Heddiw, ymunodd grŵp o staff a dysgwyr o gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd â gweithwyr o Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) y GIG a leolir ar Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, i gasglu sbwriel ar hyd Heol Crochendy.
Mae’r fenter mewn partneriaeth a Chadwch Gymru’n Daclus yn dilyn gwahoddiad i’r coleg gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) y GIG yn gofyn am ei gefnogaeth i’r prosiect i fynd i’r afael â’r broblem a gwella’r ardal lle maen nhw’n gweithio ac yn dysgu.
Mae’r ystâd yn hynod o brysur gyda phobl yn manteisio ar eu hamser cinio ‘i gael eu camau i mewn’; cynnal eu ffitrwydd a’u lles. Fodd bynnag, dros y misoedd diwethaf mae’r gweithwyr wedi cael eu siomi o weld faint o sbwriel sydd ar ochr y ffordd; a phenderfynon nhw weithredu, gan wahodd sefydliadau a leolir ar yr ystâd i ymuno â nhw.
Dywedodd Michele Sehrawat, Pennaeth Cynllunio’r Gweithlu ac Ymarfer Ymgynghorol yn AaGIC â€Roedd yn gyffrous iawn ymuno â staff a myfyrwyr y coleg i gasglu sbwriel. Roedd ein holl wirfoddolwyr yn awyddus i fynd allan, i fod yn egnïol ac roeddent yn teimlo bod gadael yr ardal yn lanach nag yr oedd yn ffordd dda o dreulio amser.
Fel cyrff cyhoeddus, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o’n rôl mewn cymunedau, i wneud yr hyn a allwn i’w gwneud yn fwy deniadol ac i sicrhau chysylltiadau da. Byddwn yn gweithio i adeiladu ar y momentwm drwy annog sefydliadau eraill o’r ystâd i gymryd rhanâ€.
Wrth sôn am y prosiect casglu sbwriel, dywedodd Karen James, Cyfarwyddwr Campws Nantgarw, “Mae’r Coleg yn ddiolchgar am y gwahoddiad i ymuno â’r prosiect codi sbwriel, a fydd, gobeithio, yn weithgaredd rheolaidd. Roedd yn dda cwrdd â staff, dysgwyr a chynrychiolwyr sefydliadau a leolir ar yr ystâd i helpu i fynd i’r afael â’r sbwriel. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth wrth geisio gwneud yr ardal yn un heb sbwriel â€.
Gan ddiolch i’r gwirfoddolwyr, ychwanegodd Swyddog Prosiect Rhondda Cynon Taf ar gyfer Cadwch Gymru’n Daclus, Jessie Longstaff â€Diolch i bawb a gymerodd ran yn y casglu sbwriel ar hyd Heol Crochendy. Roedd yn wych gweld y gwirfoddolwyr, staff a myfyrwyr o gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd a AaGIC GIG yn dod at ei gilydd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n hamgylchedd. Diolch yn fawr iawn i Frankie a Benny’s am y coffi am ddim, a oedd bendant yn hanfodol ar ddiwrnod mor oer! â€