Coleg y Cymoedd yn helpu cefnogi busnesau lleol yn ystod yr argyfwng

Mae’n gyfnod anodd i lawer o fusnesau ar hyn o bryd ac mae Coleg y Cymoedd wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i helpu eu cefnogi yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Er mwyn helpu gwneud synnwyr o’r gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau a’u cynorthwyo i symud i weithio gartref, cynhaliodd Coleg y Cymoedd weminar ar y cyd â phartneriaid y coleg, JL Training and Consultancy a KS Accountants.

Ymunodd 19 o gynrychiolwyr o ystod o fusnesau lleol â’r alwad a oedd yn archwilio strategaethau gweithio o bell a sut i gael gafael ar gymorth ariannol. Mae JL Training and Consultancy yn arbenigo mewn cyrsiau wedi’u teilwra sy’n trafod datblygiad proffesiynol, arweinyddiaeth ac AD, a rhannodd y cwmni ei arbenigedd ar sut i addasu i weithio gartref a rheoli staff o bell, gan bwysleisio pwysigrwydd hyblygrwydd. Rhannodd yr arbenigwyr hyfforddi awgrymiadau ar sut i gynnal lles wrth weithio gartref a chreu gweithdy rhithwir pwrpasol y gall busnesau ei gyrchu yma.

Esboniodd arbenigwyr o KS Accountants fanylion a meini prawf y cynllun ffyrlo, gan ateb cwestiynau ynghylch trethi a chynghori busnesau ar sut i gael gafael ar y cyllid a llywio’r broses ymgeisio.

Yn ystod yr alwad, tynnodd Coleg y Cymoedd sylw hefyd at y cyfleoedd hyfforddi yn y coleg sydd ar gael i staff sydd ar ffyrlo ar hyn o bryd ac sydd am uwchsgilio tra nad ydynt yn gweithio. Mae gan y coleg nifer o gyrsiau y gall gweithwyr eu hastudio gartref fel cyrsiau byr rheolaeth, adeiladwaith, iechyd a diogelwch, trosglwyddo i waith chwarae ac Adnoddau Dynol.

Dywedodd Matthew Tucker, Pennaeth Cynorthwyol (Gwasanaethau Busnes a Rhyngwladol) yng Ngholeg y Cymoedd a Chadeirydd Clwb Busnes Caerffili:
“Gyda chymaint o ansicrwydd ar hyn o bryd i fusnesau ledled y wlad, roeddem am roi rhywbeth yn ôl a’u helpu, boed hynny’n egluro’r sefyllfa i’r rheini sydd am roi eu staff ar ffyrlo, neu helpu’r rhai sy’n parhau i weithio drwy’r argyfwng i wneud hynny’n ddiogel o gartref. Diolch i’n partneriaid yn JL Training and Consultancy a KS Accountants, am ein galluogi i gynnal y weminar hwn.

“Hefyd, rydym ni am gefnogi busnesau i ddychwelyd i’r gwaith ac ailadeiladu ar ôl Covid-19. Mae gwasanaethau e-ddysgu Coleg y Cymoedd a phrentisiaethau a rhaglenni CGE yn rhoi’r cyfle i uwchsgilio staff presennol ac yn y dyfodol, gan eu galluogi i arallgyfeirio eu sgiliau ac addasu i’r normal newydd. Mae ein tîm ymgysylltu â chyflogwyr a’n haseswyr wrth law i gefnogi unrhyw fusnes sydd am edrych ar yr opsiynau hyn “.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau