Coleg y Cymoedd yn tyfu ei dalent ei hun

Gyda dibyniaeth gynyddol ar TG ar draws y coleg dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae llwyth gwaith yr adran TG wedi cynyddu’n aruthrol ac mae’r coleg wedi mynd ati i ddefnyddio ei ddysgwyr i gryfhau’r tîm.

Astudiodd dau gyn-ddysgwr, Daniel Grandon a Ben Joseph, yn y coleg ac maent bellach yn cael eu cyflogi gan y coleg fel rhan o’r tîm TG, yn cefnogi staff a dysgwyr ar draws y pedwar campws.

Mynychodd Ben, sy’n 20 oed ac yn dod o Aberdâr, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Ioan Fedyddiwr, ac ar ôl astudio blwyddyn o Safon Uwch sylweddolodd nad dyma’r llwybr oedd yn gweddu i’w ddysgu. Ar ôl siarad â theulu a ffrindiau ymwelodd â’r coleg a chyda dealltwriaeth dda o gyfrifiadura fe gofrestrodd ar gwrs BTEC Lefel 3 Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth.

Roedd y cwrs dwy flynedd hwn yn rhoi ystod o wybodaeth a sgiliau i Ben o’r Cyfryngau Creadigol, Gemau Cyfrifiadur a Chyfrifiadura; a helpodd hefyd gyda’i hyder a’i sgiliau cymdeithasol. Rhoes y cymhwyster opsiynau i Ben ar gyfer ei ddyfodol, boed hynny’n astudio ymhellach mewn prifysgol neu gyflogaeth.

Wrth siarad am ei astudiaethau yng Ngholeg y Cymoedd, dywedodd Ben “Mae gan y coleg lawer o fanteision, yr ystod o gyrsiau i ddewis ohonynt, yr ystafelloedd a’r cyfleusterau arbenigol a thiwtoriaid hynod gefnogol sy’n angerddol am y pynciau y maent yn eu haddysgu. Byddwn yn bendant yn argymell y coleg, ac mae’r cwrs wedi fy helpu i sicrhau cyflogaeth mewn tîm TG prysur yn y coleg. Rwy’n ei fwynhau’n fawr”.

Mynychodd Daniel, sy’n 21 oed ac yn dod o Fargod, Ysgol Gyfun Heol-ddu ac ar ôl cwblhau ei TGAU teimlai’r angen i newid ei fan astudio. Ar ôl clywed sylwadau cadarnhaol am Goleg y Cymoedd gan ffrindiau a theulu penderfynodd gofrestru yn y coleg i weld pa gyfleoedd oedd yno.

Gyda diddordeb brwd mewn cyfrifiadura, datrys problemau, darganfod sut mae pethau’n gweithio ac agweddau cyffredinol TG, cofrestrodd Daniel ar y Diploma Lefel 3 90 Credyd mewn Technoleg Gwybodaeth gyda Bagloriaeth Cymru. Yn dilyn y cwrs dwy flynedd aeth ymlaen i gwblhau’r Radd Sylfaen mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.

Wrth sôn am ei astudiaethau a’i gyflogaeth yn y coleg, dywedodd Daniel,  “Fe wnaeth y cwrs fy helpu i benderfynu beth roeddwn i eisiau ei wneud a pha lwybr TG roeddwn i eisiau ei ddilyn ond doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i eisiau ei wneud ar ôl y coleg, doedd gen i ddim cynlluniau penodol. Doeddwn i ddim eisiau mynd i’r brifysgol gan nad oeddwn yn meddwl y byddai wedi bod yn iawn imi.

Roedd y tiwtoriaid yn hynod barod eu cymwynas, gyda phob darlithydd unigol yn fy ngwthio yn y ffordd yr oedd ei angen arnaf, hyd yn oed drwy ddod o hyd i ddulliau a oedd yn gweithio i mi. Fe ymgymerais â swydd cynorthwyydd haf rhan-amser yn yr adran TG i helpu i adnewyddu cyfrifiaduron yn ystod gwyliau’r haf ac mae pethau wedi mynd ymlaen o’r fan honno.

Byddwn yn argymell astudio yn y Cymoedd 100% i unrhyw un. Fe wnaeth y staff addysgu TG fy helpu i ddarganfod beth roeddwn i ei eisiau o ran agweddau gwahanol swyddi. Mae astudio yn y coleg wedi cael effaith aruthrol arnaf gan fy mod wedi llwyddo i aros ac ymuno â thîm anhygoel yn yr adran TG a dechrau adeiladu fy ngwybodaeth gyda’r bobl brofiadol o’m cwmpas”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau