Coleg y Cymoedd yn sicrhau’r canlyniadau arholiadau gorau erioed ac yn torri’i record gyda derbyniadau i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt

Edrychwch ar ein Tudalen Llwyddiant ar gyfer Wythnos Canlyniadau 2023 yma

Mae wedi bod yn flwyddyn arall o ganlyniadau Safon Uwch a galwedigaethol rhagorol yng Ngholeg y Cymoedd wrth i’r coleg ddathlu tri chynnig trawiadol i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a’i nifer uchaf erioed o gynigion gan brifysgolion Grŵp Russell.

Mae cannoedd o ddysgwyr wedi heidio i gampysau Nantgarw, Ystrad Mynach, y Rhondda ac Aberdâr heddiw i gasglu eu canlyniadau a dathlu eu llwyddiannau gyda chyd-fyfyrwyr a thiwtoriaid. 

Mae’r coleg, sef y darparwr Safon Uwch mwyaf yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf, wedi sicrhau graddau uchel ar draws cyrsiau academaidd a galwedigaethol, gydag 86.2% o ddysgwyr yn ennill graddau A*-C wrth i raddau arholiadau ddychwelyd i’r trefniant cyn y pandemig, a hynny i fyny o 63.5% yn 2019. Mae graddau A*-A y coleg hefyd wedi codi o 11.9% yn 2019 i 36% heddiw.

Mae’r Ganolfan Safon Uwch yn Nantgarw wedi cyhoeddi cyfradd lwyddo gyffredinol o 99.7% ar gyfer 2023 gyda 21 o’r 22 pwnc wedi cyflawni cyfradd lwyddo o 100% gan gynnwys Mathemateg, Ffiseg, Cemeg a Bioleg yn ogystal â Saesneg, Hanes, Daearyddiaeth, y Gyfraith, Ffrangeg a Seicoleg.

Yn dilyn ei lwyddiant U2 dros y blynyddoedd diwethaf, mae ceisiadau i ddysgwyr astudio Safon Uwch yn y flwyddyn academaidd newydd hefyd ar eu huchaf erioed ers i’r campws agor gyntaf ddeng mlynedd yn ôl.

Yn ogystal â’i berfformiad Safon Uwch cryf, mae’r coleg hefyd wedi gweld canlyniadau eithriadol gan ei ddysgwyr galwedigaethol gyda mwy na 1,200 o ddysgwyr yn cwblhau cymwysterau Lefel 3.

Ymhlith y llwyddiannau o’r diwrnod canlyniadau mae’r dysgwr tair A*, Carys Lewis, 18 oed o Bontypridd, sy’n mynd i Goleg Caerwysg Prifysgol Rhydychen yn yr hydref i astudio cemeg ar ôl iddi ennill y graddau uchaf mewn cemeg, mathemateg a ffiseg. Ar ôl gweld eraill yn brwydro yn erbyn canser, cafodd Carys ei hysbrydoli i ddilyn gyrfa ym maes datblygu cyffuriau er mwyn iddi allu chwarae rhan mewn dod o hyd i iachâd a thriniaethau ar gyfer clefydau.

Hefyd yn sicrhau lle ym Mhrifysgol Rhydychen mae Jacob Jones, 18 oed, sef ffisegydd brwd o Bontypridd sy’n mynd i astudio Ffiseg yng Ngholeg yr Iesu ar ôl ennill pedair A* mewn Ffiseg, Mathemateg, Mathemateg Bellach a Chemeg. Yn benderfynol o gynyddu ei siawns o gael lle mewn prifysgol sy’n arwain y byd, treuliodd Jacob yr haf diwethaf yn mynychu dwy ysgol haf breswyl yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL) a Rhydychen.

Meddai: “Er i fi gael graddau da yn fy arholiadau TGAU, doeddwn i ddim yn meddwl y bydden i’n ddigon da i fynd i Rydychen. Dim ond ar ôl i fi gael fy ngraddau Uwch Gyfrannol, ac i fy nhiwtoriaid fy sicrhau fy mod i’n ddigon da, y sylweddolais y gallai fod yn opsiwn. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau yn y brifysgol. Fe wnes i ddewis Coleg yr Iesu gan ei fod yn cael ei adnabod fel y ‘coleg Cymreig.’ Bydd symud i Rydychen yn newid mawr ond gobeithio y bydd bod yno yn rhoi ymdeimlad o gartref i fi.”

Dysgwr A* arall yw Luc Jones, 22 oed o Fynwent y Crynwyr, a enillodd dair A* drawiadol mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach, a Ffiseg, gan sicrhau lle i astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caergrawnt, un o’r cyrsiau israddedig mwyaf cystadleuol sy’n cael ei gynnig gan y sefydliad. Yn wreiddiol, roedd Luc yn astudio BTEC mewn Chwaraeon cyn iddo sylweddoli mai mewn maes arall roedd ei angerdd, gan ei annog i ailsefyll ei arholiadau TGAU a threulio dwy flynedd ychwanegol yn y coleg i newid i astudio Safon Uwch a mynd i un o brifysgolion gorau gwledydd Prydain i astudio cyfrifiadureg.

Meddai Luc: “Dw i mor falch fy mod wedi newid cymwysterau bedair blynedd yn ôl. Er i fi gael blwyddyn gyntaf wych yn y coleg, ac ro’n i wrth fy modd gyda BTEC Chwaraeon, fe sylweddolais i nad dyna’r llwybr cywir i fi. Ro’n i ychydig yn betrusgar am newid cwrs ond roedd fy nhiwtoriaid yn barod i helpu, gan wneud fy nhrosglwyddiad i Safon Uwch fel dysgwr hŷn yn rhwydd iawn – dyna’r penderfyniad gorau wnes i. Mae cael eich derbyn i un o brifysgolion gorau’r byd yn deimlad anhygoel!”

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Coleg y Cymoedd wedi buddsoddi’n sylweddol yn ei gymorth llesiant i ddysgwyr, gan gynnig cwnsela am ddim yn ogystal â chyngor un-i-un pwrpasol i unrhyw un sy’n cael trafferth gyda materion personol, o broblemau tai a chyllid i broblemau teuluol ac ymrwymiadau gofal. Mae gofalwyr ifanc sy’n astudio yn y coleg hefyd yn cael cynnig cymorth ychwanegol, gan gynnwys prydau am ddim, dewisiadau dysgu o bell a hyblyg, cymorth gyda chludiant a diwrnodau gweithgaredd grŵp mewn lleoliadau fel Zip World a theithiau Stiwdio’r BBC.

Un o’r dysgwyr hynny yw Ethan Tucker, gofalwr ifanc 21 oed o Aberdâr, sydd wedi treulio’r pedair blynedd diwethaf yn gweithio tuag at ei yrfa ddelfrydol mewn cynhyrchu gemau tra ei fod yn gofalu am ei dad-cu a’i fam-gu. Gan feddwl i ddechrau na fyddai prifysgol yn opsiwn iddo oherwydd dibyniaeth ei fam-gu a’i dad-cu arno, trefnodd tiwtoriaid Ethan i wasanaeth Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc Rhondda Cynon Taf ei gefnogi gyda’i gyfrifoldebau gofalu, er mwyn helpu i wneud hyn yn bosib. Mae bellach yn edrych ymlaen at ddechrau gradd Celf Gemau ym Mhrifysgol De Cymru fis Medi.

Meddai Ethan: “Mae fy nhiwtoriaid nid yn unig wedi gwneud y trefniadau ymarferol o fynd i’r brifysgol yn bosib, ond fe wnaethon nhw hefyd fy ysbrydoli i wneud cais am radd yn y lle cyntaf. Fe wnaethon nhw danio llawer o hyder ynof fi a fy helpu i sylweddoli fy mod yn gallu mynd i’r brifysgol. Rwy’n gobeithio y bydda’n nhw’n falch ohona i.”

Hefyd yn chwifio’r faner dros ddysgwyr galwedigaethol y coleg mae Bethany Carter, dysgwr coginio proffesiynol 17 oed, sydd eisoes wedi cael cynnig cyfle i weithio yn y gwesty a’r bwyty arobryn, The Grove, yn Arberth ar ôl blwyddyn yn unig yng Ngholeg y Cymoedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw enillodd dair gwobr ym mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru. 

Meddai Bethany: “Mae bod yn y coleg wedi agor cymaint o gyfleoedd i fi, o wobrau i’r lleoliad gwaith a arweiniodd at gael y swydd yma. Dw i wir ddim yn meddwl y bydden i ble rydw i heb gefnogaeth y coleg!”

Meddai Jonathan Morgan, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Wrth i’r flwyddyn gyntaf o arholiadau ac asesiadau Safon Uwch ddychwelyd i normal ar ôl Covid, roedd bob amser rywfaint o ansicrwydd ynghylch sut y byddai’r canlyniadau’n edrych eleni, ond rydym wrth ein bodd o weld mai ein graddau A* – A yw’r uchaf y maent wedi bod erioed, gyda gwelliant o 24% ar ein canlyniadau yn 2019. Fel coleg, eleni hefyd yw ein nifer uchaf o dderbyniadau i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt gyda thri dysgwr o’n dosbarthiadau Mathemateg a Ffiseg yn sicrhau eu lle.  

“Mae’r canlyniadau rhagorol rydyn ni wedi’u gweld heddiw, ar lefel Safon Uwch a galwedigaethol, wedi’u cyflawni diolch i waith caled ac ymrwymiad y dysgwyr, arweiniad arbenigol ac ymroddedig ein tiwtoriaid pwnc a chwrs, yn ogystal â’r cymorth llesiant cynhwysfawr a phersonol rydyn ni’n ei ddarparu ar draws y coleg.

“Rydyn ni’n arbennig o falch o’r systemau bugeiliol rhagorol sydd ganddon ni ar waith yn ein canolfan Safon Uwch i arwain a chefnogi dysgwyr drwy eu hastudiaethau, yn enwedig yng ngoleuni’r heriau niferus maen nhw wedi’u hwynebu ar ôl Covid. Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau i’r holl ddysgwyr ar eu llwyddiannau heddiw – maen nhw mor haeddiannol!”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau