Coleg yn lansio menter sy’n cefnogi talent greadigol o Gymru i weithio yn y diwydiant ffilm

Mae coleg yng nghymoedd De Cymru wedi ymuno â chorff creadigol blaenllaw er mwyn hybu cyfleoedd dysgwyr i sicrhau gyrfa ym myd ffilm a theledu.

Mae Coleg y Cymoedd wedi partneru’n swyddogol â Screen Alliance Wales, sefydliad dielw sy’n gweithio i ddatblygu a thyfu talent ar gyfer diwydiannau teledu a ffilm Cymru.

Bydd y bartneriaeth yn galluogi dysgwyr i ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant gyda chwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru, yn ogystal â’r cyfle i ddysgu’n uniongyrchol gan arbenigwyr blaenllaw yn y maes.

Er bod y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer y rhaglen yn canolbwyntio ar gynnig lleoliadau gwaith a theithiau o amgylch cyfleusterau, yng ngoleuni’r amgylchiadau presennol, addaswyd elfennau o’r cynllun er mwyn canolbwyntio ar ddosbarthiadau rhithwir a gweithdai cymdeithasol o bell. Hefyd, bydd dysgwyr yn mynychu sesiynau hyfforddi ar sut i weithredu’n ddiogel yn y sector yn ystod y pandemig.

Unwaith y bydd yn briodol, mae’r coleg yn gobeithio cyflwyno’r rhaglen lawn, a fydd yn rhoi mynediad i ddysgwyr at leoliadau profiad gwaith amrywiol lle byddant yn gallu cysgodi gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chael trosolwg ar wahanol rolau ym myd teledu a ffilm. Hefyd, byddant yn elwa o ymweliadau a theithiau o amgylch Wolf Studios Wales yng Nghaerdydd, sy’n enwog am gynhyrchu sioeau fel yr rhaglen boblogaidd His Dark Materials ar BBC1, drama Sky A Discovery of Witches a chyd-gynhyrchiad BBC / HBO sydd ar y gweill.

Fel cam cyntaf creu cysylltiadau cryfach â diwydiant yng Ngholeg y Cymoedd, mae’r tîm talentog y tu ôl i His Dark Materials wedi sefydlu canolfan yn y coleg. Bydd penaethiaid Effeithiau Creaduriaid y sioe, Brian Fisher ac Eliot Gibbins, sy’n gyfrifol am greu’r cyfeiriadau ar-set ar gyfer y creaduriaid a geir yn y gyfres, yn gweithio o’r coleg dros y flwyddyn nesaf, yn datblygu effeithiau creaduriaid ar gyfer amrywiaeth o gynyrchiadau ffilm a theledu.

Fel artistiaid preswyl, byddant yn rhannu byd hynod ddiddorol effeithiau creaduriaid â’r dysgwyr, gan ddangos iddynt sut y defnyddir pypedau traddodiadol ac effeithiau gweledol blaengar i ddod â chythreuliaid ac anifeiliaid yn fyw ar y sgrin.

Dywedodd Eliot Gibbins: “Rydym yn angerddol am addysgu a meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent greadigol. Bydd cael ein lleoli yng Ngholeg y Cymoedd yn ein galluogi i gynnig cyfleuster addysgol, gan gynnal seminarau a gweithdai i helpu myfyrwyr i ennill profiad ymarferol a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gael swydd yn y diwydiant.

“Yn ogystal â helpu i greu cyflenwad o ddarpar ymgeiswyr ar gyfer rolau yn y dyfodol, bydd cael canolfan yma yn caniatáu inni ddefnyddio offer anhygoel y coleg sydd flaen y gad yn y diwydiant.”

Mae Jacob Mansell, sy’n 18 oed ac yn dod o Ben-coed, yn un o’r dysgwyr sydd ar fin elwa o’r bartneriaeth. Dywedodd Jacob, sydd newydd ddechrau cwrs mewn creu propiau yng Ngholeg y Cymoedd: “Rwy’n llawn cyffro wrth ddechrau fy nghwrs mewn creu propiau a rhan o’r rheswm pam y dewisais astudio yma oedd oherwydd y cysylltiadau â diwydiant. Bydd ennill profiad gwaith yn hanfodol i hybu fy nghyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiannau creadigol.

“Bydd cael y cyfle i weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn fy helpu i benderfynu ym mha faes rydw i eisiau gweithio, yn rhoi hwb i’m sgiliau ac yn fy helpu i sefyll allan oddi wrth bobl eraill. Hefyd, bydd yn fy ngalluogi i greu cysylltiadau â phobl allweddol yn y diwydiant, a fydd yn ddefnyddiol iawn yn y dyfodol. ”

Hefyd, fel rhan o’r bartneriaeth â Screen Alliance Wales, bydd y coleg yn gweithio’n agos gyda’r sefydliad i ddatblygu ei gyrsiau yn unol â gofynion y diwydiant, gan sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau y bydd eu hangen arnynt ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus. Hefyd, gwahoddir arbenigwyr blaenllaw i gynnal dosbarthiadau meistr i ddysgwyr creadigol y coleg.

Diolch i’r bartneriaeth, bydd dysgwyr ar gyrsiau creadigol yn gallu datblygu ystod o sgiliau allweddol ar gyfer y diwydiant gan gynnwys gwaith camera, effeithiau arbennig a chreu propiau. Hefyd, byddant yn cymryd rhan mewn ffug gyfweliadau i’w paratoi ar gyfer rolau yn y dyfodol mewn meysydd creadigol.

Dywedodd Alistair Aston, arweinydd y cwrs Creu Propiau ar gyfer Teledu a Ffilm yng Ngholeg y Cymoedd: “Rydym yn gyffrous iawn i fod yn cydweithio â Screen Alliance Wales a bydd y bartneriaeth yn dod â llawer o fuddion i’n dysgwyr, gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau a’r profiad i ymuno â gweithlu’r dyfodol.

“Yn amlwg, gyda’r hinsawdd sydd ohoni, bu’n rhaid addasu pethau i sicrhau bod dysgwyr yn parhau i gael mynediad at brofiad a gwybodaeth gweithwyr proffesiynol y diwydiant mewn ffordd ddiogel. Rydym wrth ein boddau bod tîm effeithiau creaduriaid His Dark Materials yn ymuno â ni fel artistiaid preswyl yn y coleg. Byddant yn adnodd dysgu amhrisiadwy i ddysgwyr ar draws ein portffolio cyfan o gyrsiau creadigol.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau