Coleg y Cymoedd yn dathlu llwyddiant canlyniadau lefel A

Mae Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams, wedi ymuno â dysgwyr heddiw yng Ngholeg y Cymoedd i ddathlu llwyddiant ei ganlyniadau lefel A.

Heddiw, roedd Canolfan Chweched Dosbarth y coleg yn Nantgarw yn taenu’r carped coch i ddysgwyr.  At ei gilydd, roedd eu llwyddiant yn 97% ar gyfer A2 gyda 63% o ddysgwyr yn llwyddo i gael A*-C a sawl pwnc wedi cyrraedd cyfradd llwyddiant o 100%, gan gynnwys Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Mathemateg Bellach, Saesneg a Hanes.

Roedd yr awyrgylch o ŵyl oedd yng Ngholeg y Cymoedd yn gefndir i’r Gweinidog Addysg longyfarch dysgwyr yn bersonol wrth iddi ddarganfod cyfrinachau llwyddiant y Ganolfan Chweched Dosbarth, gwelliant o 5% ar ganlyniadau AS y llynedd.

Mae canlyniadau eleni’n un o gerrig milltir mwyaf balch y coleg ac mae’n arddangos llwyddiant nifer o fentrau y mae’r coleg wedi’u gweithredu yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.  Dechreuodd y llwybr i lwyddiant mewn ail lansiad fis Medi 2018 pan gymerodd Coleg y Cymoedd reolaeth yn ôl o bob agwedd academaidd a galwedigaethol o’r Ganolfan Chweched Dosbarth, a arweiniodd at gynnydd o 6% mewn cyflawniadau llwyddiannus..    

Roedd cyfarfod â’r tiwtoriaid hefyd yn gyfle iddi weld â’i llygaid ei hunan sut y mae staff y coleg wedi ail ddiffinio profiad addysgol er mwyn sicrhau fod llesiant dysgwyr yn derbyn cymaint o sylw â darparu cyfleoedd dysgu a chyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau all gwricwlaidd o’r radd flaenaf. 

Wrth sôn am ei hymweliad, meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Mae derbyn eich canlyniadau lefel A yn ddigwyddiad mawr ym mywyd pawb.  Roedd yr awyrgylch o ŵyl yn y coleg yn addas iawn ar gyfer carreg filltir mor bwysig ac yn sicr yn fwy hudolus na phan gefais i fy nghanlyniadau lefel A flwyddyn neu ddwy yn ôl!

“Llongyfarchiadau mawr i’r myfyrwyr ac i bawb yng Ngholeg y Cymoedd ar eich llwyddiant a diolch yn fawr i chi am fy nghroesawu i yma heddiw.  Rwy’n dymuno’n dda i bawb ohonoch chi ar eich her nesaf!”

Mae llwyddiannau eithriadol y dysgwyr yn cynnwys Thomas Tiltman, 18, o Fedwas, a gymerodd ei arholiad Mathemateg lefel A flwyddyn yn gynnar yn ddim ond 16 oed a llwyddo i gael A*.  Gan ychwanegu at ei lwyddiant, llwyddodd Thomas heddiw i gael graddau A*AA mewn Ffiseg, Mathemateg Bellach a Bioleg a llwyddo i ennill lle i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerfaddon – un o’r sefydliadau gorau yn y DU i astudio’r pwnc.  Mae’r darpar ariannydd ymhell ar y ffordd i gyrraedd ei nod mewn gyrfa ar ôl llwyddo i gael lle ar y cwrs, sydd hefyd yn cynnwys blwyddyn o leoliad amhrisiadwy mewn diwydiant.

Hefyd, mae Daniel Bray, deunaw oed o Gaerffili, ar ei ffordd i astudio Cyfrifiadureg ar ôl llwyddo i gael A*AB mewn Mathemateg, Ffiseg a Mathemateg Bellach.  Gorffennodd y disgybl disglair ei lefel A lawn mewn Mathemateg ar ôl dim ond un flwyddyn o astudiaeth adeg ei AS a llwyddo i gael un o’r canlyniadau gorau yng Nghymru.  Dysgodd Daniel ei hun sut i godio meddalwedd cyfrifiaduron a gemau ac erbyn hyn mae’n gobeithio datblygu gyrfa fel rhaglennwr cyfrifiaduron.

