Coleg yn gwneud ei ran i gefnogi’r GIG i ymladd yn erbyn COVID-19

Mae coleg yng nghymoedd De Cymru yn gwneud ei ran i gefnogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned drwy ddarparu offer ac adnoddau i helpu yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

Mae Coleg y Cymoedd, sydd â phedwar campws yn Nantgarw, y Rhondda, Aberdâr ac Ystrad Mynach, wedi darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) hanfodol ac wedi agor ei ddrysau i staff y GIG tra bod staff a dysgwyr yn parhau i astudio o’u cartrefi.

Mae’r prinder PPE ymhlith gweithwyr gofal iechyd wedi cael dipyn o sylw yn y wasg, felly mae’r coleg wedi rhoi’r holl fenig, mygydau, sbectol ddiogelwch a ffedogau tafladwy o bob un o’i gampysau i gartrefi gofal lleol er mwyn cadw gweithwyr yn ddiogel. Casglwyd yr offer o ystod o adrannau gan gynnwys gwyddoniaeth, arlwyo, iechyd a gofal cymdeithasol, diwydiannau creadigol a gwallt a harddwch.

Hefyd, mae’r coleg wedi rhoi dros 350 potel o hylif diheintio dwylo i wasanaethau rheng flaen. Gan achub y blaen ar yr angen am gynnyrch diheintio’n gynnar, roedd y coleg wedi archebu’r poteli cyn y cyfnod cyfyngiadau symud er mwyn eu rhoi mewn mannau cyffredin lle na fyddai staff a dysgwyr o reidrwydd yn gallu cyrchu cyfleusterau golchi dwylo.

Wedi i’r coleg ddechrau dysgu o bell, dewisodd roi’r cynhyrchion diheintio dwylo i’r GIG a chartrefi gofal lle’r oedd eu hangen fwyaf. Mae’r cynhyrchion wedi’u rhannu rhwng dau ysbyty – Ysbyty Ystrad Fawr ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg – yn ogystal ag i Gyngor Taf Rhondda Cynon, sy’n eu rhannu ymhlith cartrefi gofal lleol.

Yn ogystal â chyflenwi cyfarpar diogelu a chynhyrchion diheintio, mae Coleg y Cymoedd wedi agor ei gyfleusterau i wasanaethau gofal iechyd sy’n defnyddio cyfleusterau’r campysau i hyfforddi cyn-weithwyr y GIG sydd wedi ymddeol sydd wedi dewis dychwelyd i’r rheng flaen.

Hefyd, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi defnyddio campysau fel gorsafoedd rhoi gwaed, gan fod maint yr ystafelloedd yn caniatáu gweithredu mesurau ymbellhau cymdeithasol priodol wrth gasglu gwaed.

Yn ogystal â helpu’r gwasanaethau iechyd a gofal, mae’r coleg hefyd wedi cefnogi’r gymuned leol, gan roi bwyd i Fanc Bwyd Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Karen Phillips, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydym i gyd yn ddiolchgar i staff ein GIG a’n gweithwyr gofal sy’n gweithio ar reng flaen y coronafeirws am eu gwaith caled a’u hymroddiad ac rydym eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi.

“Roedd rhoi pob eitem o gyfarpar diogelu sydd gennym yma yn y coleg yn benderfyniad amlwg, ac rydym yn falch ein bod wedi gallu helpu’r GIG i ddefnyddio ein hystafelloedd. Rydym ymchwilio i ffyrdd o greu ein fisorau PPE ein hunain yn fewnol er mwyn cefnogi’r gwasanaeth iechyd ymhellach.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau