Yn ddiweddar, ymwelodd Coleg y Cymoedd â Fietnam i drosglwyddo arbenigedd Addysgu ac Ansawdd i golegau galwedigaethol yn Hanoi.
Mewn partneriaeth â ‘Phrosiect Sylfaen Fietnam’ Y Cyngor Prydeinig, aeth cynrychiolwyr o Goleg y Cymoedd yno i Arddangos arferion da mewn Addysgu a Sicrhau Ansawdd i golegau yn Fietnam.
Mae Coleg y Cymoedd mewn partneriaeth â thri choleg yn Fietnam – Coleg Mecanwaith a Thrydanwaith Hanoi, Coleg Diwydiannol Hanoi a Choleg Coreaidd Fietnam gyda’r Cyngor Prydeinig ac Adran Gyffredinol Hyfforddiant Galwedigaethol (GDVT) gyda’r nod o gyfoethogi profiadau dysgu yn Fietnam a Chymru fel ei gilydd.
Bwriad yr ymweliad 13 diwrnod yn ystod mis Mawrth oedd rhannu Systemau’r DU ar Reoli Ansawdd a Phroses Hunanwerthuso Colegau, rhannu strategaethau ac adnoddau addysgu gyda ffocws arbennig ar ddatblygu ac integreiddio sgiliau cyflogadwyedd a strategaethau asesu ‘Share UK’.
Yn ystod yr ymweliad, cafodd staff Coleg y Cymoedd y dasg o feincnodi arferion cyfredol Sicrhau Ansawdd ac arferion Addysgu a Dysgu cyfredol a chynnal dadansoddiad o anghenion hyfforddi yn y meysydd hyn. Cyflwynodd y coleg ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ iddyn nhw fel bod colegau Fietnam yn gallu rhoi arferion newydd a hyfforddiant ar waith o fewn y sefydliadau.
Ymgymerodd staff Coleg y DU â chynllunio camau gweithredu er mwyn sicrhau y byddai colegau Fietnam yn ymrwymo i sicrhau gwelliannau a chymryd rhan mewn seminar gwerthuso i benderfynu ar effaith yr hyfforddiant a’u datblygiad. Cafodd pob coleg oedd yn cymryd rhan hefyd gyfle i drafod y potensial ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol a chynaliadwyedd y bartneriaeth.
Dywedodd Elaine Rees, Pennaeth Busnes a Gwasanaethau Rhyngwladol Coleg y Cymoedd: “Mae hwn yn brosiect ardderchog ac mae’n wych i weld camau cyntaf y newid diwylliannol ac ethos yn dilyn yr ymweliad hwn. Yn y tymor hir, bydd y colegau sy’n rhan o’r prosiect yn gwella offer a dulliau addysgu, asesu sgiliau myfyrwyr yn fwy cywir, gwella symbyliad myfyrwyr a staff ac, yn anochel, yn gwella sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr.
Rydyn ni’n hynod falch o fod yn rhan o’r ymweliad hwn sy’n bwydo i mewn i gynlluniau rhyngwladol ehangach ar gyfer Coleg y Cymoedd ac, ynghyd ag ymweliadau diwyliannol cyfnewid blaenorol, mae’n helpu i greu perthynas gadarnach gyda cholegau dramor.â€Â