Coleg y Cymoedd yn croesawu un a oroesedd yr Holocost tra bo dysgwyr yn ymweld ag Auschwitz

Mae rhai o ddysgwyr Campws Aberdâr o Goleg y Cymoedd wedi bod yn gwneud gwaith cymunedol mewn cydweithrediad â Thîm Gofal Strydoedd Rhondda Cynon Taf. Bu’r dysgwyr sy’n astudio Cyfrifiadureg ar Lefel 1 a 2 yn cyflawni’r gwaith yn gynharach y mis hwn fel rhan o’u cymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Yn ystod deuddydd o weithgaredd bu’r dysgwyr yn gwneud gwaith tacluso ar hyd rhan o’r hen Heol Tramiau sydd yn y gymuned, rhwng Trecynon a Phenywaun, Aberdâr. Gyda’u harfau codi sbwriel a’r sachau casglu, roedd y dysgwyr yn gweithio ochr yn ochr â’r swyddogion wrth iddyn nhw dacluso’r gor-dyfiant a chlirio’r ardal o’r sbwriel a’r gwastraff oedd wedi ei dipio’n anghyfreithlon.

Roedd tiwtoriaid y cwrs, Michaela Jones a Sharon Corns, yn hynod falch o’r ymroddiad a’r gwaith caled a ddangoswyd gan y dysgwyr fu’n ymgymryd â’r gwaith. Eu barn nhw oedd: “Roedd y dysgwyr yn gredyd rhagorol i’r coleg. Dros ddau ddiwrnod fe fuon nhw’n clirio perthi oedd wedi gor-dyfu, casglu eitemau oedd wedi eu gadael ar hyd y ffordd ynghyd â llwythi o sbwriel. Roedden nhw’n hynod falch o’r gwahaniaeth roedden nhw wedi ei gyflawni, gan fod fan hyn yn gefn gwlad hynod hardd, yn ardal sy’n cael ei ddefnyddio gan gerddwyr a beicwyr a llecyn lle mae iddo lawer o hanes ynghlwm â’r gymuned hon.

Yn ôl Tim Jones, Swyddog Gorfodi gyda Thîm Gofal Strydoedd RhCT: “Fe hoffwn i ddiolch i’r dysgwyr o’r coleg; Roeddwn i wedi fy mhlesio’n fawr gyda’u gwaith a’u brwdfrydedd. Fe helpon nhw ni i gyflawni tasg eithriadol o heriol, gan weithio’n dda fel tîm ochr yn ochr â’r swyddogion Gofal Strydoedd gan gasglu dros 3 tunnell fetrig o wastraff mewn dau ddiwrnod. Rydw i’n credu iddyn nhw fwynhau’r dasg a chael boddhad o’i chyflawni wrth weld y newid roedd y gwaith wedi ei wneud i’r ardal. Da iawn – ymdrech ffantastig!”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau