Coleg y Cymoedd yn ymuno â phrosiect casglu sbwriel

Heddiw, ymunodd grŵp o staff a dysgwyr o gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd â  gweithwyr o Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) y GIG a leolir ar Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, i gasglu sbwriel ar hyd Heol Crochendy.

Mae’r fenter mewn partneriaeth a Chadwch Gymru’n Daclus yn dilyn gwahoddiad i’r coleg gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) y GIG yn gofyn am ei gefnogaeth i’r prosiect i fynd i’r afael â’r broblem a gwella’r ardal lle maen nhw’n gweithio ac yn dysgu.

Mae’r ystâd yn hynod o brysur gyda phobl yn manteisio ar eu hamser cinio ‘i gael eu camau i mewn’; cynnal eu ffitrwydd a’u lles. Fodd bynnag, dros y misoedd diwethaf mae’r gweithwyr wedi cael eu siomi o weld faint o sbwriel sydd ar ochr y ffordd; a phenderfynon nhw weithredu, gan wahodd sefydliadau a leolir ar yr ystâd i ymuno â nhw.

Dywedodd Michele Sehrawat, Pennaeth Cynllunio’r Gweithlu ac Ymarfer Ymgynghorol yn AaGIC ”Roedd yn gyffrous iawn ymuno â staff a myfyrwyr y coleg i gasglu sbwriel. Roedd ein holl wirfoddolwyr yn awyddus i fynd allan, i fod yn egnïol ac roeddent yn teimlo bod gadael yr ardal yn lanach nag yr oedd yn ffordd dda o dreulio amser.

Fel cyrff cyhoeddus, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o’n rôl mewn cymunedau, i wneud yr hyn a allwn i’w gwneud yn fwy deniadol ac i sicrhau chysylltiadau da. Byddwn yn gweithio i adeiladu ar y momentwm drwy annog sefydliadau eraill o’r ystâd i gymryd rhan”.

Wrth sôn am y prosiect casglu sbwriel, dywedodd Karen James, Cyfarwyddwr Campws Nantgarw, “Mae’r Coleg yn ddiolchgar am y gwahoddiad i ymuno â’r prosiect codi sbwriel, a fydd, gobeithio, yn weithgaredd rheolaidd. Roedd yn dda cwrdd â staff, dysgwyr a chynrychiolwyr sefydliadau a leolir ar yr ystâd i helpu i fynd i’r afael â’r sbwriel. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth wrth geisio gwneud yr ardal yn un heb sbwriel ”.

Gan ddiolch i’r gwirfoddolwyr, ychwanegodd Swyddog Prosiect Rhondda Cynon Taf ar gyfer Cadwch Gymru’n Daclus, Jessie Longstaff ”Diolch i bawb a gymerodd ran yn y casglu sbwriel ar hyd Heol Crochendy. Roedd yn wych gweld y gwirfoddolwyr, staff a myfyrwyr o gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd a AaGIC GIG yn dod at ei gilydd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n hamgylchedd. Diolch yn fawr iawn i Frankie a Benny’s am y coffi am ddim, a oedd bendant yn hanfodol ar ddiwrnod mor oer! ”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau