Ym mis Gorffennaf eleni, bydd coleg yn y de-ddwyrain yn croesawu carfan o weithwyr proffesiynol adnabyddus o’r diwydiant ffilm i gynnal gweithdai a dosbarthiadau meistr unigryw ar gyfer pobl ifanc greadigol sydd am ddilyn gyrfa yn y sector sgrin.
Yn dilyn llwyddiant arddangosfa His Dark Materials a gynhaliwyd ym mis Mawrth eleni, pan gafwyd dros 1,000 o ymwelwyr, mae rhaglen Make! newydd Coleg y Cymoedd yn agor i’r cyhoedd dros yr haf i dynnu sylw at gyfleoedd gyrfa a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg ym myd ffilm, fel effeithiau creaduriaid, technolegau digidol a llunio gwisgoedd drwy ystod o weithdai ymarferol, darlithoedd, ac ymgysylltiad â’r diwydiant gan weithwyr proffesiynol blaenllaw.
Bydd y sesiynau’n cael eu rhedeg gan weithwyr proffesiynol adnabyddus yn y diwydiant gan gynnwys y pypedwr William Todd-Jones (Harry Potter, Batman, His Dark Materials), y darlunwyr a’r pypedwyr Wendy a Brian Froud (Star Wars, The Muppets, Dark Crystal), Eliot Gibbins (His Dark Materials), a’r dylunydd gwisgoedd Rosi Flood (Pirates of the Caribbean, Apostle) a fydd wrth law i rannu eu harbenigedd ac i roi cipolwg unigryw ar sector creadigol byd y ffilm.
Bydd saith gweithdy a dosbarth meistr gyda Brian Froud yn cael eu cynnal rhwng 3 ac 8 Gorffennaf ar Gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, gan roi cyfle i’r rhai sydd â diddordeb yn y sector ffilm ddysgu gan y gorau yn y diwydiant, a chael blas hefyd ar sut brofiad y gallai gweithio yn y maes fod.
Bydd y gweithdai ar agor i’r cyhoedd sy’n 16 oed a hŷn, heblaw am y gweithdy effeithiau creaduriaid (14+ oed), a byddant yn canolbwyntio ar y sector sgrin yn ei gyfanrwydd, gan roi cipolwg gwerthfawr i ddoniau newydd ac aelodau presennol o’r diwydiant i uwchsgilio a dysgu technegau mwy cynaliadwy a chreadigol.
Bydd y gyfres o weithdai a dosbarthiadau meistr rhad ac am ddim y gellir eu harchebu yn galluogi unigolion i gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol undydd neu ddeuddydd, arddangosiadau, a darlithoedd mewn amrywiaeth o feysydd sector y sgrin, o effeithiau creaduriaid a llunio gwisgoedd i argraffu 3D, mowldio, a chastio.
Mae Alistair Aston, arweinydd cwrs a chydlynydd diwydiannau creadigol Coleg y Cymoedd, wedi bod yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yn y diwydiant i wireddu rhaglen Make! a hyrwyddo mynediad i yrfaoedd creadigol yn y sector ffilm.
Meddai: “Rydyn ni’n frwd dros ddatblygu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer ffilm a theledu yng Ngholeg y Cymoedd, yn benodol ym meysydd roboteg, gwneud propiau ac effeithiau gweledol. Ein nod yw creu adnodd arloesol sy’n arwain y diwydiant gan gynnwys stiwdios gweithredol a chyfleusterau hyfforddi sgiliau proffesiynol.
“Ar ôl llwyddiant ysgubol ein harddangosfa a’n dosbarthiadau meistr His Dark Materials, rydyn ni wedi gweld cymaint o ddiddordeb gwirioneddol gan bobl ifanc yn y cymunedau lleol yma yn y de-ddwyrain fel ein bod am barhau i ddarparu cyfleoedd a mynediad iddyn nhw at yrfaoedd creadigol ym myd ffilm. Mae gan Gymru ddiwydiant ffilm llewyrchus, a’n cenhadaeth ni yw arddangos ac adeiladu ar hynny gyda phrosiectau fel rhaglen Make!”
Ychwanegodd Eliot Gibons, rheolwr gweithdy effeithiau creaduriaid His Dark Materials: “Rydyn ni’n llawn cyffro ein bod yn gysylltiedig â Choleg y Cymoedd a’r llu o wneuthurwyr gwych sy’n rhan o’r prosiect yma. Mae hwn yn ddigwyddiad hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb ym myd cynhyrchu pethau gyda thechnolegau traddodiadol a blaengar.
Mae Coleg y Cymoedd yn parhau i ddarparu dysgu o safon uchel ar gyfer meysydd fel hyn sy’n anodd eu cyrraedd, ac rwy’n hyderus y gall hyn arwain at fudd pellach i’r sector sgrin llwyddiannus yma yng Nghymru.”
Mae diwydiant ffilm Cymru wedi parhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn, gyda chynyrchiadau ysgubol fel Sex Education, Willow, Havoc a His Dark Materials 3 i gyd yn cael eu ffilmio yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, er bod y sector wedi cynhyrchu dros £155 miliwn ar gyfer economi Cymru ers 2020 (1), mae’n parhau i weld prinder sgiliau.
Meddai William Todd-Jones, o Nant-y-glo, pypedwr ac arweinydd gweithdy Make!: “Er mwyn i ddiwydiant adloniant Cymru adeiladu ar lwyddiannau diweddar, bydd angen cannoedd o unigolion dawnus sy’n gallu codi morthwyl, sgriwdreifer, peiriant sychu, camera, meicroffon, llygoden, neu ba bynnag declyn mae eu hadran yn ei ddefnyddio i helpu’r cynhyrchiad i adrodd ei stori. Bydd ‘Make!’ yn rhoi blas o’r gwaith arbenigol bob dydd sy’n digwydd ochr arall y camera.”
Ychwanegodd Alistair: “Mae angen mwy o weithwyr sy’n barod ar gyfer y diwydiant ar ein sector ffilm, ac mae hyn yn rhywbeth y gall darparwyr addysg uwch ac addysg bellach fel Coleg y Cymoedd ei gefnogi a helpu i fynd i’r afael ag e drwy ddarparu cyrsiau a llwybrau cyfleoedd, gyda chymorth gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, ar gyfer pobl ifanc Cymru.”
Mae Coleg y Cymoedd yn bwriadu defnyddio rhaglen Make! a’r ddealltwriaeth mae’n ei gael gan bartneriaid yn y diwydiant i’w helpu i ddatblygu cyrsiau, rhaglenni a phrentisiaethau newydd, i gefnogi mwy o ddysgwyr i ddilyn gyrfaoedd ym myd ffilm.
Bydd rhaglen Make! Coleg y Cymoedd yn cael ei chynnal ar gampws Nantgarw’r Coleg ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Llun 3 Gorffennaf – 10am – 4pm
Dydd Mawrth 4 Gorffennaf – 10am – 4pm
Dydd Mercher 5 Gorffennaf – 10am – 4pm, 7pm – 9pm
Dydd Iau 6 Gorffennaf – 10am – 4pm
Dydd Gwener 7 Gorffennaf – 10am – 4pm
Dydd Sadwrn 8 Gorffennaf – 10am – 1pm
I gael rhagor o wybodaeth am amseroedd gweithdai a dosbarthiadau meistr penodol, ac i archebu lle am ddim ar gyfer arddangosfa, gweithdy neu ddosbarth meistr, ewch i: www.cymoedd.ac.uk/make