Coleg y Cymoedd yn lansio rhaglen interniaeth i roi hwb cyflogadwyedd i ddysgwyr

Mae Coleg y Cymoedd wedi lansio rhaglen interniaeth â chymorth newydd a gynlluniwyd i helpu dysgwyr blwyddyn olaf i gael profiad amhrisiadwy o’r gweithle, gan wella eu siawns o sicrhau cyflogaeth ar ôl gadael y coleg.

Nod y cynllun ‘Ymgysylltu i Newid – Porth i Gyflogaeth’, rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw helpu dysgwyr sy’n astudio cymwysterau mynediad galwedigaethol i symud o addysg i’r amgylchedd gwaith.

Mae’r cynllun, sydd ar hyn o bryd yn ei flwyddyn gyntaf, yn cynnwys deuddeg o ddysgwyr yn eu blwyddyn olaf cwrs llwybr Cam 2 neu 3 yn dysgu am yr hyn a ddisgwylir ganddynt yn y gweithle wrth ennill profiad ymarferol gyda busnes lleol.

Bydd dysgwyr ar y rhaglen yn mynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos – ochr yn ochr â’u hastudiaethau rheolaidd – i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y gweithle.

Hefyd, bydd gofyn iddynt fynychu lleoliad gwaith, y byddant yn ei sicrhau yn dilyn cyfweliad â darpar reolwr llinell mewn cwmni o’u dewis. Y nod yw rhoi profiad i’r dysgwyr o’r broses gyfweld a’r gweithle yn y byd go iawn.

Bydd Hyfforddwyr Swyddi arbenigol yng Ngholeg y Cymoedd ac Elite Supported Employment yn cynnig cefnogaeth i interniaid a’u rheolwyr newydd drwy gydol y lleoliadau gwaith, gan alluogi dysgwyr i gael profiad wedi’i bersonoli.

Cynigir mwyafrif yr interniaethau gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yn ogystal â nifer o fusnesau bach yn yr ardal leol sy’n cynnwys amrywiaeth o rolau gan gynnwys arlwyo, gweinyddu a gofal plant.

Bydd y rhaglen para am flwyddyn academaidd a bydd ar gael i ddysgwyr Coleg y Cymoedd ym mlwyddyn olaf eu haddysg sydd â diddordeb mewn ennill profiad gwaith. Unwaith y bydd dysgwyr yn cwblhau’r cynllun, byddant yn trosglwyddo i gyflogaeth a gefnogir â chymorth Elite.

Dewisir dysgwyr i fod yn rhan o’r cynllun wedi iddynt ymgeisio drwy’r llwybr dilyniant neu gael eu hargymell gan eu tiwtor cwrs cyfredol. Bydd angen i ymgeiswyr sydd â diddordeb ymuno â noson wybodaeth a llenwi ffurflen mynegi diddordeb, cyn mynychu cyfweliad anffurfiol gyda thiwtor y cwrs, Elite a chynrychiolydd o’r lleoliad.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot, bydd y rhaglen yn dychwelyd i’r coleg ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21. O ganlyniad i fesurau diogelwch Covid-19, bydd lleoliadau yn y tymor cyntaf yn cynnwys lleoliadau mewnol yn unig tan fis Ionawr, wedyn bydd interniaethau allanol yn bosibl. Gall unrhyw ddysgwyr sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cynllun ddod o hyd i ragor o wybodaeth drwy: sally.begley@cymoedd.ac.uk

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau