Coleg y Cymoedd yn gwneud i ymwelwyr rhyngwladol deimlo’n gartrefol

Dywedwyd wrth Derrick Goodwin o Gwm Rhymni sydd â nam ar ei olwg na fyddai’n para mwy na mis mewn unrhyw swydd. Nawr mae’r gŵr 60 oed o Gefn Fforest yn y Coed Duon yn helpu eraill i sylweddoli y gallan nhw oresgyn unrhyw sialens.

Ganwyd Derrick gyda chataractau a nystagmus cyn-enedigol, symudiadau’r llygaid na ellir eu rheoli sy’n achosi golwg aneglur a cholli golwg. Erbyn iddo gyrraedd dwy flwydd oed roedd wedi cael pum triniaeth ar ei lygaid, ac yn saith oed wedi cael ei anfon i ysgol breswyl ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle cafodd drafferth i ddysgu oherwydd ei olwg anwadal.

Dywedodd ei swyddog cyflogaeth yn y coleg arbenigol a fynychodd Derrick yn Lloegr wrtho, “Wnei di ddim para mwy na mis mewn swydd,” ond profodd Derrick i’r gwrthwyneb, gan iddo weithio llawn amser am y 25 mlynedd nesaf mewn ffatrioedd. Ar ôl cael ei orfodi i roi’r gorau i’w waith, gan ei fod wedi’i gofrestru’n ddall, aeth Derrick ati i ddysgu sgil newydd.

Nawr, mae Derrick yn ysbrydoli eraill i newid eu bywyd drwy ddysgu sgil newydd, fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru ‘Blwyddyn Newydd, Chi Newydd (New Year, New You)’, ymgyrch a ariannwyd yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd a’i chynnal mewn partneriaeth gyda NIACE Dysgu Cymru (cangen Cymru o’r Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion).

Mae ‘New Year, New You’ yn cael ei lansio ar adeg pan fydd pobl fel arfer yn ceisio gwella rhai agweddau o’u bywydau, megis newid gyrfa neu astudio cwrs newydd. Lluniwyd yr ymgyrch i wneud pobl Cymru’n fwy ymwybodol o bwysigrwydd meddu ar sgiliau da, eu hannog i feddwl o ddifrif am yr hyfforddiant sydd angen arnyn nhw i wella eu rhagolygon am yrfa a dangos nad oes rhaid i ddysg fod yn ddrud.

Mae Derrick yn byw gyda’i wraig sydd hefyd â nam ar ei llygaid a’u dau gi tywys, Alisha’r Labrador du a Shane, y Labrador Aur. Dywedodd Derrick: “Dywedodd meddyg y ffatri wrtha i 17 mlynedd yn ôl na ddylwn i weithio mwyach. Rhoddodd ffrind gyfrifiadur i mi a dysgais fy hun i ddefnyddio prosesydd geiriau ac, yn y pen draw, adeiladu cyfrifiaduron.”

Ymrestrodd Derrick ar ddosbarth TGCh yn y gymuned (technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) mewn canolfan gymunedol gan ddefnyddio darllenydd sgrîn Jaws sy’n cyfieithu’r hyn sydd ar y sgrîn yn fersiwn lafar.

Ar ôl ennill cymwysterau RhCA mewn Prosesu Geiriau, Mynediad i’r Rhyngrwyd, Ysgrifennu Llythyron, Taenlenni a Sgiliau Allweddol, cofrestrodd ar gwrs prif ffrwd ar Gampws Coleg y Cymoedd yn Ystrad Mynach, a chafodd ei dderbyn ar gwrs llawn amser Cefnogi Systemau TGCh.

Mae nawr yn astudio yng Ngholeg y Cymoedd dair gwaith yr wythnos a’i obaith ydy defnyddio’i sgiliau newydd drwy wirfoddoli i weithio gyda’r RNIB, yr elusen sy’n cynorthwyo pobl ddall a rhannol ddall.

“Oherwydd fy niffyg golwg, byddai cael swydd yn anodd, ond dw i wrth fy modd bod yn brysur ac yn caru sialens. Fy niddordeb angerddol i ydy cynnal ac atgyweirio cyfrifiaduron a dwi’n awyddus i’w ddefnyddio i gynorthwyo pobl eraill sydd ddim yn gallu fforddio’r prisiau maen nhw’n godi yn y siopau.

“Dw i am ddweud wrth bobl bod yna ddulliau i oresgyn sialensiau. Y cam cyntaf ydy cychwyn ar gwrs ac mae cymaint o help ar gael.”

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Nod ymgyrch ‘The New Year, New You’ ydy dathlu cyflawniadau unigolion llawn menter yng Nghymru sy’n ymgymryd â dysgu sgil newydd, boed yn ddiweddarach yn eu bywydau ar ôl rhyw drafferthion neu oherwydd eu bod am gael newid. Os byddwch yn dysgu am hwyl, am gwrdd â phobl newydd neu’n ystyried gyrfa newydd, gall dysgu sgil newydd newid cyfeiriad eich bywyd yn llwyr.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau