Coleg y Cymoedd yn dathlu eu llwyddiannau Lefel A

Mae Coleg y Cymoedd heddiw (Awst 13) wedi cadarnhau ei le ymhlith y canolfannau mwyaf llwyddiannus ym maes Lefel A yng Nghymoedd De Cymru, wrth i’r dysgwyr ddathlu blwyddyn arall o ganlyniadau syfrdanol.

Eleni, gwelwyd graddfa o 97.2% ar gyfer y rhai sydd wedi pasio eu Lefel A, ac 84% i’r rhai sydd wedi pasio Lefel UG.

Mae’r coleg wedi gweld fod 72.6% wedi pasio gyda graddau A*-C, gyda 12 o’r 27 maes pwnc Lefel A a BTEC yn cael llwyddiant o 100%, yn cynnwys Mathemateg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg a Busnes.

Coleg y Cymoedd ydy’r darparwr mwyaf ym maes Lefel A yn siroedd Caerffili a Rhondda Cynon Taf ac yr oedd 500 o ddysgwyr yn derbyn eu canlyniadau heddiw. Mae’r Coleg yn cynnig dewis o 28 pwnc Lefel A/UG ac mae’n gweithio fel partneriaeth rhwng y Coleg, Coleg Catholig Dewi Sant Caerdydd ac Ysgol Gatholig Cardinal Newman ym Mhontypridd.

Roedd y llwyddiannau eithriadol yng Ngoleg y Cymoedd eleni yn cynnwys dau o’r dysgwyr sydd wedi cael cynnig lle yn Rhydychen a Chaergrawnt. Bydd Andrew Williams, 18, o Ynyshir yn mynd i Brifysgol Rhydychen ar ôl cael tri A* ac un gradd A mewn Mathemateg, Mathemateg pellach, Ffiseg a Chemeg. A bydd Jacob Lewis, 22, o Gaerdydd, yn dathlu am mai fe ydy’r myfyriwr cyntaf o’r coleg i gael lle ym Mhifysgol Caergrawnt i astudio’r Gyfraith, ar ôl cael pedair gradd A*.

Dychwelodd Jacob i fyd addysg fel dysgwyr hÅ·n ar ôl gweithio am dair blynedd ym myd rheoli dyledion. Ar ôl i bethau droi’n chwith rhyngddo â’i deulu, bu Jacob yn cysgu ar soffa yn nhai ei ffrindiau cyn troi o’r diwedd am help drwy Goleg y Cymoedd. Defnyddiodd y Coleg gymorth drwy’r gronfa caledi myfyrwyr i’w helpu gyda’i gostau cludiant a chynhaliaeth, a hyd yn oed ei roi i letya mewn gwesty pan nad oedd ganddo unman i fyw.

Meddai Jacob: “Rydw i’n eithriadol o falch o’m canlyniadau a gobeithio bydd hyn yn dangos i fyfyrwyr yng Nghymru y gellir gwneud hyn drwy waith caled ac ymroddiad er mwyn gwireddu’ch beuddwydion.

“Fe wnes i adael coleg yn 17 mlwydd oed a mynd i weithio, ond ymhen amser roeddwn i am fynd yn ôl i fyd addysg. Mae hi wedi bod yn frwydr galed. Ddechrau eleni roeddwn i’n gweithio 24 awr yr wythnos i gael arian i astudio a chadw dau ben llinyn ynghyd. Doedd gen i fawr ddim i dalu am fwyd. Ar un adeg roeddwn i’n ddi-gartref a bum yn cysgu o soffa i soffa. Roedd gen i daith ddyddiol o dri chwarter awr i gyrraedd y coleg a bum yn treulio 12 awr y dydd yn y llyfrgell gan mai yno’n unig y gallwn i astudio.

“Felly, rydw i’n hynod ddiolchgar i’r coleg am bopeth maen nhw wedi ei wneud i mi. Fi ydy’r cyntaf o’r teulu i fynd i brifysgol. Mae wedi bod yn gyfnod anodd ond roedd yn werth yr aberth.

“Does gen i ddim cynlluniau pendant ar gyfer fy ngyrfa ar ôl Caergrawnt, ond rydwi i wedi ymroi’n llwyr i geisio gwneud y byd yn lle gwell gyda’r manteision y mae addysg elit yn gallu ei gynnig i mi.

Mae marciau Jacob ymhlith y rhai gorau gafwyd erioed yng Nghymru – gan iddo gael 100% yn ei Lefel A Hanes a 100% yn gyffredinol yn Y Gyfraith, am ei waith cwrs a’r arholiad.

Yn ôl Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae ein perfformiad Lefel A eithriadol yn wobr am ddwy flynedd o waith caled gan y dysgwyr a’r staff sy’n eu cefnogi.

“Mae llwyddiannau personol a chyfunol ein dysgwyr yn tanllinellu cenhadaeth Coleg y Cymoedd i atgyfnerthu Cymoedd De Cymru drwy gynnig darpariaeth academaidd ardderchog, wedi ei ddarparu drwy gwricwlwm Lefel A sydd gyda’r ehangaf yn Ne Cymru.

“Ar ran holl staff y Coleg, hoffwn longyfarch ein holl ddysgwyr Lefel A ac UG a dymuno’n dda iddyn nhw i’r dyfodol wrth iddyn nhw fynd ymlaen â’u hastudiaethau colegol, symud i brifysgol neu gychwyn ar eu gyrfoaedd.”

Mae Coleg y Cymoedd yn gwasanaethu dros 20,000 o ddysgwyr drwy fwrdeistrefi sirol Caerffili a Rhondda Cynon Taf ac ardaloedd cyfagos. Yn ogystal â darparu hyfforddiant galwedigaethol, mae’r Coleg yn cynnig y dewis ehangaf o bynciau Lefel A ar un safle (Nantgarw) ar gyfer 500 o ddysgwyr. Mae gan y coleg 900 o staff yn gweithredu ar bedwar campws – Aberdâr, Nantgarw, Rhondda ac Ystrad Mynach.

Mae lle ar gael o hyd ar gyrsiau Lefel A a chyrsiau galwedigaethol sy’n cychwyn ym Medi 2015. Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael a sut i wneud cais, ewch ar y wefan: www.cymoedd.ac.uk.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau