Cyflwynwyd Gwobrau Dug Caeredin i dros ddeg ar hugain o ddysgwyr Coleg y Cymoedd mewn seremoni arbennig i nodi’r achlysur. Mynychodd y Pennaeth Cynorthwyol, Karen Workman, y dathliad ar gampws Nantgarw i longyfarch y dysgwyr a chyflwyno eu tystysgrifau a’u bathodynnau iddynt. Mae Gwobr Dug Caeredin (DofE) yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc 14-25 oed gael her ac antur a chaffael sgiliau newydd.
Bu’n flwyddyn anhygoel i’r coleg gyda chanlyniadau rhagorol. Enillodd tri grŵp o ddysgwyr Gwobr Dug Caeredin o gyrsiau Llwybr 2, Sgiliau Bywyd ac Annibyniaeth Lefelau Mynediad 1 a 2 a Chwaraeon a Gwasanaeth Cyhoeddus, cyrsiau Sylfaen M3, eu dyfarniad llawn.
Ar 25 Mai, y grŵp cyntaf i gychwyn ar eu her oedd y Grŵp Arian. Cychwynnodd y criw cymysg ar eu taith gerdded gyntaf o Ganolfan Gwlyptir Llanelli i Gae Mawr yn Nyffryn y Swistir. Ar ôl noson o wersylla, ar Ddiwrnod 2 aethant ar daith hir i Ben-bre, ac ar Ddiwrnod 3 aethant i archwilio Parc Pen-bre gan edrych ar yr agweddau hanesyddol hefyd.
Yn dilyn llwyddiant y Grŵp Arian ym mis Mai, ar 15 Mehefin cychwynnodd y Grŵp Efydd cyntaf ar eu taith ddeuddydd o Barc Dŵr y Sandy, Llanelli i Ben-bre, gyda’r ail Grŵp Efydd yn dilyn yn ôl eu traed ar 22 Mehefin.
Wrth siarad am Raglen Gwobr Dug Caeredin a llwyddiant dysgwyr Coleg y Cymoedd, dywedodd Karen, “Mae’r coleg wrth ei bodd bod mwy a mwy yn cymryd rhan ac yn falch o’r dysgwyr sydd wedi cwblhau’r Gwobrau.
Mae dysgwyr Mynediad Galwedigaethol yn mynychu’r coleg gyda phob math o heriau a rhwystrau dyddiol i’w goresgyn, yna maent yn dilyn cwricwlwm gyda heriau ychwanegol i’w helpu i fod yn fwy annibynnol. Mae Gwobr Dug Caeredin yn ychwanegu ychydig mwy o her oherwydd mae’r dysgwyr wedyn yn camu y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfarwydd ac yn normal. Mae’r heriau sy’n eu hwynebu yn cynnwys cerdded yn annibynnol, darllen map neu a dilyn tirnodau, gwersylla am noson neu ddwy! Mae’n rhaid iddynt hefyd goginio drostynt eu hunain gan ddefnyddio offer Trangia ac wrth gwrs, mae’n rhaid iddynt weithio fel rhan o dîm i helpu ei gilydd i gyflawni’r Wobr fel tîm”.
Er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn rhoi’r canlyniad gorau i’r dysgwyr, ar ôl yr alldeithiau mae’r dysgwyr yn treulio amser yn trafod eu profiadau a’r hyn y gwnaethant ei fwynhau ai peidio, yr hyn y gellid ei wella y tro nesaf ac yn bwysicaf oll yr hyn yr oeddent wedi’i ddysgu amdanynt eu hunain. Ymhlith rhai o’r sylwadau gan garfan eleni mae, “Doeddwn i ddim yn sylweddoli y gallwn gloddio mor ddwfn, doeddwn i ddim yn mynd i roi’r gorau iddi” (Evan) a “Dydw i erioed wedi gweld awyr y nos, roedd y sêr yn anhygoel” (Thomas) . Neges glir gan yr holl ddysgwyr oedd sut yr oeddent wedi gweithio gyda’i gilydd fel tîm pan oeddent dan bwysau.