Coleg y Cymoedd yn lansio tîm gemau cyfrifiadur

Mae Coleg y Cymoedd wedi sefydlu tîm gemau cyfrifiadur newydd i roi’r cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau a chystadlu yn erbyn ysgolion a cholegau eraill o bob rhan o’r wlad mewn cystadlaethau cenedlaethol.

Yn dilyn poblogrwydd cynyddol gemau cyfrifiadur yn ystod cyfnodau clo’r pandemig, ac oherwydd y diddordeb cynyddol mewn cymwysterau sy’n gysylltiedig â gemau cyfrifiadur yn y coleg, lansiwyd tîm gemau cyfrifiadur pwrpasol, o’r enw ‘Y Croesgadwyr’.

Lleolir y tîm yn adran gemau cyfrifiadur newydd y coleg yn Aberdâr a bydd yn cynnwys dysgwyr sy’n astudio ar y campws ar hyn o bryd.

Byddant yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarfer rheolaidd a digwyddiadau ffrydio byw, yn y coleg ac o gartref. Y bwriad yw cymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau a chynghreiriau cenedlaethol unwaith y bydd y tîm wedi tyfu, gan gynnwys Pencampwriaethau E-chwaraeon Prydain sef cyfres o heriau cystadleuol yn ymwneud â gemau cyfrifiadurol gyda dros 60 o golegau o bob rhan o’r DU yn cymryd rhan.

Bydd y cyfle hwn o fudd i ddysgwyr sy’n angerddol am gemau cyfrifiadur, gan eu helpu i wella eu sgiliau a mynd â’u diddordebau i’r lefel nesaf.

Mae’r tîm ar hyn o bryd yn agored i bob dysgwr ar gampws Aberdâr, a’r bwriad yw ei gynnig i ddysgwyr ar gampysau eraill yn y dyfodol er mwyn caniatáu i unrhyw ddysgwyr sydd â diddordeb mewn gemau cyfrifiadur gymryd rhan.

Helpodd Steve Hunt, darlithydd TG a Gemau Cyfrifiadur yng Ngholeg y Cymoedd, i ddatblygu’r tîm, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys pum dysgwr sy’n chwarae gemau ar-lein gyda’i gilydd fel Valorant, FIFA a Fortnite. Wrth edrych at y dyfodol, mae Steve yn bwriadu ehangu nifer y gemau a chwaraeir gan y tîm fel y byddant yn chwarae ystod eang o wahanol fathau yn y dyfodol, ar-lein ac all-lein.

Dywedodd Steve: “Penderfynais greu tîm Y Croesgadwyr yng Ngholeg y Cymoedd gan fy mod yn meddwl y gallai fod yn rhywbeth y gallai’r holl gampysau gymryd rhan ynddo, gan roi gweithgaredd allgyrsiol iddynt gael ei fwynhau ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Gyda llawer o dwrnameintiau gemau cyfrifiadur ar gael, mae yna lawer o gyfleoedd cyffrous i’r dysgwyr sydd ar y tîm. Mae lle i ehangu o hyd a hyd yn hyn, mae’r dysgwyr wrth eu bodd!

“Fy ngobaith yw sefydlu ganolfan ragoriaeth ar gyfer e-chwaraeon a chreu cynnwys, lle bydd dysgwyr o bob campws yn cymryd rhan. Bydd yn lle i ddysgwyr sydd â diddordeb mewn e-chwaraeon gael eu cefnogi, drwy ddefnyddio ein hystafell gemau cyfrifiadur fel cyfleuster hyfforddi a thrwy ffrydio byw a darlledu digwyddiadau.”

Bydd tîm Y Croesgadwyr yn cynnig profiad dysgu ychwanegol i ddysgwyr ar gyrsiau Lefel 3 Datblygu Gemau Cyfrifiadur a TG yn Ystrad Mynach ac Aberdâr, sydd wedi gweld cynnydd yn nifer y dysgwyr. Mae’r cwrs yn dysgu dysgwyr sut i feddwl am gemau cyfrifiadur a’u datblygu yn ogystal â sut i gyflwyno a chynnig syniadau. Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau y gellir eu cymhwyso i swyddi byd go iawn fel chwarae gemau cyfrifiadur yn broffesiynol, datblygu gemau cyfrifiadur, marchnata, cynhyrchu teledu, nawdd a TG.

Bydd dysgwyr ar y tîm yn gwisgo crysau sy’n dangos enwau’r noddwyr sy’n enwog yn y diwydiant fel HyperX, Razorwire Energy, Buzz Sweets ac elusen Gamers Beat Cancer.

Os hoffech chi fod yn rhan o’r tîm gemau cyfrifiadur, cysylltwch â Stephen.Hunt@cymoedd.ac.uk

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau