Coleg yn Cefnogi llyfr coginio buddugol Felindre

Mae Llyfr Coginio Elusen y bu dysgwyr yr adran Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg y Cymoedd yn ymwneud ag ef; wedi’i ddewis i gynrychioli Cymru yn Macau, Tsieina’r haf nesaf. Bydd y llyfr yn y categori Teulu a Chodi Arian yn y digwyddiad ‘Gorau yn y Byd’, sy’n rhan o’r gwobrau anrhydeddus Gourmand World Cookbook Awards.

Gofynnodd Ceri Harris o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a arweiniodd ar y prosiect hwn i’r coleg am ei help wrth ddatblygu llyfr coginio newydd i gleifion Felindre; ac roeddent wrth eu bodd pan gynigodd y Coleg ei gefnogaeth.

Roedd y dysgwyr, sy’n astudio yng nghampws Nantgarw, ynghyd â’u tiwtoriaid, yn awyddus i gymryd rhan yn y gwaith o baratoi a phrofi ryseitiau prydau ar gyfer y llyfr. Mae adran Diwydiannau Creadigol y coleg hefyd wedi helpu cynhyrchu’r ffotograffau o’r bwyd blasus i’w cynnwys yn y Llyfr Coginio.

Mae’r coleg hefyd wedi dewis Felindre fel un o’i elusennau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon a bydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau / gweithgareddau codi arian trwy gydol y flwyddyn; enghraifft o hyn oedd noson Gala a gynhaliwyd yn y coleg i ddiolch i gleifion ac aelodau’r teulu y mae eu ryseitiau wedi’u cynnwys yn y llyfr.

Dywedodd Kevin Hall, darlithydd Arlwyo a Lletygarwch yn y Coleg Mae’r staff a’r dysgwyr yng nghampws Nantgarw yn falch iawn o fod wedi gweithio gyda Felindre i greu’r llyfr ryseitiau newydd cyffrous hwn. Rydym ni’n credu ei fod yn brosiect gwych, a fydd yn dod â chymunedau, dysgwyr a gweithwyr proffesiynol at ei gilydd. Mae bwyd yn cael ei fwyta nid yn unig i’n llenwi; mae’n cyffroi, yn ysbrydoli ac yn ennyn atgofion a dathliadau hyfryd. Bydd y llyfr coginio hwn yn caniatáu i genedlaethau rannu eu hatgofion a’u ryseitiau ar gyfer blynyddoedd i ddod. Rwyf yn bersonol yn edrych ymlaen at brofi’r ryseitiau a ddewiswyd, gan godi syniadau newydd a chwrdd â phawb sy’n ymwneud ag achos mor wych. “

Wrth ddiolch i’r Coleg, dywedodd Ceri, “Mae’r Llyfr Coginio hwn wedi bod yn llafur cariad ac rwyf yn hapus iawn y bydd yn cynrychioli Cymru mewn seremoni wobrwyo mor fawreddog. Hoffwn ddiolch i’r staff a’r dysgwyr am eu cefnogaeth gyda’r llyfr coginio ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol. Ein nod yw gwerthu 1,000 o gopïau o’r llyfr erbyn y Nadolig a chodi cymaint o arian ag y gallwn i helpu yn y frwydr yn erbyn canser “.

Mae’r llyfr ar werth am £10 gyda’r holl enillion yn mynd tuag at Felindre. Am ragor o wybodaeth neu i gael copi o Lyfr Coginio Felindre cysylltwch â Velindre.cookbook@wales.nhs.uk neu https://www.etsy.com/uk/shop/VelindreCookbook

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau