Mae un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru, Coleg y Cymoedd, wedi penodi Karen Phillips fel ei Bennaeth a’i Brif Weithredwr nesaf.
Bydd Ms Phillips, sydd wedi gwasanaethu fel Dirprwy Bennaeth Coleg y Cymoedd ers 2008 (Coleg Morgannwg bryd hynny), yn dilyn y Pennaeth cyfredol, Judith Evans, pan fydd yn ymddeol o 1 Ionawr 2019.
Fel Dirprwy Bennaeth, mae Karen Phillips wedi cael ei chanmol am y rôl flaenllaw y mae wedi’i chwarae wrth arwain y coleg trwy broses ddatblygu cwricwlwm parhaus, prosiectau isadeiledd mawr a dadansoddi strategol tueddiadau marchnad perthnasol Ymhlith yr uchafbwyntiau mwyaf nodedig oedd uno Coleg Morgannwg a Choleg Ystrad Mynach yn 2014 i ffurfio Coleg y Cymoedd, a rheoli rhaglen fuddsoddi cyfalaf a oedd yn cwmpasu nifer o brosiectau gwerth sawl miliwn ar draws pedwar campws, gan gynnwys adeiladu campws Nantgarw gwerth £40m a agorodd yn 2012.
Cyn mynd i’r sector addysg, mwynhaodd Ms Phillips yrfa hynod lwyddiannus yn y sector masnachol, gan gynnwys dros 11 mlynedd fel prif weithredwr un o brif gwmnïau cyfreithwyr Cymru, Capital Law.
Yn ogystal â chynnig y cyfle i ddefnyddio ei chraffter masnachol mewn heriau newydd yn y maes addysg, roedd y penderfyniad i ymuno â’r coleg yn 2008 hefyd yn cynrychioli math o ddychwelyd i Ms Phillips, a astudiodd yn y coleg 35 mlynedd yn ôl yng nghampysau’r Rhondda a Rhydyfelin.
Dywedodd Karen Phillips, am ei phenodiad a’i chynlluniau ar gyfer dyfodol y coleg: Rwyf yn falch iawn o gael y cyfle hwn i arwain y coleg a gafodd cymaint o ddylanwad ar fy addysg a fy ngyrfa fy hun. Mae’n fraint gweithio gyda fy nghydweithwyr wrth inni ymdrechu i wneud gwahaniaeth i’r dysgwyr sy’n dod i astudio gyda ni. “
Mae Coleg y Cymoedd yn gwasanaethu mwy na 12,000 o ddysgwyr o fwrdeistrefi Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Yn ogystal â hyfforddiant galwedigaethol, mae’r coleg hefyd yn darparu’r dewis mwyaf o bynciau Safon Uwch ar un safle i oddeutu 400 o ddysgwyr. Mae’r coleg yn cyflogi 800 o bobl sy’n gweithio ar draws pedwar campws – Aberdâr, Nantgarw, y Rhondda, ac Ystrad Mynach.
Wrth groesawu Ms Phillips i’r rôl y mae hi ei hun wedi ei chyflawni â rhagoriaeth ers dros ddeng mlynedd, meddai Judith Evans, Pennaeth cyfredol Coleg y Cymoedd: “Mae Karen eisoes wedi cael dylanwad mawr ar gyfeiriad strategol y coleg a bydd hyn yn parhau. Mae gennyf bob hyder y bydd y coleg yn mynd o nerth i nerth o dan ei harweinyddiaethâ€.
“