Yn y cyfamser, mae’r efeilliaid Morgan a Lewis King yn bwriadu cymryd llwybr galwedigaethol i’w dewis o yrfa ar ôl derbyn eu canlyniadau lefel A.  Mae’r ddau frawd, sy’n hollol wahanol i’w gilydd o ran eu dewis o bynciau, Morgan yn astudio Astudiaethau Ffilm, y Cyfryngau a Chelf a Lewis yn astudio Ffiseg, Mathemateg, Mathemateg Bellach a Chemeg, yn bwriadu cymryd prentisiaethau yn hytrach nag astudio’n llawn amser mewn prifysgol.  Breuddwyd Morgan yw gweithio ar effeithiau arbennig ac animeiddio mewn ffilmiau mawr ac mae’n bwriadu treulio’r haf yn datblygu ei bortffolio animeiddio tra’n chwilio am y brentisiaeth berffaith i’w gael i mewn i’r diwydiant.

Cafodd Canolfan Chweched Dosbarth Coleg y Cymoedd ei sefydlu yn 2012.  Mae’n cynnig dewis i ddysgwyr o 24 o bynciau AS ac A yn ogystal â 6 o ddewisiadau BTECH Lefel Tri.  Gyda 300 o ddysgwyr yn disgwyl eu canlyniadau heddiw, Coleg y Cymoedd yw’r darparydd lefel A mwyaf yn siroedd Caerffili a Rhondda Cynon Taf.

Roedd y Gweinidog Addysg yn ymuno â Karen Phillips, Pennaeth Coleg y Cymoedd, a oedd yn dweud, wrth longyfarch dysgwyr, tiwtoriaid a staff:  “Rydyn ni’n eithriadol o falch o’r llwyddiant anhygoel rydyn ni weld yng Ngholeg y Cymoedd eleni, ein blwyddyn gyntaf o gymryd cyfrifoldeb llawn am bob agwedd o ddarpariaeth lefel A a phrofiadau dysgwyr.

“Yn ystod y 12 mis diwethaf, rydyn ni wedi gweithio’n ddiflino i roi addysg o’r ansawdd orau bosibl i’n dysgwyr ac, yr un pryd, yn ymdrechu i ddarparu lefel digymar o ofal bugeiliol.  Mae ymroddiad ein tiwtoriaid a’n timau cefnogi’n gwarantu bob pob dysgwr yn cael pob cyfle i lwyddo.

“Mae cefnogi dysgwyr i lwyddo drwy wneud eu gorau glas yn golygu llawer mwy na dim ond eu helpu gyda’u hastudiaethau – mae’n golygu eu cefnogi fel unigolion a’u hysbrydoli i godi’n uwch ac i fynd ymhellach.

“Mae canlyniadau heddiw’n glod i’r awyrgylch gefnogol rydyn ni wedi’i chreu.  Fe hoffwn i ddiolch a llongyfarch y tîm dysgu cyfan am yr ymroddiad y maen nhw wedi’i ddangos i gefnogi ac i ysbrydoli dysgwyr, yn academaidd ac yn fugeiliol.

“Rwy’n llongyfarch un ac oll o’n dysgwyr disglair sy’n derbyn eu canlyniadau ac yn dymuno’r gorau posibl iddyn nhw yn y dyfodol, a ydyn nhw’n dymuno mynd i brifysgol, dechrau prentisiaeth, dilyn addysg neu hyfforddiant pellach neu gymryd eu camau cyntaf i ddringo’r ysgol yrfa.”

Yn ogystal â dathlu ei ganlyniadau lefel A ardderchog, mae’r coleg hefyd yn dathlu canlyniadau eithriadol ei ddygwyr galwedigaethol, a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i brifysgolion, prentisiaethau neu’r gweithle.

Mae Coleg y Cymoedd yn gwasanaethu mwy na 10,000 o ddysgwyr o fwrdeistrefi Caerffili, Rhondda Cynon Taf a’r ardaloedd cyfagos.  Yn ogystal â lefel A, mae’r coleg hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol, gan gynnwys prentisiaethau, ar ei bedwar campws yn Aberdâr, Nantgarw, y Rhondda ac Ystrad Mynach.

Mae rhai lleoedd yn dal ar ôl ar gyrsiau lefel A a galwedigaethol yn cychwyn fis Medi 2019.  I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y cyrsiau sydd ar gael a sut i ymgeisio, ewch i www.cymoedd.ac.uk

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau