyr cryfder a chyflyru amlycaf Cymru, a thiwtorialau gan Hyfforddwraig Rygbi Cenedlaethol Cymru i rai dan 18 ac 20, Catrina Nicholas McGaughlin, Chwaraewr pêl-rwyd Uwch a Dreigiau Celtaidd Cymru, Shona O’Dwyer, a’r Pennaeth Rygbi a chyn-uwch Hyfforddwr Cymru, Gareth Wyatt.
Cynhaliwyd y cyntaf o’r pum sesiwn yn ystod mis Chwefror, a chyn pen dim roedd y sesiynau wedi eu llenwi i’r ymylon. Mwynhaodd bron i 80 o gyfranogwyr garwsél o sgiliau rhyngweithiol yn cynnwys clinig cyflymder ac ystwythder, cyflwyniad i’r gamp o’u dewis, a chyflwyniad ar fanteision TASS.
Mae TASS yn rhaglen sy’n cael ei hariannu gan gyrff cenedlaethol rheoli chwaraeon i helpu athletwyr 16 oed a hŷn i sefydlu cydbwysedd derbyniol rhwng eu haddysg a datblygiad chwaraeon. Nod y llwybr ydy canfod y goreuon o blith talent ifanc byd chwaraeon, a darganfod sêr y dyfodol i’r timau cenedlaethol a phroffesiynol.
Yng Ngholeg y Cymoedd, mae dysgwyr TASS yn dilyn amserlen sy’n rhoi blaenoriaeth i sefydlu cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, wrth i diwtoriaid roi ystyriaeth i ddedleins academaidd y myfyrwyr ochr yn ochr â’u hymrwymiadau chwaraeon. Mae’r dysgwyr yn derbyn eu hyfforddiant gyda’i gilydd i adeiladu cymuned ar y maes chwarae ac oddi arno, gan gyfrannu at forâl y timau, a chefnogaeth cyfoedion o’r un anian.
Wrth sôn am lwyddiant y sesiwn gyntaf, dywedodd Gavin Gallagher, Y Swyddog Hyb Rygbi a Llesiant: “Roedd yn wych gweld merched o wahanol gefndiroedd – rhai ohonyn nhw heb erioed drafod pêl rygbi – yn dod ynghyd ar y diwedd yn deg ac yn cytuno bod rygbi yn rhywbeth y maen nhw’n ei garu.
Ychwanegodd: “Fe wnaethon ni sefydlu’r sesiynau hyn ar gyfer merched o ysgolion a chlybiau cymunedol ar draws Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, iddyn nhw brofi’r cyfleusterau rhagorol sydd gan Goleg y Cymoedd i’w cynnig.
Yr hyn sy’n dda am y sesiynau hyn ydy efallai y byddwch yn canfod rhywun a oedd yn caru’r syniad o ymuno â chwaraeon, ond bod diffyg darpariaeth, cefnogaeth, neu glybiau merched lleol wedi eu hatal rhag cymryd rhan. Mae Gweithdai Academi’r Merched yn galluogi pawb i fwynhau camp maen nhw’n dwlu arni, a dod yn rhan o rywbeth ehangach.”
Mae modd cofrestru ar gyfer yr ail sesiwn nawr. Rhagwelir bydd y diwrnod yn cael ei gynnal ar Fawrth 7fed, 2023, a bydd y diwrnod yn cael ei neilltuo ar gyfer chwaraeon o ddewis y cyfranogwr, ac mae’n agored i’r rhai fynychodd yr un cyntaf, yn ogystal â’r rhai na lwyddodd i gael tocynnau y tro hwnnw.
Cydlynydd Campws ar gyfer Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus a Phennaeth yr Academi Fenywaidd, Rachel Hughes: “Mae’r gweithdai wedi’u cynllunio’n glyfar fel y gellir eu cymryd fel dilyniant o’r un olaf, neu fel sesiynau ar eu pen eu hunain. Drwy hyn, mae cyfranogwyr yn cael profi rhywbeth newydd bob tro y byddan nhw’n mynychu.”
Wrth siarad am y gweithdai sydd i ddod, dywedodd Rachel: “Gall cyfranogwyr barhau i allu cymryd rhan mewn gweithdai cryfder a chyflyru ac elwa o ddadansoddiad fideo o’u perfformiad corfforol.
Bydd cyfle i’r merched, eu hathrawon ysgol, neu rieni a gwarcheidwaid greu cyswllt uniongyrchol gyda ni i ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw, ac i holi am ymrestru yn y dyfodol.”
I gofrestru ar gyfer sesiwn, neu i ganfod rhagor am ddarpariaeth Academi Merched Coleg y Cymoedd, cysylltwch â: Gavin.Gallager@cymoedd.ac.uk neu Rachel.Hughes@cymoedd.ac.uk