Coleg y Cymoedd yn dathlu llwyddiant dysgwyr

Bu Coleg y Cymoedd yn dathlu cyflawniadau anhygoel ei ddysgwyr yn ddiweddar yn y Seremoni Wobrwyo Flynyddol a gynhaliwyd ar gampws Nantgarw’r Coleg.

Estynnodd y Pennaeth Karen Phillips groeso i’r gwesteion a llongyfarch y dysgwyr ar gael eu henwebu ar gyfer Gwobr o blith dros 10,000 o ddysgwyr. Aeth ymlaen i gydnabod cefnogaeth teuluoedd a ffrindiau a diolch i’r tiwtoriaid a enwebodd eu dysgwyr ac a chwaraeodd ran fawr yn eu cefnogi.

Roedd y Coleg yn falch o groesawu un o’i gyn-fyfyrwyr yn ôl, sef Amy Williams; cyn ddysgwr Celfyddydau Perfformio ar gampws y Rhondda, sydd bellach yn astudio yn Italia Conti yn Llundain. Amy oedd yn arwain y digwyddiad, a dechreuodd drwy gyflwyno’r siaradwr gwadd, y dadansoddwr rygbi, Sean Holley.

Cafodd anerchiad ysbrydoledig Sean dderbyniad da gan y dysgwyr, y gwesteion a’r staff, a soniodd am rai o’i brofiadau yn ei fywyd personol sydd wedi llywio ei yrfa. Ei neges glo i bawb oedd “Gwnewch y pethau rydych chi’n eu mwynhau mewn bywyd”.

Bu aelodau o’r Uwch Dîm Arwain yn cyflwyno Enillwyr y Wobr, gyda thros 50 o ddysgwyr o bob cyfadran yn derbyn eu Gwobr gan y siaradwr gwadd Sean Holley a noddwyr y categori. Cafodd gwobrau eu cyflwyno hefyd i ddysgwyr am eu Cyfraniad i Fywyd Coleg ac i’r Gymraeg.

Cafwyd egwyl rhwng cyflwyno’r gwobrau ar gyfer adloniant y noson – perfformiad pleserus a phroffesiynol gan ddysgwyr Celfyddydau Perfformio. Perfformiodd y dysgwyr ddarnau o’u sioe gerdd diwedd blwyddyn – ‘Little Shop of Horrors’.

Cafodd y gwobrau terfynol am Lwyddiannau Eithriadol a Goresgyn Rhwystrau eu dewis gan y Pennaeth o blith dros 50 o enillwyr y Gwobrau.

Caiff y Wobr Goresgyn Rhwystrau ei chyflwyno i’r dysgwr sydd wedi goresgyn rhwystrau yn ystod eu cwrs, ond sydd wedi llwyddo i ennill eu cymhwyster. Cafodd y wobr yma ei chyflwyno i ddysgwraig Astudiaethau Plentyndod, Molly May Francis, sy’n astudio ar gampws Ystrad Mynach.

Josie Wheeler enillodd y Wobr Cyflawniad Eithriadol i gydnabod ei chyflawniadau wrth astudio yn y Coleg. Yn gynharach yn y flwyddyn, enillodd Josie, sy’n astudio Lletygarwch ac Arlwyo ar gampws Nantgarw, wobr Myfyriwr-Gogydd Cynnyrch Crwst y Flwyddyn ledled Prydain.

Wrth ddod â’r noson i ben, diolchodd y Pennaeth i bawb am fynychu’r digwyddiad a llongyfarch y dysgwyr ar eu llwyddiannau. Dymunodd bob llwyddiant iddyn nhw i’r dyfodol gan obeithio bod y Coleg wedi chwarae rhan yn eu dyfodol.

Diolchodd y Pennaeth i’r dysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo am ddarparu, gyda chefnogaeth y staff, amrywiaeth o luniaeth ysgafn blasus a gafodd ei fwynhau wrth gyrraedd y digwyddiad.

Diolchodd hefyd i Sean Holley am ei sgwrs ysbrydoledig, ac i’r rhai fu’n ymwneud â’r digwyddiad, a chydnabyddodd gefnogaeth hael y noddwyr: Agored Cymru, Bwydydd Castell Howell, Credwch Ltd., Dovetail Slate, Inferno Fire Safety & Security Solutions Ltd., Ligtas, Mott Macdonald, Protech Rail Engineering, Cwmni Ymgynghori Talent HR, Y Ganolfan Gyhoeddusrwydd, Cronfa Gymynrodd Tom Wilcox, VTCT.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau