Coleg yn croesawu buddsoddiad o £100k mewn ystafelloedd gemau cyfrifiadur a chyrsiau newydd er mwyn gyrru myfyrwyr i ddiwydiant

Mae ystafell gemau cyfrifiadur bwrpasol wedi’i datblygu yng Ngholeg y Cymoedd yn barod ar gyfer lansio dau gwrs datblygu gemau fideo arbenigol newydd yn y coleg yn ddiweddarach eleni.

Mae buddsoddiad o £50k wedi creu ystafell gemau cyfrifiadur o safon diwydiant ar gampws Aberdâr gyda chyfrifiaduron ac offer penodol a ddefnyddir gan ystod o weithwyr proffesiynol yn y sector, o raglenwyr a dylunwyr i brofwyr gemau fideo a pheirianwyr sain.

Yn dilyn creu’r cyfleuster gemau cyfrifiadur yn Aberdâr, mae’r coleg yn y broses o ddatblygu ystafell TG ac animeiddio bwrpasol ar ei gampws yn y Rhondda drwy fuddsoddiad pellach o £50k, a fydd yn gwella sgiliau dysgwyr creadigol sy’n astudio cymwysterau celf, dylunio ac animeiddio gemau cyfrifiadur.

Bydd y cyfleusterau newydd yn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y dyfodol yn y diwydiant gemau proffidiol; diwydiant sydd yn werth mwy na thua £3.86 biliwn yn y DU yn unig a dros £117 biliwn ledled y byd. Rhagwelir y bydd swyddi yn y sector gemau cyfrifiadur yn cynyddu deirgwaith erbyn 2025 gan arwain at alw cynyddol am weithwyr medrus yn y sector.

Mewn ymateb i hyn, mae adrannau Diwydiannau Creadigol a Chyfrifiadureg a Pheirianneg Coleg y Cymoedd wedi uno i gynnig cwricwlwm hollgynhwysol wedi’i deilwra er mwyn bodloni gofynion y diwydiant gemau ffyniannus.

Mae’r ystafell gemau cyfrifiadur newydd yn Aberdâr yn cyd-fynd â lansiad dau gwrs newydd yn y coleg sy’n canolbwyntio ar Ddatblygu Gemau a TG, a Dylunio, Celf ac Animeiddio ar gyfer Gemau Cyfrifiadur.

Bydd cymwysterau mewn Datblygu Gemau a TG, a ddarperir gan adran Gyfrifiadureg a Pheirianneg y coleg, yn cael eu cynnig ar ei gampysau yn Aberdâr ac Ystrad Mynach. Bydd dysgwyr ar y cyrsiau hyn, a fydd yn dysgu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer datblygu gemau fideo, yn elwa o’r offer a’r adnoddau o’r radd flaenaf y bydd yr ystafell gemau newydd yn eu darparu.

Lleolir y cymhwyster mewn Dylunio, Celf ac Animeiddio Gemau ar gampws y Rhondda, a fe’i cynigir drwy’r adran Diwydiannau Creadigol. Mae’r cymhywster yn canolbwyntio’n fwy ar elfennau dylunio datblygu gemau fideo, gan ddysgu dysgwyr am dueddiadau a thechnoleg ddiweddaraf y diwydiant yn ogystal â’r sgiliau technegol sydd eu hangen i lwyddo yn y maes.

Dywedodd David Howells, Pennaeth ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Coleg y Cymoedd: “Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno ein cymwysterau gemau cyfrifiadur newydd ac yn croesawu ein carfan gyntaf o ddysgwyr i’n cyfres gemau cyfrifiadur arbenigol newydd. Bydd y cyrsiau a’r cyfleusterau hyn yn helpu i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr i fynd i weithio yn y diwydiant gemau sy’n tyfu.

“Rydym yn gweld galw mawr am sgiliau digidol gan gyflogwyr ac mae’r diwydiant gemau yn arbennig yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn ein cymuned leol a ledled y byd. Mae’n bwysig i ni ein bod yn paru datblygiad cyflym y sector hwn a’r diddordeb cynyddol mewn gyrfaoedd ynddo gyda chymwysterau addas a fydd yn rhoi’r sgiliau digidol trosglwyddadwy sydd eu hangen ar ddysgwyr i ffynnu yn y diwydiant gemau cyfrifiadur. “

Mae’r cydweithio rhwng yr adrannau Diwydiannau Creadigol a Chyfrifiadura a Pheirianneg yng Ngholeg y Cymoedd yn nodi’r cyntaf o nifer o gynlluniau’r coleg i fod ar flaen y gad o ran darpariaethau addysgu digidol a gemau.

Yn ogystal â rhoi mynediad i ddysgwyr at offer a hyfforddiant o’r radd flaenaf gan diwtoriaid arbenigol sydd â phrofiad gwerthfawr yn y diwydiant, mae’r coleg hefyd yn annog cydweithio traws-gwricwlwm ar gyrsiau sy’n croesi’r ddwy adran, fel sylwebaeth sain gemau fideo, gan roi hwb pellach i setiau sgiliau dysgwyr.

 

Dywedodd Rory Meredith, Pennaeth Ysgol y Diwydiannau Creadigol yng Ngholeg y Cymoedd: “Bydd ein darpariaethau cwrs newydd yn helpu i gwrdd â’r awydd cynyddol a welwn am gemau cyfrifiadur ymhlith ddysgwyr a diwydiant. Trwy weithio gyda’n gilydd ar draws adrannau, gallwn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu’r rhestr lawn o sgiliau y bydd eu hangen arnynt i weithio yn y diwydiant gemau cyfrifiadur modern, gan helpu i’w paratoi ar gyfer gyrfaoedd posibl mewn ystod o wahanol rolau. “

Yn ogystal â buddsoddi mewn cyfleusterau newydd, mae Coleg y Cymoedd hefyd yn bwriadu lansio ei dîm ‘eChwaraeon’ ei hun i roi profiad ymarferol pellach i ddysgwyr, gyda’r nod o gystadlu’n genedlaethol.

Mae byd twrnameintiau gemau fideo wedi ennill amlygrwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’n cael ei gydnabod a’i gefnogi gan Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU. Gyda nifer o gystadlaethau mawr fel Pencampwriaethau E-Chwaraeon Prydain 2021 a Phencampwriaethau Cynghrair y DU, bydd y tîm newydd yn rhoi cyfle i ddysgwyr ar draws y coleg gymryd rhan yn y diwydiant hwn sy’n dod i’r amlwg waeth beth fo’u cefndir cwrs.

 Am ragor o wybodaeth am gyrsiau Celf, Dylunio a Datblygu Gemau Coleg y Cymoedd ewch i: https://www.cymoedd.ac.uk/cy/courses/?Keyword=game

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau