Coleg y Cymoedd yn ymrwymo i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl

Coleg yng nghymoedd De Cymru ydy’r cyntaf yn y wlad i addunedu i ddadstigmateiddio materion iechyd meddwl mewn amgylchedd dysgu.

Llofnododd Coleg y Cymoedd adduned Amser i Newid Cymru (Time to Change Wales), menter gan dair o elusennau blaengar ym maes iechyd meddwl yng Nghymru, sef Mind Cymru, Hafal a Gofal. Drwy arwyddo’r adduned mae Coleg y Cymoedd yn addo ymrwymo i’w dysgwyr a’r staff yn y pedwar campws ar draws De Cymru y byddan nhw’n delio â stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu.

Fel y coleg AB cyntaf yng Nghymru i arwyddo’r adduned, cyhoeddodd Coleg y Cymoedd nifer o fesurau y bydd yn eu gweithredu i annog dysgwyr a staff i siarad yn agored am broblemau neu bryderon iechyd meddwl. Bydd y rhain yn cynnwys arolygon cyson er mwyn i’r staff ddeall canfyddiad materion iechyd meddwl yn y gweithle yn ogystal â chynnig gwasanaethau cwnsela i’r staff a darparu tîm o swyddogion llesiant i gynorthwyo a chefnogi dysgwyr.

Ar ôl arwyddo’r adduned dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Gyda bron i 20,000 o ddysgwyr ac 850 o staff ar draws pedwar campws, mae iechyd a llesiant pawb yng Ngholeg y Cymoedd yn bwysig iawn i ni.

“Mae llawer o bwysau ar ddysgwyr ar yr adeg hon yn eu bywydau, boed yn ceisio am le mewn prifysgol neu i gwrdd â’u graddau targed. Yn yr un modd, gall nifer o aelodau staff deimlo dan yr un pwysau wrth boeni am eu dysgwyr. Yma yn y coleg rydyn ni wedi ymrwymo i gynorthwyo’n dysgwyr drwy gydol eu haddysg a helpu i liniaru unrhyw strès y maen nhw’n ei deimlo efallai. Drwy arwyddo adduned Amser i Newid Cymru, ein gobaith yw parhau i hyrwyddo iechyd meddwl da drwy’r coleg a helpu i fynd i’r afael â’r stigma sy’n perthyn i iechyd meddwl ac â gwahaniaethu yng Nghymru.”

Mae’r elusennau iechyd meddwl, Gofal, Mind Cymru a Hafal am gydweithio, gan gyfuno’u gwybodaeth eu sgiliau a’u harbenigedd yn yr ymdrech fwyaf erioed yng Nghymru i ddod â’r gwahaniaethu sy’n digwydd ym maes iechyd meddwl i ben. Drwy annog busnesau, cyrff a sefydliadau addysgol o bob maint i arwyddo adduned Amser i Newid Cymru, mae’r tair elusen yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl.

Dywedodd Anthony Metcalfe, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid Cymru: “Mae Amser i Newid Cymru, fel yr ymgyrch gyntaf genedlaethol i ddod â stigma a gwahaniaethu i ben, yn hynod falch bod Coleg y Cymoedd wedi camu ymlaen ac wedi arwyddo’r adduned i ddelio â’r materion hyn ar draws eu gweithle a phob campws.

“Mae’r coleg yn ymuno â chorff cynyddol o gyflogwyr sy’n gweithio mewn partneriaeth gydag Amser i Newid Cymru i ddelio â’r anghydraddoldebau hyn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i fonitro’u cynnydd.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau