Coleg y Cymoedd yn cefnogi Busnesau RhCT

Dathlwyd deng mlyneddd o lwyddiant a menter busnes yng Nghyfarfod Gwobrwyo Clwb Busnes RhCT ar Nos Wener, Mawrth 11.

Yn flynyddol dros y degawd, mae Clwb Busnes RhCT wedi cymeradwyo a dathlu busnesau o bob maint yn eu cyfarfod cyflwyno gwobrau.

Eleni eto, doedd y seremoni ddim yn eithriad, gyda Choleg y Cymoedd ymhlith y prif noddwyr.

Cynhaliwyd y noson wobrwyo, gyda chynrychiolaeth o amrediad o fusnesau lleol ac aelodau Clwb Busnes RhCT, yng ngwesty Llechwen Hall, ger Pontypridd.

Yr enillwyr oedd:

Busnes Newydd Gorau, wedi ei noddi gan Veolia – Pontus Research Cyf
Degawd o Ragoriaeth Busnes, wedi ei noddi gan L’Oreal UKI Cyf – Glamorgan Brewing Company
Cyflogwyr y Flwyddyn, wedi ei noddi gan Hirwaun Power – Rocialle
Busnes Amgylcheddol y Flwyddyn, wedi ei noddi gan enviroparks – The Welsh Pantry
Rhagoriaeth mewn Cynhyrchu, wedi ei noddi gan Renishaw – Gwalia Healthcare Cyf
Rhagoriaeth mewn Menter Gymdeithasol, wedi ei noddi gan Gartrefi RhCT Homes – Friends of Ferndale The Fern Partnership
Busnes Stryd Fawr, wedi ei noddi gan Ffederasiwn y Busnesau Bach – Bradleys Coffee Cyf
Busnesau Meicro, wedi ei noddi gan Brifysgol De Cymru – Trojan Construction Management Cyf
Clwb Busnes y Flwyddyn RhCT, wedi ei noddi gan Goleg Y Cymoedd – Rocialle
Yn ôl y Cynghorydd Robert Bevan, Aelod Cabinet Adfywio a Chynllunio Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae Gwobrwyon Clwb Busnes RhCT wedi mynd o nerth i nerth dros y deng mlynedd diwethaf ac y mae hyn oherwydd safon y busnesau sy’n parhau i agor, gweithredu a thyfu yn Rhondda Cynon Taf.

“Mae cyflawnidau’r enilwyr a’r rhai oedd yn y ffeinal heno’n dystiolaeth i’r gymuned fusnes arloesol lwyddiannus sydd gennym yn y fwrdeistref sirol.

“Dylai pob un person sydd wedi ennill neu fod ar restr fer fod yn ymfalchïo nid yn unig am eu camp ym myd busnes ond hefyd am yr esiampl maen nhw wedi ei gosod i eraill a’r ysbrydoliaeth maen nhw’n ei gynnig.

“Yn y cyfnod economaidd anodd hwn, gyda chyllid dan bwysau a’r modd mae pobl yn cynnal busnes yn newid yn barhaus, mae busnesau lleol o bob maint angen y cyfan o’r cymorth a’r gefnogaeth sydd i’w gael.

“Mae Clwb Busnes RhCT wedi darparu meithrinfa ar gyfer rhai o gyffelyb anian o blith amrediad eang o fusnesau a sefydliadau, gan ganiatáu i’r aelodau ddysgu gan gyd-aelodau, siaradwyr gwadd, gweithdai arbenigol, brecwastau rhwydweithio a mwy.

“Mae’r Gwobrau yn achlysur blaenllaw ar gyfer Clwb Busnes RhCT ac yn nodi diwedd llwyddiannus arall o fewn RhCT.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau