Coleg y Cymoedd yn Bencampwyr mewn cystadleuaeth Sgiliau rhyng-golegol

Mae dau o golegau addysg bellach De Cymru wedi mynd benben â’i gilydd mewn cystadleuaeth Sgiliau rhyng-golegol, a gynhaliwyd ar gampws Aberdâr Coleg y Cymoedd.

Mae Coleg y Cymoedd a Choleg Gwent yn cynnig cyrsiau academaidd a galwedigaethol ar draws ystod lawn o feysydd pwnc. Roedd y gystadleuaeth hon, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn yn canolbwyntio ar eu dysgwyr Gwallt, Harddwch, Gwaith Trydanol, Gwaith Plymwr ac Arlwyo. Wrth gyflwyno Arlwyo i’r gystadleuaeth cafwyd mwy na phedwar ugain o ddysgwyr yn cymryd rhan.

Trwy gydol y gystadleuaeth roedd y salonau yn ferw o brysurdeb gyda’r dysgwyr yn cynhyrchu rhai arddulliau anhygoel yn y gystadleuaeth gwallt; ochr yn ochr â’r dysgwyr harddwch a oedd yn gyfrifol am ddarparu amrywiaeth o driniaethau.

Ymysg y panel o feirniaid eleni roedd Dave Bassett a Dean Poole, y ddau yn feirniaid Trin Gwallt HTA a Sara Tutton, cyn-Gyfarwyddwr Campws sydd â dros 40 mlynedd o brofiad mewn Addysg a’r diwydiant Gwallt a Harddwch.

Enillodd Goleg y Cymoedd y wobr 1af yng nghystadleuaeth Gwallt Lefel 1 a 2 ac yn y gystadleuaeth Harddwch Lefel 1 enillwyd y wobr 1af a’r 2il a’r 3edd wobr. Mae’r coleg yn ddiolchgar i Capitol Hair & Beauty a Dermalogica am noddi’r gystadleuaeth.

Cafodd y dysgwyr Arlwyo’r dasg o dorri a pharatoi gwahanol ffrwythau a llysiau, cynllunio a choginio pryd o fwyd llawn, yn ogystal â phlygu napcynnau a gweini.

Roedd y gystadleuaeth yn ddwys gyda dysgwyr y Cymoedd yn ennill y wobr 1af a’r 2il wobr. Yn goruchwylio’r her Arlwyo roedd Mark Cox, Rheolwr Grŵp i Chartwells Catering, a roes yn garedig y gwobrau am y categori hwn a David Harland, cyn-ddarlithydd yng Ngholeg y Cymoedd sydd â mwy na deugain mlynedd o brofiad, fel cogydd ac fel darlithydd addysg bellach.

Roedd cyffro pendant yn y gweithdai adeiladu wrth i’r dysgwyr Gwaith Trydanol a Gwaith Plymwr fynd benben a’i gilydd.

Cafodd y dysgwyr gwaith trydanol y dasg o adeiladu cylched o oleuadau masnachol a chylched pŵer yn y cartref gyda phwyntiau’n cael eu rhoi am gywirdeb, ansawdd ac ymarferoldeb. Rhoes dysgwyr y Cymoedd eu sgiliau ar waith gan ennill y 3edd safle. Beirniadwyd y gystadleuaeth gan gyn-ddarlithydd y Cymoedd, Paul Meyer sydd â chyfoeth o brofiad yn y diwydiant Gosod Trydan.

Gyda brîff i adeiladu system pibellau gan ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau, troadau ac onglau, bwrodd y dysgwyr gwaith Plymwr ati. Beirniaid y gystadleuaeth hon oedd Steve Williams a Tim Strickland o Dougfield Plumbers Supplies (a oedd yn un o’r noddwyr) a oedd yn cadw llygad barcud dros y dysgwyr yn ystod y gystadleuaeth gan sicrhau bod y system yn dal dŵr. Dyfarnwyd y 3ydd safle i ddysgwyr Cymoedd.

Wrth ddod â digwyddiadau’r dydd i ben, dywedodd Mark Thomas, y Cyfarwyddwr y Campws ar gyfer Campws Aberdâr Hoffwn ddiolch i staff y ddau goleg am eu hymrwymiad a’u gwaith caled i sicrhau bod y gystadleuaeth yn llwyddiant. Diolch i’r beirniaid am eu gwaith gwych, heb eu harbenigedd ni fyddai’r gystadleuaeth wedi rhedeg yn esmwyth. Diolch i’r noddwyr am eu cyfraniadau hael ac yn olaf ond nid yn lleiaf diolch i’n dysgwyr a’n hymwelwyr o Goleg Gwent am gymryd rhan.

Yr wyf wrth fy modd yn gweld Coleg y Cymoedd yn cael eu coroni’n bencampwyr am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth hon. Gyda’r llwyddiant hwn y tu ôl inni rydym eisoes yn edrych ymlaen at gystadleuaeth y flwyddyn nesaf a fydd yn cael ei chynnal yng Ngholeg Gwent”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau