Coleg y Cymoedd yn dathlu llwyddiannau Lefel A

Yr wythnos hon, daeth ton newydd o ddarpar weithwyr rheilffyrdd i Goleg y Cymoedd yn fyfyrwyr ar Raglen flaengar ac arloesol Prentisiaeth Peirianneg Rheilffyrdd.

Yn dilyn cyfnod cyntaf y buddsoddiad o £3 miliwn mewn cyfarpar a chyfleusterau newydd ar gampws y Coleg yn Nantgarw, cychwynnodd carfan o naw dysgwr ifanc o Dde Gymru ar eu prentisiaeth fel peirianwyr rheilffyrdd. Dros y 12 mis nesaf bydd 40 prentis newydd arall yn ymuno â’r rhaglen.

Cyflenwir yr hyfforddiant dwys, cysylltiedig â chyflogaeth yn y diwydiant, ar y cyd gan Goleg y Cymoedd a’r cwmni recriwtio arbenigol McGinley Support Services; partneriaeth a gaiff ei hanner ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y prentisiaid yn ennill cymwysterau Lefel 2 gan weithio ar gyfarpar yn y Coleg, cyfarpar o safon y diwydiant sy’n cynnwys replica o drac rheiffordd o faintioli llawn.

Mae’r buddsoddi pellach hyn yn digwydd ar y campws ac erbyn mis Medi 2015, bydd y gwaith wedi gorffen ar gyfleusterau rheilffordd pwrpasol yn Nantgarw, a bydd hyn y sefydlu Coleg y Cymoedd yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer hyfforddiant gwaith ar y rheilffyrdd.

Mae Shay Smallman, yn un o’r garfan gyntaf o brentisiaid rheilffordd i astudio yn y coleg. Wrth sôn am ei wythnos gyntaf o hyfforddiant, dywedodd y bachgen 18 oed o Gilfach Goch yng Nghwm Rhondda : “Ar ôl darllen am y brentisiaeth, sylweddolais ei bod yn cynnig cyfle ardderchog. Dw i’n mwynhau’r ochr ymarferol yn fawr iawn felly roedd yn ddewis gwych i mi.

“Hyd yn hyn, buon ni’n dysgu llawer am iechyd a diogelwch ar y trac a sut i ddefnyddio’r cyfarpar yn gywir. Gan fod cymaint o beryglon yn y gwaith, mae’n bwysig i ddysgu hyn nawr. Rydyn ni wedi cael defnyddio’r traciau replica ddwywaith hyd yn hyn ac mae wir yn gyffrous.”

Mae Tony Rowberry, 21 oed o Aberpennar yng Nghwm Cynon, eisoes wedi penderfynu y byddai’n hoffi gwneud cymhwyster uwch mewn peirianneg trac rheilffordd ar ôl gorffen ei flwyddyn gyntaf. Dywedodd: “Mae fy mrawd yn gweithio gyda McGinley, felly, dwi’n gwybod am y cyfleoedd rhyfeddol a gafodd e. Dw i mor falch mod i wedi dewis gwneud y brentisiaeth ac wedi mwynhau pob munud hyd yn hyn, yn enwedig gan fy mod wrth fy modd yn dysgu wrth wneud y gwaith. Cawson gefnogaeth a chymorth arbennig gan diwtor ein cwrs ac mae bob amser yno i’n helpu.”

Yn ogystal â sgiliau craidd peirianneg rheillfyrdd, lluniwyd y cyfleusterau i wella nifer o sgiliau trosglwyddadwy megis gwaith adeiladu a chrefftau gwaith trydan y gellir eu defnyddio ar waith y rheilffordd hefyd.

Dywedodd Wayne Chawner, tiwtor cwrs prentisiaeth rheilffyrdd McGinley yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae’r brentisiaeth rheilffyrdd yn gyfle gwych i’r bobl ifanc i weithio ar replica o drac go wir gyda chydrannau go wir mewn amgylchedd diogel. Bydd y cwrs hwn yn darparu profiad uniongyrchol ar gyfer y dysgwyr a rhagolygon am yrfa wych yn y diwydiant. Rydyn ni newydd orffen yr wythnos gyntaf o’r brentisiaeth ac mae awydd a brwdfrydedd y dysgwyr wedi creu argraff fawr arna i.”

Cefnogwyd y fenter hefyd gan Speedy Services oedd wedi cyfrannu offer a chyfarpar pŵer i’r prentisiaid gael eu defnyddio, a gan Walters UK gyfrannodd arian tuag at gyflenwi offer.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydyn ni’n hynod o falch o fod yn gweithio gyda McGinley, ein partner diwydiant diweddaraf, i gyflenwi hyfforddiant arloesol sy’n arwain at swyddi go wir. Gyda buddsoddiadau mawr yn y rheilffyrdd i ddod yn ystod y blynyddoedd nesaf, mae’r rhagolygon yn ddisglair ar gyfer y bobl ifanc hyn. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru i greu canolfan ragoriaeth yma yn dangos eu hyder yng ngallu Coleg y Cymoedd i ddarparu addysg, hyfforddiant rhagorol a chyfleoedd gyrfaol gwych ar gyfer pobl ifanc yn Ne Cymru.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau