Coleg y Cymoedd yn cyflwyno Ymwybyddiaeth Ofalgar i’w gwricwlwm

Mae Coleg y Cymoedd wedi cyflwyno pwnc newydd cyffrous i’w gwricwlwm i wella gallu ei ddysgwyr i ganolbwyntio.

Yn dilyn ymchwil helaeth ynghylch manteision ‘Ymwybyddiaeth Ofalgar’, cyflwynir rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar seciwlar deng wythnos i’r dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd; gyda phob sesiwn yn cynnig sgil ymwybyddiaeth ofalgar unigryw.

Nod y cwrs yw gwella gallu dysgwyr i ganolbwyntio a bydd yn helpu’r dysgwyr i gyflawni eu potensial yn ystod eu hamser yn y coleg; gan roi blas iddynt o ymwybyddiaeth ofalgar y gallant ddychwelyd ati’n nes ymlaen mewn bywyd.

Cwblhaodd Tiwtor y Cwrs Emma Chakrabarti, sy’n dysgu ar y cyrsiau Dysgu Sylfaen yn y coleg, y cwrs .b (‘dot be’), sy’n rhan o’r prosiect Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ysgolion, yn Llundain, fel rhan o’i Rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Bydd y cymhwyster Teach.b, ynghyd â’i hymarfer ymwybyddiaeth ofalgar personol ei hun, yn galluogi Emma i gyflwyno’r cwrs yn y coleg gan ddefnyddio cyflwyniadau a chlipiau ffilm, ac yna ymarferion, arddangosiadau a thrafodaeth ystyriol ymarferol.

Wrth siarad am y cwrs dywedodd Emma “Roeddwn yn awyddus i fynychu’r cwrs hyfforddi gan fod llawer iawn o ymchwil a thystiolaeth ynghylch buddion posibl ymwybyddiaeth ofalgar i bobl ifanc. Rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r cwrs yn y coleg i helpu’r dysgwyr i ymdopi â phwysau beunyddiol bywyd person ifanc, fel arholiadau a pherthnasoedd ac hefyd i’w helpu i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau, cerddoriaeth a chwaraeon ”.

Wrth gymeradwyo cyflwyno’r cwrs .b yn y coleg, ychwanegodd Al Lewis, Pennaeth yr Ysgol Mynediad Galwedigaethol, “Mae’r coleg bob amser yn edrych ar wahanol ffyrdd o gefnogi ein dysgwyr ac rwy’n siŵr bod y sesiynau Ymwybyddiaeth Ofalgar a ddarperir gan Emma, fel rhan o’r  cwricwlwm yn boblogaidd ac yn fuddiol. Rwy’n awyddus i weld y canlyniadau ar ddiwedd y sesiynau ac rwy’n siŵr bod hyn yn rhywbeth y gellir ei gyflwyno ar draws coleg hefyd; gan gynnwys i’n staff, i hyrwyddo lles ”.

Mae rhagor o wybodaeth am y Prosiect Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Ysgolion a .b i’w gweld yma

https://mindfulnessinschools.org/

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau