Coleg y Cymoedd yn dathlu llwyddiant dysgwyr nodedig am y tro cyntaf

Daeth oedolion sy’n dysgu, tiwtoriaid a staff addysgol ynghyd i Noson ‘Dathlu Cyflawniad’ yng Nghampws Ystrad Mynach o Goleg y Cymoedd, nos Fawrth, Medi 16.

Cynhaliwyd yr achlysur i gydnabod cyflawniadau’r oedolion sy’n dysgu a’u tiwtoriaid ym maes addysg gymunedol drwy fwrdeistref sirol Caerffili, gan gynnwys dysgwyr o Goleg y Cymoedd.

Yr enillwyr o’r Coleg oedd Michelle-Ann Clothier, dysgwraig Sgiliau Sylfaenol, a ddyfarnwyd yn deilwng o’r Wobr Sgiliau Hanfodol Bywyd, a Derrick Goodwin, dysgwr TGCh ar gampws Ystrad Mynach, dderbyniodd Wobr yr Uwch-Ddysgwr.

Aeth gwobr y Grŵp Dysgu Cymunedol i Grŵp Ymglymu Teuluoedd Phillipstown fu, mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd, yn annog dysgwyr i gaffael Sgill Allweddol mewn Gwella’u Dysg eu Hunain drwy Fathemateg a Lefel 1 Sgiliau Hanfodol mewn Rhifedd, yn ogystal â mynychu cyrsiau Celf Llosgliw, Crefft Siwgr a Chrefftau Nadolig.

Grŵp Ymglymu Teuluoedd Phillipstown hefyd enillodd wobr Dysgwyr y Flwyddyn Caerffil 2014. Mae’r grŵp bach hwn o rieni wedi cyflawni cyfoeth o hyfforddiant, gyda help Coleg y Cymoedd, ac wrth wneud hynny maen nhw wedi dod yn gyfeillion clos ac yn ysbrydoliaeth i rieni eraill.

Cyflwynwyd gwobr Tiwtor y Flwyddyn, wedi ei noddi gan Goleg y Cymoedd, i Sharon Edwards. Dywed Sharon, sydd wedi bod yn diwtor i dîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned am 18 mis: “I mi, mae addysgu’n fwy na throsglwyddo sgiliau a gwybodaeth. Mae’n golygu canfod dulliau o symud y rhwystrau rhag dysgu ac annog pobl i ystyried yr hyn y gallan nhw ei wneud, yr hyn hoffen nhw ei wneud a’r modd o’i wneud e.

Dywedodd Maer Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd David Carter: “Roeddwn i’n falch o allu mynychu’r achlysur hwn a helpu i ddathlu cyflawniad y dysgwyr, tiwtoriaid a’r staff addysgol. Drwy gydol y noson, clywsom am hanesion i’n hysbrydoli gan ddysgwyr oedd wedi ymrestru ar gyrsiau addysg cymunedol er mwyn cyrraedd eu nod. Rwy’n gobeithio y bydd eraill yn manteisio ar y dewis eang o gyfleoedd dysgu sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.”

Trefnwyd yr achlysur gan Grŵp Cynllunio Gŵyl Ddysgu Caerffili, sy’n cynnwys aelodau o nifer o sefydliadau addysgu, i gyd yn gweithio i gyflwyno pobl i ddysg. Yn ystod 2014, hyrwyddodd y grŵp sesiynau blasu ar gyfer 1,200 o bobl yn y Bwrdeistref Sirol drwy Wythnos Addysg Oedolion.

Dywedodd Elizabeth Millington, enillydd Gwobr Dysgwr Addysg Bellach ac Uwch: “Byddwn yn annog unrhyw un gaiff gyfle i ddysgu pwnc newydd, neu sydd am ddychwelyd at addysg, i wneud hynny. Mae hi mor hawdd i feddwl eich bod yn rhy hen neu wedi mynd i ormod o rigol i newid eich byd, ond gall y newid yna ddod â’i wobr a chynnig profiadau gwerthfawr. Dim ond un siawns gawn ni mewn bywyd a rydw i’n bendant dylen ni wneud y gorau ohoni.”

Yr enillwyr eraill oedd Grŵp Ysgrifennu Cynllun Gofal Beatrice Webb Ar gyfer y Wobr Cyflogai yn Dysgu, Kelly-Marie Morris Ar gyfer y Wobr Eiriolwr Digidol, Katarina Winston-Jones Ar gyfer y Wobr Dysgu Teuluol a Joshua Jehu Ar gyfer y Wobr Dysgwyr o Oedolyn Ifanc.

Ymhlith noddwyr y gwobrau roedd: Robert Price Builders’ Merchants, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, NIACE Cymru, Cymunedau 2.0, Janro, Parent Network, Educ8, Fforwm 50+ Caerffili ac UHOVI. Fel rhan o’r adloniant ar y noson cafwyd datganiadau gan Gôr Merched Cefn Hengoed.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau