Coleg y Cymoedd yn ennill gwobr am gefnogi gofalwyr ifanc

Mae Coleg y Cymoedd, sydd â lleoliadau yn Ystrad Mynach, Aberdâr, y Rhondda a Nantgarw, wedi ennill gwobr Aur ‘Colegau Gofalwyr Ifanc’ gan Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Rhondda Cynon Taf. Mae’r gwobrau’n dathlu colegau addysg bellach sy’n cymryd camau gweithredol i gefnogi dysgwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Mae’r wobr aur – y wobr uchaf posibl y gall darparwr addysg ei hennill yn y rhanbarth – yn cydnabod y camau y mae Coleg y Cymoedd wedi’u cymryd i sicrhau bod ei ofalwyr ifanc a’i ofalwyr sy’n oedolion ifanc (pobl ifanc 18-24 oed) yn cael cefnogaeth lawn er mwyn cyflawni eu potensial.

Daw’r newyddion flwyddyn yn unig ar ôl i’r coleg ennill y wobr arian ac mae’n dilyn cyfres o wobrau eraill, gan gynnwys gwobr Safon Ansawdd mewn Cymorth Gofalwyr Ffederasiwn y Gofalwyr. Mae hyn yn dangos ei ymrwymiad parhaus i gryfhau’r adnoddau sydd ar gael i ofalwyr ifanc sy’n astudio ar ei gampysau.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, ar hyn o bryd mae dros 2,500 o ofalwyr ifanc yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r bobl ifanc hyn yn helpu i ofalu am berthynas, ffrind neu gymydog na fyddent fel arall yn gallu ymdopi ar eu pen eu hunain oherwydd salwch, oedran neu anabledd.

O ganlyniad i orfod jyglo rôl ofalu gyda gwaith ysgol neu goleg, mae’r gofalwyr hyn bum gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau i addysg na dysgwyr eraill wrth iddynt gael trafferth ymdopi â’r pwysau ychwanegol o astudio ar ben eu cyfrifoldebau gofal.

Cynulliwyd y gwobrau gan Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Cyngor Rhondda Cynon Taf. Maent wedi’u datblygu i fynd i’r afael â’r broblem hon a helpu dysgwyr i barhau â’u haddysg a’u hyfforddiant drwy sicrhau bod staff academaidd yn ymwybodol o sut i adnabod gofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc; deall yr anawsterau sy’n eu hwynebu a gweithredu polisïau a systemau cymorth a fydd yn eu cynorthwyo.

Mae’r wobr yn cynnwys tair lefel; Efydd, Arian ac Aur, gyda phob lefel yn cynnwys set o safonau sy’n cynyddu’n raddol y gefnogaeth a’r arweiniad a gynigir i ofalwyr ifanc yn eu haddysg.

Dywedodd y Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant: “Rydw i’n falch iawn o weld Coleg y Cymoedd yn ennill y Wobr Aur i gydnabod y gefnogaeth y mae’n ei chynnig i’n Gofalwyr Ifanc. Mae’r ymroddiad a’r ymrwymiad a ddangosir gan Ofalwyr Ifanc wrth ddarparu gofal hanfodol i’w hanwyliaid yn wirioneddol ryfeddol ac yn gyfrifoldeb enfawr.

“Fodd bynnag, gall hyn gael effaith arnynt yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol, ac mae’n gwbl hanfodol bod sefydliadau nid yn unig yn gweithio i adnabod Gofalwyr Ifanc, ond hefyd yn gweithredu systemau i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i barhau â’u hastudiaethau a darparu cyfleoedd i gael seibiant.

“Hoffwn ddiolch a llongyfarch pawb sy’n ymwneud â Choleg y Cymoedd am eu gwaith gwych yn parhau â’u hymdrechion i ennill y Wobr Aur, ac rydw i’n siŵr y byddant yn parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau Gofalwyr Ifanc sy’n mynychu’r coleg. ”

Mae ffigurau diweddaraf 2020-21 yn dangos bod tua un rhan o bump o’r holl ofalwyr ifanc a gyfeiriwyd at Wasanaeth Gofalwyr Ifanc RhCT yn dod o ysgolion a cholegau, gan dynnu sylw at nifer y bobl ifanc sy’n ceisio cydbwyso astudiaethau a dyletswyddau gofal. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae’r gwasanaeth wedi derbyn 86 o atgyfeiriadau.

Mae Coleg y Cymoedd wedi gweithredu nifer o fesurau dros y tair blynedd diwethaf i helpu pobl ifanc sydd â rolau gofalu yn y coleg. Yn ogystal â chynnig oriau dysgu hyblyg, prydau bwyd am ddim a chefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr drwy gydol eu taith coleg, mae dysgwyr, sydd yn aml yn brif ofalwr i unigolion sy’n dioddef o salwch difrifol, hefyd yn cael mynediad at gwnsela ac fel arfer yn cael eu tywys ar drip preswyl blynyddol er mwyn rhoi seibiant iddynt o’u cyfrifoldebau gartref.

Yn dilyn y cyfyngiadau sy’n deillio o’r pandemig Covid-19, mae’r coleg wedi addasu i weithredu nifer o fesurau ychwanegol i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cefnogi tra’r ydynt gartref. Tra byddai gofalwyr ifanc fel arfer yn derbyn brecwast a chinio am ddim ar y campws, mae Coleg y Cymoedd yn darparu cymorth ariannol iddynt i gyflenwi’r prydau hyn.

Mae’r coleg wedi sefydlu grŵp cymorth digidol ac wedi ymuno â llwyfan cymorth iechyd meddwl, Platfform, i helpu dysgwyr gyda’u lles. Hefyd, mae’r coleg wedi trefnu cyfarfodydd rhithwir rheolaidd, wedi darparu gliniaduron a donglau WIFI i ddysgwyr i sicrhau bod ganddynt fynediad at y rhyngrwyd gartref, ac mae wrthi’n anfon pecynnau gofal i godi ysbryd.

Dywedodd Karen Phillips, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae gan ofalwyr ifanc lawer iawn o gyfrifoldeb ar eu hysgwyddau gartref, felly mae hi bob amser wedi bod yn genhadaeth i wneud popeth yn ein gallu i helpu i wneud eu profiad addysg mor llyfn â phosib.

“Oherwydd y cyfnod clo, bydd llawer o ofalwyr ifanc wedi colli’r gefnogaeth a’r seibiant y byddent yn eu cael fel arfer. Hefyd, bydd rhai pobl ifanc nad oeddent efallai’n ofalwyr o’r blaen, wedi cael eu hunain mewn rôl ofalu yn cefnogi aelodau o’r teulu sydd wedi mynd yn sâl, neu’n helpu rhieni gyda gofal plant wrth i ysgolion gau.

“Rydym ni wedi gweithio’n galed i sicrhau bod gennym ni fesurau cymorth ychwanegol ar waith yn ystod yr amser hwn ar gyfer y dysgwyr hyn a bod gan ein staff yr offer i adnabod yr arwyddion y gallai dysgwr fod yn ofalwr ifanc, fel y gallant eu cyfeirio at gymorth priodol. Rydym yn hynod falch ein bod yn ennill y wobr aur – mae’n benllanw blynyddoedd o waith caled ac ymrwymiad i gynyddu ymwybyddiaeth am ofalwyr ifanc yn barhaus a’u cefnogi drwy gydol eu hamser gyda ni.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau