Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg y Cymoedd, un o sefydliadau addysg bellach mwyaf yng Nghymru, ddiwrnod pontio i ddisgyblion ysgolion uwchradd ar draws ei bedwar campws.
Gyda bron i 800 o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn ystod o sesiynau blasu, nod y digwyddiad oedd arddangos cyfleusterau blaenllaw’r coleg a rhoi cipolwg gwerthfawr ar lwybrau gyrfa posibl i fyfyrwyr.
Cafwyd sesiynau blasu mewn pynciau fel Gofal Plant, Arlwyo, Adeiladu a Safon Uwch, gan gynnwys gweithgareddau cyffrous a gynlluniwyd i ennyn diddordeb ac ysbrydoli meddyliau ifanc.
Cafodd myfyrwyr a ddewisodd ymweld ag adran Beirianneg y coleg y cyfle i fwynhau heriau seiberddiogelwch ymarferol a phrofiad hedfan mewn twnnel gwynt.
Yn y sesiynau Ffasiwn a Dylunio Gwisgoedd, cafodd myfyrwyr y cyfle i fod yn greadigol trwy ddylunio eu bagiau eu hunain o dan arweiniad arbenigol gweithwyr proffesiynol, tra oedd y rhai sydd â diddordeb mewn Ymchwilio i Leoliadau Trosedd yn cael eu cyflwyno i dechnegau fforensig trwy sesiwn ryngweithiol.
Roedd darpar drinwyr gwallt a therapyddion harddwch yn gallu ymarfer eu sgiliau trwy chwythsychu yn y salonau ar y campws. Hefyd, roedd cyfle i chwaraewyr gemau cyfrifiadur brwd gymryd rhan mewn gemau byd cystadleuol fel FIFA ac efelychiadau rasio realiti rhithwir.
Tra bo’r myfyrwyr yn ymgolli yn y gwaith o archwilio meysydd gyrfa posibl ar gampysau Coleg y Cymoedd ar draws Caerffili a Rhondda Cynon Taf; cyfarfu staff ysgolion uwchradd â staff DDC (Darpariaeth Dysgu Cyffredinol), staff gwasanaethau lles, a staff y Gymraeg i ddeall yn well y darpariaethau sydd ar gael i fyfyrwyr. Bydd y wybodaeth yn eu helpu i arwain eu myfyrwyr tuag at lwyddiant yn ystod eu hastudiaethau yn y dyfodol ar lefel addysg bellach.
Wrth sôn am bwysigrwydd digwyddiadau fel hyn, dywedodd Janet Edwards, Rheolwr Recriwtio a Dilyniant yng Ngholeg y Cymoedd : “Mae dangos opsiynau galwedigaethol mor amrywiol i feddyliau ifanc yn agor drysau nad oedden nhw’n gwybod eu bod yn bodoli hyd yn oed.”
Ychwanegodd, “Mae’n rhoi lle iddynt ystyried eu hopsiynau heb deimlo dan bwysau i wneud penderfyniadau mawr.”
Rhoddodd y diwrnod pontio sylfaen gref i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 9 a 10 drwy eu hannog i ystyried eu hopsiynau’n gynnar, gan roi digon o amser i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu llwybrau addysgol.
Roedd y diwrnod pontio yn rhagflaenydd i’r noson agored, lle gallai darpar fyfyrwyr a rhieni ddysgu rhagor am yr ystod eang y coleg o gyrsiau (450+) a darpariaethau galwedigaethol blaenllaw. Roedd yna hefyd ‘awr dawel’ y gallai ymwelwyr ei ddewis wrth gofrestru, yn benodol ar gyfer ymwelwyr â phryder neu anghenion synhwyraidd. Ymrwymiad Coleg y Cymoedd yw sicrhau llwyddiant pob myfyriwr. Nod y coleg yw darparu profiadau dysgu eithriadol a chyfleusterau o safon diwydiant i fyfyrwyr sy’n adlewyrchu amgylcheddau gwaith y byd go iawn.
Mae’r llwybrau a grëwyd yn ystod eu hamser yn y sefydliad yn arwain myfyrwyr tuag at gyfleoedd rhagorol mewn prifysgolion, prentisiaethau, a lleoliadau gwaith. Yn y pen draw, mae Coleg y Cymoedd yn ymdrechu i roi sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr ar gyfer bywyd ar ôl coleg, sut bynnag mae hynny’n edrych .
Ar hyn o bryd mae Coleg y Cymoedd yn derbyn ceisiadau am astudiaethau sy’n dechrau ym mis Medi. Porwch y rhestr lawn o gyrsiau a gwasanaethau cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ar wefan y Coleg.