Coleg y Cymoedd yn lansio label i genfogi’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol

Mae coleg yng nghymoedd De Cymru wedi creu ei label recordio ei hun er mwyn rhoi llwyfan i gerddorion uchelgeisiol gael rhannu eu cerddoriaeth â’r byd.

Mae Coleg y Cymoedd wedi lansio ‘Cymoedd Creative Records’ i roi’r cyfle i ddysgwyr sy’n astudio ar ei gyrsiau cerddoriaeth greadigol ryddhau eu cerddoriaeth eu hunain i’r cyhoedd.

Bydd caneuon y dysgwyr sydd wedi’u harwyddo i’r label yn cael eu hychwanegu at lwyfannau ffrydio cerddoriaeth blaenllaw, gan gynnwys Spotify ac Amazon Music – diolch i’r hawliau trwyddedu a dosbarthu a drefnir gan y coleg – yn ogystal â’u rhannu ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Syniad tiwtoriaid cerdd Coleg y Cymoedd, Scott Jones a Scott Howells, oedd y label recordio, a oedd am roi’r cyfle i ddysgwyr arddangos eu doniau i gynulleidfa ehangach a chael profiad proffesiynol o gyfansoddi, recordio a rhyddhau cerddoriaeth.

Dywedodd Scott Jones: “Fel rhan o’n cyrsiau cerdd, mae’n rhaid i ddysgwyr ysgrifennu a chynhyrchu eu cerddoriaeth wreiddiol eu hunain, sy’n cael ei recordio yn ein cyfleusterau recordio yn y coleg. Dros y blynyddoedd rydym wedi clywed cymaint o ganeuon gwreiddiol gwych sydd, yn amlach na pheidio, ond yn cael eu cadw ar yriant caled pan maent yn haeddu cael eu clywed gan ragor o bobl.“

Roeddem am newid hyn a helpu dysgwyr i gael rhannu eu creadigaethau a sicrhau eu bod yn cael eu  clywed gan ragor o bobl. Gall cael cerddoriaeth ar wasanaeth ffrydio fod yn broses ddryslyd ac anodd felly rydym yn gofalu am hyn drwy’r label, gan alluogi dysgwyr i gael eu troed gyntaf ar yr ysgol i yrfa gerddoriaeth broffesiynol.

“Rydym ni mor gyffrous ein bod yn lansio ein label ein hunain – bydd gwneud hynny’n helpu sicrhau ein bod yn rhoi llwyfan i’n dysgwyr talentog gael arddangos eu cerddoriaeth a thyfu eu cynulleidfaoedd.”

Dros y blynyddoedd, mae cyn-fyfyrwyr Coleg y Cymoedd wedi mwynhau llwyddiant mawr yn y diwydiant cerddoriaeth gyda chyn-ddysgwyr yn mynd ymlaen i ennill cystadlaethau cyfansoddi cenedlaethol, clywed eu caneuon ar y radio a chael sylw ar raglen Gorwelion y BBC – menter a gynlluniwyd i ddatblygu cerddoriaeth newydd, annibynnol a chyfoes yng Nghymru.

Mae’r coleg yn bwriadu rhyddhau tua 10 cân y flwyddyn. Hyd yma, mae dwy gân wedi’u rhyddhau gan y band roc Deadlines a’r artist unigol, Lauren Evans. Mae’r ferch 19 oed, o Donypandy, newydd ryddhau ei sengl gyntaf Last Goodbye.

Wrth siarad am y label recordio, dywedodd y seren uchelgeisiol sydd wrthi’n astudio Cerddoriaeth Lefel 3 yng Ngholeg y Cymoedd: “Rwy’n gobeithio dilyn gyrfa fel canwr-gyfansoddwr ac rwy’n credu y bydd y label yn help mawr i mi a cherddorion eraill i gael troed yn y drws, gan roi llwyfan da i rannu fy ngherddoriaeth.“

Cyfansoddais Last Goodbye mewn diwrnod gan dynnu ar fy mhrofiad personol. Mae’n ymwneud â bod yn ddigon dewr i dorri perthynas wenwynig ac mae’r geiriau’n bersonol ac yn bwerus. Fe wnaeth fy nhiwtoriaid cerdd fy helpu i’w recordio’n broffesiynol gan ddefnyddio cyfleusterau stiwdio’r coleg. Maen nhw i gyd wedi fy nghefnogi ers diwrnod un – roeddent yn credu ynof pan nad oeddwn yn credu ynof fy hun a chyda gwaith caled a phenderfyniad, dyma fi gyda fy sengl gyntaf erioed ar Spotify ac Apple Music.

“Mae bod ar lwyfannau ffrydio wedi dod â chymaint rhagor o sylw i mi. Mae’r gân Last Goodbye hyd yn oed wedi cael ei rhestru, sy’n gyffrous iawn gan y bydd yn awr yn cyrraedd rhagor o bobl!“

Rwy’n credu ei bod yn beth da i gerddorion newydd hefyd oherwydd unwaith y bydd eich cerddoriaeth allan yna, fe’ch ysbrydolir i greu rhagor. Ar hyn o bryd rydw i yn y broses o ysgrifennu a recordio EP a fydd yn cynnwys cerddoriaeth o wahanol arddulliau a gobeithio y bydd yn cael ei ryddhau tua diwedd y flwyddyn. “

Mae’r coleg wedi sefydlu tîm o ddysgwyr sy’n gyfrifol am reoli rhyddau’r gerddoriaeth a negeseuon cyfryngau cymdeithasol. Mae’r tîm yn cwrdd bob pythefnos – bellach yn rhithiol – i benderfynu pa ganeuon sy’n cael eu rhyddhau nesaf yn ogystal â thrafod strategaethau hyrwyddo a marchnata.

Yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud mae’r label hefyd wedi rhoi cyfle i ddysgwyr hoelio eu sylw, gan eu cymell i barhau i ysgrifennu a chreu eu cerddoriaeth eu hunain gartref. Mae tiwtoriaid yn y coleg yn dal i annog dysgwyr i anfon ffeiliau cerddoriaeth amrwd atynt er mwyn iddynt allu eu cymysgu a’u troi’n ganeuon caboledig, gorffenedig ar eu rhan.

Ychwanegodd Scott: “Rydym yn dal i gymysgu cerddoriaeth dysgwyr a’u rhoi ar y label sy’n helpu i ennyn diddordeb dysgwyr a’u gwthio i fod yn greadigol a chynhyrchiol yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud.”

Coleg y Cymoedd oedd y coleg cyntaf Cymru i ddarparu cymwysterau cerddoriaeth Ysgol Roc – cymwysterau sy’n enwog yn y diwydiant ac sydd wedi cynhyrchu rhai o enwau mwyaf y siartiau gan gynnwys Ed Sheeran, Rita Ora a Jess Glynne.

Nod y cwrs Diploma Ysgol Roc i Ymarferwyr Cerdd yng Ngholeg y Cymoedd yw rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o bopeth sydd angen iddynt ei wybod am y diwydiant cerddoriaeth ynghyd â phrofiad ymarferol a fydd yn rhoi iddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer gyrfa mewn cerddoriaeth.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau