Cyhoeddodd Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg, bod Llywodraeth Cymru am roi cymorth ariannol ar gyfer campws newydd gwerth £20 miliwn yn nghanol tref Aberdâr.
Mewn araith yng Ngholeg y Cymoedd, ar Gampws Nantgarw, dywedodd bod y Llywodraeth wedi nodi’r cynllun yn brosiect adeiladu uchel ei flaenoriaeth ar gyfer ei Rhaglen Ysgolion yn yr Unfed Ganrif ar Hugain a bydd yn gweithio gyda’r coleg i ddatblygu achos busnes i ganiatáu iddyn nhw dderbyn hyd at £11 miliwn tuag at gyfanswm cost y prosiect.
Y bwriad ydy y bydd y campws newydd blaengar yng nghanol tref Aberdâr yn disodli’r cyfleusterau cyfredol yng Nghwmdâr.
Lleolir y campws newydd oddiar Heol Wellington yn agos at orsaf drenau Aberdâr.
Y bwriad ydy adfywio’r safle 2.7 erw sydd ar hyn o bryd yn ddiffaith i wasanaethu hyd at 800 o ddysgwyr, yn ymgorffori cyfleusterau o safon y diwydiant i gyfoethogi’r addysg a’r hyfforddiant sgiliau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd ar y campws presennol.
Bydd y ffaith bod y safle mor agos at orsaf drenau Aberdâr, ysgol newydd Aberdâr a chanol y dref yn darparu mynediad gwell o lawer ar gyfer dysgwyr a staff i gludiant cyhoeddus a chysylltiadau cymudo o ardaloedd y tu allan.
Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hymrwymiad i’n cynorthwyo i gyflawni ein buddsoddiad diweddaraf a fydd yn darparu’r cyfleusterau gorau ar gyfer ein dysgwyr yn ogystal â chyfleoedd datblygu.
“Bydd y campws newydd yn tanlinellu cenhadaeth Coleg y Cymoedd i sicrhau rhagoriaeth ym maes addysg a datblygiad sgiliau ar gyfer dysgwyr yn y cymunedau yr ydyn ni’n eu gwasanaethu.
“Mae’r coleg wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda’r ysgolion sy’n agos at y campws newydd er mwyn datblygu cwricwlwm a fydd yn ategu’r hyn y maen nhw’n ei gynnig.
“Ar ran y coleg cyfan, hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru, ein staff a’n llywodraethwyr am rannu ein gweledigaeth i newid hinsawdd addysg ôl-16 yng Nghymoedd De Cymru.â€
Bydd yr adeilad yn ymgorffori’r deunydd adeiladu cynaliadwy diweddaraf a bydd yn darparu adnodd uchelgeisiol, ar gyfer dysgwyr a staff fel ei gilydd.