Coleg yn ennill gwobr am ysgogi newid o ran cymorth i ofalwyr ifanc

Mae coleg yn Ne Cymru wedi derbyn gwobr genedlaethol i gydnabod ei waith rhagorol yn cefnogi gofalwyr ifanc.

Mae Coleg y Cymoedd wedi derbyn achrediad ‘Safon Ansawdd ar gyfer Cymorth i Ofalwyr’ (QSCS) Ffederasiwn y Gofalwyr sy’n cydnabod sefydliadau sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi gofalwyr.

Y cyflawniad hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o anrhydeddau a dderbyniwyd gan y coleg am ei waith gyda gofalwyr ifanc. Enillodd y Coleg wobr efydd ac arian Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Rhondda Cynon Taf yn gynharach eleni.

Datblygwyd achrediad QSCS gan ofalwyr ar gyfer gofalwyr, ac mae’n gwobrwyo sefydliadau sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu gofalwyr ac sydd wrthi’n gweithio tuag at ddiddymu’r rhwystrau hyn drwy ddatblygu polisïau priodol i’w helpu i wella’r mynediad at gefnogaeth.

Derbyniodd Coleg y Cymoedd y wobr oherwydd ei waith rhagweithiol wrth adnabod a chefnogi dysgwyr yn y coleg sydd â dyletswyddau gofalu. Mae’r coleg wedi cyflwyno nifer o fesurau i helpu i leddfu’r pwysau ar ofalwyr, gan gynnwys gwneud addasiadau i gyrsiau, hyrwyddo gweithio hyblyg i ddiwallu eu hanghenion a chaniatáu ar gyfer unrhyw amser a gollir er mwyn cyflawni cyfrifoldebau gofalu. Hefyd, mae’r coleg yn cynnig cymorth ariannol i ofalwyr ifanc, gan gyfrannu at gostau cludiant yn ogystal â darparu prydau bwyd am ddim.

Canmolodd Ffederasiwn y Gofalwyr Goleg y Cymoedd hefyd am ei ymdrechion i ddarparu arweiniad ychwanegol i’r dysgwyr hyn a chynnig clust i wrando pan fydd angen hynny arnynt. Mae pob dysgwr yn derbyn cynllun cymorth unigol wedi’i deilwra ac mae staff wrth law i gefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles.

Mae’r coleg wedi gweithredu’r newidiadau hyn fel rhan o ‘Raglen Ysgogi Newid’ Ffederasiwn y Gofalwyr sy’n ceisio gwella’r gefnogaeth y mae gofalwyr oedolion ifanc mewn addysg bellach yn ei chael, gan sicrhau bod systemau ar waith i’w galluogi i lwyddo yn eu hastudiaethau.

Dywedodd Laura Wilson, Swyddog Lles a Hyrwyddwr Gofalwyr yng Ngholeg y Cymoedd: “Gall fod yn hynod heriol i ofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion jyglo cyfrifoldebau bod yn ofalwr gyda’u hastudiaethau. Gall goblygiadau ymarferol ac emosiynol gofalu am rywun fod yn straen, gan olygu bod llawer o ofalwyr yn esgeuluso eu hanghenion eu hunain yn y pen draw.

“Canlyniad hyn yw bod gofalwyr yn rhy aml o lawer yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl ac maent yn debygol o ymddieithrio â’u haddysg neu eu cyflogaeth wrth i’r cyfan fynd yn ormod iddynt.”

Mae ymchwil yn dangos bod gofalwyr ifanc dair gwaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) o gymharu â phobl ifanc eraill, a phum gwaith yn fwy tebygol o adael y coleg oherwydd yr anawsterau y maent yn eu cael wrth gydbwyso eu dyletswyddau fel gofalwr a’u haddysg.

Mae Alisha Morgan yn 20 oed, yn ddysgwr yn y coleg ac yn ofalwr ifanc. Roedd Alisha’n rhan o ddatblygu’r prosiect a dywedodd: “Rwy’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a dderbyniaf yn y coleg. Mae fy nhiwtoriaid yn fy nghefnogi ac yn fy annog gyda fy nysgu ac yn deall pan fyddaf wedi blino ac yn teimlo fel rhoi’r gorau iddi. Rwy’n gallu cael amserlen hyblyg, cymorth ariannol a Hyrwyddwr Gofalwyr ymroddedig y gallaf siarad â nhw pryd bynnag y mae ei angen arnaf.

“Mae sicrhau achrediad QSCS wedi bod yn fuddiol iawn wrth godi ymwybyddiaeth gofalwyr ifanc yn y coleg. Mae’n cydnabod y gwaith y mae Coleg y Cymoedd wedi’i wneud i godi llais gofalwyr ifanc ac i’n helpu i gyflawni ein cymwysterau. ”

Cred Ffederasiwn y Gofalwyr, drwy ddeall anghenion gofalwyr ifanc a rhoi gwell cefnogaeth a darpariaethau ar waith, y gellir gwella eu profiadau o addysg, gan arwain at gyfraddau uwch o ran cadw, presenoldeb a chyflawni.

Ychwanegodd Laura: “Mae’n bwysig i ni fod pob dysgwr yn y coleg yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial. Gall fod yn anodd i ddysgwyr sydd â rolau gofalu gwblhau eu hastudiaethau coleg ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu, ond credwn yn gryf na ddylai hyn eu dal yn ôl rhag gallu cwblhau eu cymwysterau.

“Fy nod yw sicrhau bod addysg yn hygyrch i bob gofalwr ifanc a gweithio gyda’r coleg i sicrhau bod mecanweithiau cymorth ar waith i helpu’r dysgwyr hyn i ffynnu mewn addysg a llwyddo.”

Gweithiodd Coleg y Cymoedd yn agos gyda Ffederasiwn y Gofalwyr i wella ei arfer gorau ar gyfer gofalwyr sy’n oedolion ifanc ac ennill yr achrediad. Adolygodd Ffederasiwn y Gofalwyr bolisïau presennol y coleg a darparu pecyn cymorth wedi’i deilwra gyda’r nodau a argymhellir, gan gydweithio â staff i gyflawni’r rhain.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau