Coleg y Cymoedd yn dathlu blwyddyn arall o lwyddiant Lefel A

Mae gorfoleddu yng Ngholeg y Cymoedd heddiw wrth i ddysgwyr ac athrawon ddod at ei gilydd yn y ganolfan Lefel A yn Nantgarw i ddathlu blwyddyn arall o ganlyniadau nodedig.

Eleni llwyddodd myfyrwyr Lefel A Coleg y Cymoedd gyda 15 o’r 22 pwnc llefel A yn cyflawni cyfradd basio o 100 y cant, yn cynnwys ffiseg, hanes, astudiaethau crefyddol, Saesneg iaith a llenyddiaeth.

Gyda thros 500 o ddysgwyr yn derbyn eu canlyniadau heddiw, Coleg y Cymoedd ydy’r darparwr Lefel A mwyaf yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf.

Mae canolfan Lefel A pwrpasol y Coleg yn cynnig dewis i ddysgwyr o 27 opsiwn o bynciau ac yn gweithredu fel partneriaeth rhwng y Coleg, Coleg Catholig Dewi Sant Caerdydd ac Ysgol Gatholig Uwchradd Cardinal Newman yn Mhontypridd.

Ymhlith y canlyniadau nodedig eleni sy’n deillio o’r bartneriaeth mae Kristian Hallett (18) o Ystrad Mynach, myfyriwr yn Ysgol Gatholig Uwchradd Cardinal Newman, sydd wedi cyflawni’r graddau oedd eu hangen i sicrhau ei le ym Mhrifysgol Rhydychen.

Gyda’i raddau o AAAA mewn seicoleg, hanes, Bagloriaeth Cymru, Saesneg iaith a llenyddiaeth, bydd Kristian yn mynd i Goleg Regent’s Park Prifysgol Rhydychen ym mis Medi i astudio ‘Hanes yr Hen Fyd a Hanes Modern’.

Dywedodd Kristian, “Roedd agor y canlyniadau yn wych, mae’n teimlo fel gwobr am yr holl waith caled aeth i mewn i astudio ac yna aros am y canlyniadau. Nawr mod i wedi sicrhau lle yn Rhydychen, efallai byddai’n cymryd blwyddyn allan, efallai hyd yn oed astudio Lefel A arall yng Ngholeg y Cymoedd.”

Ychydig ar ôl i Kristian agor ei ganlyniadau, cyflawnodd un o athletwyr ifanc blaenllaw Cymru, Calum Haggett (19) o Donyrefail, ei dargedau Lefel A sef tair gradd A ac un radd A* mewn mathemateg, ffiseg, cemeg a bioleg i sicrhau lle yng Ngholeg Imperial Llundain i astudio gwyddoniaeth biofeddygol. Yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg y Cymoedd bu Calum yn gapten sgwad rygbi llwyddiannus y coleg gan gynrychioli ei wlad yn rhyngwladol fel capten sgwad dan 18 Cymru. Am y flwyddyn ddiwethaf, anwybyddodd Calum ei yrfa rygbi er mwyn canolbwyntio ar ei astudiaethau.

Dywedodd Calum: “Mae heddiw yn gymaint o ryddhad ac yn wir destament i fy ngwaith caled dros y dwy flynedd ddiwethaf. Hoffwn ddiolch i Goleg y Cymoedd am eu cymorth, maen nhw wir wedi mynd yr ail filltir i sicrhau mod i’n cyflawni’r canlyniadau oedd eu hangen arna i o drefnu tiwtora ychwanegol hyd roi rhagor o amser i mi oedd yn caniatáu i mi barhau i chwarae rygbi.”

Mae Calum nawr yn edrych ymlaen at ymuno â chlwb rygbi ar ôl cyrraedd Llundain ac ail-gydio ei yrfa chwarae rygbi.

Hefyd mae dau efaill o Goleg y Cymoedd yn dathlu eu bod wedi cyflawni’r un graddau Lefel A a fydd yn caniatáu i’r ddau frawd fynd i Brifysgol Caerfaddon i astudio ar yr un cwrs.

Agorodd Rory a Ryan Doolan eu canlyniadau gyda’i gilydd yng nghanolfan Lefel A Coleg y Cymoedd yn Nantgarw y bore ‘ma i ddarganfod bod y naill a’r llall wedi ennill graddau AAB a gradd A* mewn mathemateg, daearyddiaeth, ffiseg a Bagloriaeth Cymru. Bydd y brodyr nawr yn mynd i’w dewis cyntaf o brifysgol i astudio peirianneg sifil.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Ers i ni agor y ganolfan hon bedair blynedd yn ôl, mae diwrnod y canlyniadau Lefel A wedi bod yn un o uchafbwyntiau gwirioneddol ein blwyddyn. Mae hi’n fraint cael bod yma heddiw i rannu yng nghyffro’r dysgwyr a’u tiwtoriaid wrth iddyn nhw ganfod canlyniadau dwy flynedd o ymroddiad a gwaith caled.

“Drwy gydweithio â’n hysgolion partneriaid, mae Coleg y Cymoedd wedi ei gwneud yn genhadaeth i gryfhau Cymoedd De Cymru drwy gyflenwi darpariaeth academaidd wych. Rwy’n credu bod yr awyrgylch gŵyl sydd yma heddiw’n dangos ein bod yn llwyddo.

“Ar ran holl staff y Coleg, fe hoffwn longyfarch ein holl ddysgwyr Lefel A ac UG. Mae heddiw’n nodi pennod newydd yn eu bywydau, ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth symud i’r cam nesaf yn eu hastudiaethau, neu wrth gychwyn ar eu llwybrau gyrfaol.

Mae Coleg y Cymoedd yn gwasanaethu dros 12,000 o ddysgwyr o fwrdeistrefi Caerffili, Rhondda Cynon Taf a’r ardaloedd cyfagos. Yn ogystal â’r cyrsiau Lefel A, mae’r coleg yn darparu dewis eang o gyrsiau galwedigaethol ar ei bedwar campws – Aberdâr, Nantgarw, Rhondda ac Ystrad Mynach.

Mae yna lefydd gwag ar gael ar gyfer cyrsiau Lefel A a chyrsiau galwedigaethol sy’n cychwyn ym mis Medi 2016. Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael, a sut i wneud cais, ewch ar wefan y coleg: www.cymoedd.ac.uk.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau