Coleg y Cymoedd yn gweithredu ar fater cynhwysiant oedran i greu gweithle’n cynnwys mwy o genedlaethau

Mae Coleg y Cymoedd wedi ymuno â thros 30 o sefydliadau yng Nghymru sy’n gweithio gydag Oedran Gweithio /Age at Work, partneriaeth gyda Busnes yn y Gymuned Cymru (BITC). Mae’r bartneriaeth yn cynorthwyo cyflogwyr i sefydlu arferion sy’n creu gweithleoedd lle mae ynddyn nhw ehangach ystod o genedlaethau o ran oedran, gan ragweithio i gynorthwyo pobl dros 50 oed i barhau mewn gwaith neu i ddychwelyd i’r gwaith.

Mae gweithlu Cymru yn heneiddio, gydag un o bob tri dros 50 oed, felly mae recriwtio, cadw ac ail-hyfforddi pobl dros 50 yn hanfodol ar gyfer busnes a’r economi ehangach. Mae Coleg y Cymoedd yn gweithio gyda Busnes yn y Gymuned ac Age Cymru i weithredu camau nawr sy’n atal cyflogai rhag gadael y gweithle yn rhy ifanc, i’w cynorthwyo i weithio yn hynach yn eu bywydau ac i werthfawrogi gweithwyr hŷn fel rhan o weithle amrywiol, cynhwysol a deinamig.

Drwy Oedran Gweithio/ Age at Work, gall gyflogwyr gyrchu ystod o becynnau adnoddau, rhwydweithiau a chymorth i fod yn sail i’r camau y byddan nhw’n eu gweithredu i greu gweithle gwell i gyflogai mwy profiadol ac a fyddai o fudd i gyflogai o bob oed.

Dywedodd Jill Salter, Rheolwr Rhaglen Oedran Gweithio/Age at Work, BITC, “Rydyn ni i gyd yn byw yn hwy sy’n golygu y bydd y mwyafrif ohonon ni’n gweithio yn hirach hefyd, a chyda poblogaeth sy’n heneiddio ar draws Cymru a’r DU, mae angen i gyflogwyr ein paratoi ar gyfer hyn a manteisio i’r eithaf o brofiad ac arbenigedd y cyflogai hŷn.

Mae “Oedran Gweithio/Age at Work” yn helpu busnesau i ddeall y manteision busnes a chymdeithasol o ran recriwtio, ail-hyfforddi a chadw unigolion dros 50 oed.

Mae gweithwyr hŷn yn fedrus ac yn cynnig profiad a gwahanol bersbectif i’r gweithle. Mae busnesau fel Coleg y Cymoedd wedi sylweddol ei bod yn hanfodol i barhau i fuddsoddi yn natblygiad staff dros 50 oed, a sicrhau na fydd arferion recriwtio yn gwahaniaethu nac ymddieithrio’r garfan hon, gan gynnig cyfleoedd hyfforddi, ac mewn rhai amgylchiadau yn gwneud addasiadau rhesymol i gynorthwyo staff hŷn sydd â chyfrifoldebau gofalu a phroblemau iechyd, fel y gallan nhw gadw cydweithwyr gwybodus a gwerthfawr.”

Ychwanegodd Jonathan Morgan, Dirprwy Bennaeth yng Ngholeg y Cymoedd. “Rydyn ni wrth ein bodd i weithio gydag Oedran Gweithio / Age at Work , Busnes yn y Gymuned Cymru, i sicrhau bod ein cyflogai dros 50 yn cael help i fyw eu bywyd i’r eithaf posibl yn eu bywyd personol a’u bywyd gwaith. Mae Coleg y Cymoedd yn cydnabod y manteision o gael aelodau hŷn o fewn ein tîm. Yn aml, mae eu profiad, eu gwybodaeth, eu diwydrwydd a’u hymroddiad yn anodd eu curo. Mae creu amgylchedd lle mae unigolion yn hapus yn eu gwaith ac yn teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo i roi o’u gorau, o’r pwys mwyaf i ni.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau