Yn ddiweddar bu grŵp o staff Coleg y Cymoedd yn helpu i achub elfen allweddol o un o rasys rhedeg ffordd enwocaf y DU, Ras Nos Galan.
Cysylltodd pwyllgor Ras Ffordd Nos Galan â Choleg y Cymoedd yn gofyn am gymorth i drwsio’r ffagl a ddefnyddir yn y digwyddiad ar ôl iddi gael difrod dŵr sylweddol yn ystod llifogydd 2019 (cyn COVID-19).
Bu staff arloesol yr ysgolion Peirianneg, Adeiladwaith a Diwydiannau Creadigol yng Ngholeg y Cymoedd yn gweithio’n helaeth dros nifer o fisoedd i adfer y ffagl ac i sicrhau ei bod yn addas i’w defnyddio.
Dywedodd David Howells, Pennaeth yr Ysgol Peirianneg “Mae’r tîm wedi gwneud gwaith gwych yn adfer y ffagl. Roedd hi mewn cyflwr gwael, ddim yn gweithio ac wedi’i chwalu’n sawl darn. Ar ôl peth cynllunio, mae’r tîm wedi datblygu ffagl newydd sbon sy’n cynnwys darnau a grëwyd gan ddefnyddio argraffydd 3D, allwedd tanio, logo RhCT a blwch storio pren i’w ddefnyddio am flynyddoedd lawer i ddod.”
Dywedodd Ann Crimmings Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan “Diolch yn fawr iawn i Goleg y Cymoedd am eu cymorth ac achub un o brif elfennau’r digwyddiad”
Nos Galan, yw un o rasys ffordd enwocaf y DU, sy’n denu bron i 1000 o ymgeiswyr bob blwyddyn o bob rhan o’r DU. Sefydlwyd ym 1958, ac yn ei anterth roedd yn denu darllediadau byw gan y BBC fel rhan o’u dathliadau nos galan.
Bob blwyddyn, mae rhedwr dirgel yn rhedeg y llwybr 5k ar hyd strydoedd Aberpennar gyda ffagl (sydd bellach wedi’i hadfer).