Mae tri o ddysgwyr Canolfan Lefel A Coleg y Cymoedd wedi derbyn cynigion i astudio ym Mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.
Llongyfarchwyd y dysgwyr gan Julie James, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg pan fu ar ymweliad â Champws Nantgarw.
Derbyniodd Andrew Williams (19 oed) o’r Porth gynnig i astudio yng Ngholeg St Hilda’s, Prifysgol Rhydychen, ar ôl gwneud Lefel A mewn Mathemateg , Mathemateg pellach, Cemeg a Ffiseg. Eisoes cyflawnodd radd A* mewn Mathemateg ac felly mae’n gobeithio cael dau radd A yr haf yma er mwyn sicrhau ei le yn y brifysgol nodedig hon.
Mae Calum Haggett (18 oed) o Donyrefail ar hyn o bryd yn astudio lefel A mewn Mathemateg, Ffiseg a Bioleg ac mae wedi cael cynnig lle i astudio gwyddoniaeth biofeddygol yng Ngholeg St Anne, Prifysgol Rhydychen. Mae Calum, sy’n egin seren rygbi, eisoes wedi chwarae dros dîm dan 18 Cymru yn ogystal ag i dîm Gleision Caerdydd a Choleg y Cymoedd ac mae angen iddo gael gradd A* a dwy radd A yn ei arholiadau terfynol.
Mae Jacob Lewis (22 oed) o Gaerdydd yn gobeithio mynd i Hughes Hall, Prifysgol Caergrawnt, i astudio’r Gyfraith ar ôl cwblhau ei Lefel A yn y Gyfraith, Hanes a Chymdeithaseg a Bagloriaeth Cymru. Cynnig amodol Jacob ydy iddo gael pedair gradd A*.
Daw’r cynigion hyn flwyddyn ar ôl i Shannon Britton o Ferndale lwyddo i gael y sgôr uchaf yng nghwrs y Gyfraith Lefel A ar draws Lloegr a Chymru ac mae hi, erbyn hyn, yn astudio Saesneg yng Ngholeg Exeter, Rhydychen.
Yn ystod ei hymweliad â Choleg y Cymoedd cyn yr Wythnos Brentisiaeth (Mawrth 9-13) cwrddodd y Dirprwy Weinidog â rhai o brentisiaid peirianneg y coleg sy’n astudio peirianneg awyrofod, trydan a mecanyddol mewn partneriaeth â rhai o brif gwmnïau Cymru gan gynnwys GE Aviation, Gwasanaethau Gweithgynhyrchu Axiom Manufacturing Services a.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
“Roedd yn bleser cwrdd â phobl ifanc mor ymroddedig. Hoffwn longyfarch yr holl brentisiaid a myfyrwyr UG a Lefel A y coleg a dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth fynd ymlaen â’u hastudiaethau, symud i brifysgol neu wrth fynd i mewn i fyd gwaith.
“Yng Nghymru, rydyn ni’n credu bod ein pobl ifanc yn allweddol bwysig i’n lles a’n ffyniant fel cenedl. Bydd eu cyflawniad academaidd, eu deall a’u hegni yn helpu Cymru i dyfu a datblygu’n fwy cystadleuol.
“Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun newwydd yn cynnig mynediad i rai o ddisgyblion a myfyrwyr mwyaf disglair chweched dosbarth yng Nghymru i gymorth arbenigol i’w helpu i gael eu derbyn i brifysgolion gorau’r DU.â€
Roedd ymweliad y Dirprwy Weinidog â Choleg y Cymoedd yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru fis diwethaf y bydd yn cefnogi prosiectau adeiladu â blaenoriaeth ar gyfer colegau addysg bellach yng Nhymru fel rhan o raglen Ysgolion y 21 ganrif
Dywedodd Ian Rees, Rheolwr Cynghrair Strategol Canolfan Lefel A Coleg y Cymoedd: “Mae cael tri chynnig gan brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt mewn un flwyddyn yn wych i ac yn glod i waith ac ymdrech y myfyrwyr hyn dros y 18 mis diwethaf ac i ymroddiad ac arbenigedd y staff sydd wedi eu cynorthwyo.
“Ers cychwyn ar ein rhaglen Lefel A pan agorodd Campws Nantgarw yn 2012, rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau bod pob dysgwr yn cael pob cyfle i lwyddo yn ogystal ag elwa o weithgareddau allgyrsiol ychwanegol a chymorth bugeiliol. Hoffwn longyfarch Andrew, Calum and Jacob yn bersonol ar eu cynigion a rydw i’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn eu harholiadau terfynol yr haf yma.â€
Tra’n ymweld â Choleg y Cymoedd, cafodd Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ei thywys o gwmpas y Campws gwerth £40 miliwn yn Nantgarw a Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £34 miliwn ac ar y Campws hwn lleolir y ganolfan lefel A. Cwrddodd y Dirprwy Weinidog hefyd â dysgwyr dysgu sylfaen a pheirianneg sy’n elwa o gysylltiadau cadarn y coleg gyda chyflogwyr lleol, gan ddarparu hyfforddiant hanfodol ar gyfer dysgwyr mwyaf agored i niwed yr ardal.
Yn ddiweddar, sicrhaodd Coleg y Cymoedd gymorth mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru i godi arian ar gyfer adeiladu campws gwerth £20 miliwn yng nghanol tref Aberdâr yn lle’r cyfleusterau sydd eisoes yn bodoli yn Heol Cwmdâr.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR