Coleg y Cymoedd yn cychwyn dathliadau blwyddyn o hyd ar gyfer ei ben-blwydd yn 10 oed 

Mae Coleg y Cymoedd, un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru, yn falch iawn o gyhoeddi dechrau dathliadau blwyddyn o hyd ar gyfer ei ben-blwydd yn 10 oed.

Ers ei sefydlu yn 2013, mae’r coleg wedi croesawu bron i 100,000 o ddysgwyr i’w bedwar campws ar draws Caerffili a Rhondda Cynon Taf, yn Aberdâr, Nantgarw, y Rhondda (Llwynypia) ac Ystrad Mynach.

Gan gynnig dros 300 o gyrsiau galwedigaethol, TGAU, Safon Uwch ac Addysg Uwch ynghyd â darpariaeth Prentisiaethau a Dysgu Seiliedig ar Waith, mae Coleg y Cymoedd wedi dod yn ddarparwr addysgol blaenllaw yn rhanbarth De Cymru.

O dan arweiniad gweledigaethol y Pennaeth, Jonathan Morgan, a’i dîm ymroddedig o staff, 850 o unigolion arbennig, mae Coleg y Cymoedd wedi cael llwyddiant rhyfeddol.

Mae ymrwymiad y coleg i ddarparu addysg o ansawdd yn amlwg, nid yn unig drwy ei arlwy cynhwysfawr o gyrsiau ond hefyd drwy ei bartneriaethau cryf gyda dros 1,200 o gyflogwyr.

“Mae’r garreg filltir hon yn nodi taith anhygoel i ni,” meddai Jonathan Morgan. “Mewn dim ond deng mlynedd, rydym wedi creu sefydliad addysgol sy’n grymuso myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial, yma yn eu cymuned leol.”

Dechreuodd y dathliadau ychydig cyn dechrau’r flwyddyn academaidd hon gyda digwyddiad ar draws y pedwar campws. Cafodd aelodau o staff luniaeth wrth fwynhau amser gwerthfawr yn dal i fyny â chydweithwyr ar ôl gwyliau haf haeddiannol.

“Nid mater o rannu gwybodaeth yn unig yw hyn; mae’n ymwneud â thrawsnewid bywydau,” esboniodd Morgan yn angerddol. “Mae ein gweledigaeth yn mynd y tu hwnt i furiau’r ystafelloedd dosbarth. Credwn, drwy astudio’n lleol gyda ni yng Ngholeg y Cymoedd, y gall myfyrwyr fynd ymhellach nag yr oeddent erioed wedi dychmygu.

Mae ein buddsoddiad mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf a hyfforddiant parhaus i’n staff yn sicrhau bod ein dysgwyr yn cael cefnogaeth heb ei hail drwy gydol eu taith addysgol.”

Enghraifft bellach o ymrwymiad Coleg y Cymoedd i ragoriaeth yw ei ganlyniadau diweddar sydd wedi torri pob record. Gyda’r set gryfaf o ganlyniadau Safon Uwch a Lefel 3 hyd yma, mae’r coleg yn sefyll ar anterth ei lwyddiant academaidd ac yn edrych ymlaen at gyflawniadau’r dyfodol.

“Mae ein tîm ymroddedig o staff addysgu a chymorth busnes proffesiynol yn cydweithio i greu cymuned groesawgar lle caiff pob unigolyn ei werthfawrogi,” ychwanegodd Morgan. “Rydym yn falch o’n llwyddiannau yn y gorffennol ond rydym yn parhau i ganolbwyntio ar wella profiadau ein dysgwyr yn barhaus wrth inni symud ymlaen.”

Dros y flwyddyn nesaf, bydd Coleg y Cymoedd yn rhannu straeon am ei lwyddiant mewn cyfres o ffilmiau ysbrydoledig gan gyn-fyfyrwyr; agoriad mawreddog y ganolfan chwaraeon o’r radd flaenaf ar ei champws yn Nantgarw, cartref Academi Benywod gyntaf De Cymru; digwyddiadau cymunedol bob tymor ar ei gampysau a llawer mwy.

Dilynwch ddathliadau 10 mlynedd Coleg y Cymoedd ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol: @colegycymoedd #CYC10

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau