Coleg y Cymoedd yn cydweithio â’r tîm tu ôl i sioe deledu lwyddiannus i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent cynhyrchu

Mae coleg yng nghymoedd y De Cymru ar fin croesawu’r tîm fu tu ôl i gyfres deledu lwyddiannus y BBC, “His Dark Materials”, ar gyfer arddangosfa unigryw sy’n anelu i roi cipolwg i aelodau’r cyhoedd am waith tu ôl i’r sgrin deledu.

Bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal arddangosfa unigryw ar ei gampws yn Nantgarw fydd yn galluogi’r gymuned leol i gael golwg fanwl ar bypedau a chreadigaethau eraill o’r gyfres ffantasi boblogaidd.

Bydd dosbarthiadau meistr a gynhelir gan gynhyrchwyr ‘His Dark Materials’ a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant hefyd yn agored i fynychwyr, a bydd rhain yn dangos i ymwelwyr sut mae’r creaduriaid yn cael eu ffurfio a pha sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y sector.

Cynhelir yr arddangosfa mewn partneriaeth â Bad Wolf, Screen Alliance Wales, Ian Johnson Publicity, a’r tîm ‘Creature Effects’ oedd yn gyfrifol am bob un o’r tair cyfres o His Dark Materials. Bydd yr arddangosfa ar agor i’r cyhoedd o Fawrth 4 hyd Fawrth 11, gyda’r dosbarthiadau meistr rhad ac am ddim ar gael drwy’r gyda’r nos o Fawrth 8 hyd Fawrth 10.

Mae Alistair Aston, arweinydd cwrs a chydlynydd diwydiannau creadigol Coleg y Cymoedd, wedi cydweithio’n agos gyda phartneriaid yn y diwydiant i allu gwireddu’r arddangosfa ac i hyrwyddo mynediad i yrfaoedd creadigol yn y sector ffilm.

“Mae’r arddangosfa hon yn gyfle cyffrous iawn i ni fel coleg,” meddai, “ond hefyd i bobl ifanc ac aelodau’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant ffilm. Dyma’r arddangosfa gyntaf o’i bath a bydd yn galluogi ymwelwyr i ymgolli’n llwyr yn y broses o greu bydoedd a chreaduriaid rhyfeddol ar gyfer y teledu. Byddan nhw’n cael gweld yn union sut mae rhain yn dod yn fyw ar y sgrin, gan ddysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant – rhywbeth nad ydy pobl yn aml yn cael y cyfle i’w brofi.

“Gyda chymorth ein cysylltiadau cryf â’r diwydiant, ein nod ydy datblygu canolfan ragoriaeth ar gyfer gwaith effeithiau creaduriaid ac effeithiau gweledol – y prosesau o greu creaduriaid ac effeithiau arbennig ar gyfer y teledu. Rydyn ni’n edrych yn barhaus ar y ffyrdd rydyn ni’n defnyddio adnoddau arloesol ac yn hyfforddi’n dysgwyr o fewn stiwdios gweithredol ac adnoddau arbenigol i roi’r cyfleoedd gorau iddyn nhw sicrhau cyflogaeth ar ôl iddyn nhw adael y coleg.”

Yn ystod yr arddangosfa, bydd ymwelwyr yn gallu cerdded trwy weithdy wedi’i ail-greu yng Ngholeg y Cymoedd, sydd wedi’i osod i ymdebygu i’r un a ddefnyddiwyd gan y tîm effeithiau creaduriaid yn ystod ffilmio hynod lwyddiannus y BBC, a byddan nhw’n cael gweld drostyn nhw eu hunain y pypedau ‘daemon’ go iawn sy’n yn cael eu defnyddio i ddod â chymeriadau fel ‘Pantalaimon’ Lyra a ‘Stelmaria’ yr Arglwydd Asriel yn fyw ar y sgrin.

Ochr yn ochr â’r arddangosfa, bydd y dosbarthiadau meistr, dan arweiniad tîm ‘CreatureFX’ y rhaglenni, yn rhoi cipolwg unigryw ar y broses o wneud pypedau, eu gweithio, a’r effeithiau gweledol sydd eu hangen i symud y ‘daemoniaid’ o’r cysyniad i’r stiwdio ac yna i’r sgrin.

Bydd y coleg hefyd yn cynnal gweithdy penodol i deuluoedd ddydd Sadwrn, Mawrth 4, lle bydd plant yn gallu adeiladu eu ‘daemoniaid’ eu hunain yn seiliedig ar y dyluniadau a’r prosesau a ddefnyddiwyd yn y gyfres.

Bydd nifer o ysgolion partner Coleg y Cymoedd, yn ogystal â grwpiau cymunedol Screen Alliance Wales, hefyd yn cael mynediad i’r arddangosfa a’r gweithdai, mewn ymgais i annog mwy o bobl ifanc i ymgysylltu â chyrsiau a galwedigaethau creadigol, ac i hyrwyddo hygyrchedd i yrfaoedd o fewn diwydiant ffilm ffyniannus Cymru.

Roedd yr artistiaid gwaith effeithiau creaduriaid, Eliot Gibbins ac Olivia Racionzer, ill dau yn rhan o’r tîm a oedd yn gyfrifol am greu’r ‘daemoniaid’ ar gyfer pob un o’r tri thymor o ‘His Dark Materials’, gan weithio hefyd ochr yn ochr ag aelodau’r cast i ddod â’r ‘daemoniaid’ yn fyw. Mae’r tîm wedi cydweithio â Choleg y Cymoedd i wneud yr arddangosfa, y gweithdai a’r dosbarthiadau meistr yn realiti i ddysgwyr a’r cyhoedd.

Yn ôl Eliot: “Mae’n golygu llawer iawn o waith i greu pypedau cyn i’r effeithiau ar y sgrin ddigwydd ac rydyn ni’n awyddus iawn i ddangos i’r cyhoedd y creadigrwydd a’r gwaith caled sy’n mynd i greu cynhyrchiad ar y raddfa hon.

“Mae Coleg y Cymoedd wir yn hyrwyddo gyrfaoedd creadigol ac yn darparu sylfaen addysg gref i ddysgwyr gyda chysylltiadau gwirioneddol â’r diwydiant. Mae hyn yn rhywbeth sy’n hynod bwysig i ni gan ei fod yn helpu pobl ifanc i gael mynediad i’r diwydiant ffilm.”

Ychwanegodd Olivia: “Rydyn ni’n ysu i gychwyn yr arddangosfa ac i weithio ochr yn ochr â dysgwyr a’r cyhoedd yn ystod y gweithdai a’r dosbarthiadau meistr. Rydyn ni’n gyffrous iawn i gyflwyno Dosbarth Meistr gan ddylunydd a chynhyrchydd gweithredol y sioe, Joel Collins, a goruchwyliwr effeithiau gweledol cyfres y sioe, Russell Dodgson. Mae gennym Ddosbarthiadau Meistr penodol Creature FX gan Brian Fisher, Pypedwr y Mwnci Aur, a William Todd-Jones a sefydlodd yr adran yn y tymor cyntaf.

“Rydyn ni’n gobeithio bydd y digwyddiad hwn yn ymhelaethu ar y gwaith gwych y mae’r coleg eisoes yn ei gyflawni i hyrwyddo gyrfaoedd creadigol, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau â’n gwaith ochr yn ochr â nhw yn y dyfodol.”

Oriau agor Arddangosfa ‘His Dark Materials’ Coleg y Cymoedd ar gampws Nantgarw:

Gweithdy Dydd Sadwrn: Mawrth 4, 10am – 1pm

Arddangosfa gyhoeddus: Mawrth 6 – 11, 10am – 8pm

Dosbarthiadau Meistr: Mawrth 9 & 10, 7pm. 

Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich slot sy’n rhad ac am ddim yn yr arddangosfa, gweithdy neu ddosbarth meistr, ewch i’r wefan: https://www.cymoedd.ac.uk/his-dark-materials-exhibition-the-creatures/

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau