Coleg y Cymoedd yn dadorchuddio gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd ar gampws Ystrad Mynach

Mae Coleg y Cymoedd wedi dadorchuddio ei gampws Ystrad Mynach newydd mewn digwyddiad lansio swyddogol yn dilyn gwaith ailwampio gwerth miliynau o bunnoedd.

Mae coleg yn ne Cymru wedi buddsoddi mwy na £9m yn y campws dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys adnewyddu mwy nag ugain o ystafelloedd dosbarth, bwyty newydd, gweithdy paentio ac addurno, yn ogystal â chreu cyfleuster chwaraeon pwrpasol a datblygu darpariaethau rhith-realiti a roboteg.

Mynychodd cyflogwyr lleol, partneriaid yn y diwydiant a chynrychiolwyr o ysgolion y digwyddiad. Aeth y gwahoddedigion ar daith o amgylch yr ystafelloedd dosbarth a adnewyddwyd a’r cyfleusterau newydd, cyn mwynhau pryd o fwyd tri chwrs ym mwyty Scholars y campws a adnewyddwyd fel rhan o’r prosiect. Paratowyd y pryd o fwyd gan dîm clodwiw sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer rownd derfynol Gwobrau Bwyd Cymru eleni.

Gwariwyd mwy na £2 filiwn ar wella’r bwyty a’r cyfleusterau arlwyo yn Ystrad, gan gynnwys adnewyddu bwyty a chegin Scholars yn llwyr, er mwyn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo yn cael eu hyfforddi mewn amgylchedd gwych. Daw’r lansiad wrth i’r campws ddathlu 50 mlynedd o ddarpariaeth arlwyo ar y safle, gyda’r cyn-ddysgwr, Michael Coggan, a aeth ymlaen i ennill Bake Off The Professionals ar Channel 4, hefyd yn mynychu’r digwyddiad i ddangos ei gefnogaeth i’r coleg a gychwynnodd ei yrfa.

Bydd y cyfleuster chwaraeon newydd sbon gwerth £2.5 miliwn, sy’n cymryd lle’r cyfleuster blaenorol, yn cefnogi hyfforddiant tua 100 o ddysgwyr chwaraeon bob blwyddyn, gan gynnwys y rhai sy’n rhan o academïau Rygbi’r Gynghrair a Phêl-droed Merched y coleg.

Mae gweithdai electroneg, cyfrifiadura a phaentio ac addurno, yn ogystal ag amrywiaeth o ystafelloedd dosbarth wedi’u hadnewyddu’n llwyr, gyda’r holl newidiadau’n werth bron i £2 filiwn. Hefyd, mae’r coleg wedi cyflwyno gweithdai ac offer i gefnogi sgiliau mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg fel roboteg a rhith-realiti, gan fod Coleg y Cymoedd wedi gweld galw cynyddol am y sgiliau hyn gan gyflogwyr.

Yn ogystal â dathlu’r buddsoddiadau a wnaed i’r campws, roedd y digwyddiad yn dangos cryfder cyfleusterau a chyrsiau’r coleg i bartneriaid allweddol, fel busnesau lleol a darparwyr prentisiaethau, er mwyn helpu i greu llwybrau cyflogaeth newydd i ddysgwyr yn ogystal â chefnogi partneriaethau presennol.

Dywedodd Jonathan Morgan, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydym ni’n gyffrous iawn i ddangos i’n partneriaid yr holl bethau rydym ni wedi bod yn gweithio arnyn nhw yn Ystrad Mynach dros y ddwy flynedd ddiwethaf i wella ein cyfleusterau a sicrhau bod dysgwyr sy’n gadael y coleg wedi cael y profiad dysgu gorau posibl.

“Bydd ein gwaith adnewyddu yn golygu bod ein graddedigion yn gorffen eu cymwysterau â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i neidio i’r union yrfa o’u dewis, p’un a ydynt am fynd i’r brifysgol, dechrau prentisiaeth neu ddilyn llwybrau chwaraeon proffesiynol. Mae meddu ar y cyfleusterau gorau hefyd yn ein helpu i weithio gyda phartneriaid lleol a mapio cyfleoedd gyrfa uniongyrchol a phrofiad gwaith.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau